Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i sicrhau eich bod yn rhoi presgripsiynau’n ddiogel. Maent yn eich atgoffa bod rhaid i chi, lle bo'n bosibl, osgoi presgripsiynu ar eich cyfer chi eich hun neu'r rhai sy'n agos atoch chi. Maent yn ymdrin â’r hyn y mae angen i chi ei ystyried wrth roi presgripsiynau rheolaidd, presgripsiynu cyffuriau rheoledig neu rannu cyfrifoldeb eich claf â chydweithiwr.

Mae safonau arfer da yn berthnasol i bob meddyg sy’n gweithio ym mhob lleoliad. Dyna pam mae cyngor ar bresgripsiynu wyneb yn wyneb ac o bell wedi’i integreiddio ymhob rhan o'r canllawiau. Rydym hefyd yn nodi pethau i’w hystyried wrth roi presgripsiynau i gleifion sydd dramor neu wrth roi meddyginiaethau didrwydded ar bresgripsiwn. 

Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ar 18 Chwefror 2021 a daethant i rym ar 5 Ebrill 2021.

Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ar 15 Mawrth 2022.  Roedd hyn yn cynnwys diweddaru’r adran ‘Rhoi gwybod am adweithiau niweidiol i gyffuriau a digwyddiadau’n ymwneud â dyfeisiau meddygol a digwyddiadau eraill yn ymwneud â diogelwch cleifion’, i gyfeirio at y trefniadau a’r derminoleg ddiweddaraf ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol a damweiniau a fu bron â digwydd ledled y DU. Rydym hefyd wedi diweddaru ffeithiau yn yr adran 'Rhagnodi meddyginiaethau didrwydded', i roi eglurder ynglŷn â phresgripsiynu meddyginiaethau a gyflenwir o dan Lwybr Cymeradwy MHRA Gogledd Iwerddon (NIMAR).