Ôl-nodion
‘Arfer meddygol da’ (2024) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Ni all cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia bresgripsiynu meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig, ond maent yn ymwneud â chynnig meddyginiaethau neu ddyfeisiau i bresgripsiynydd awdurdodedig eu hadolygu a’u llofnodi. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau, unwaith y bydd cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn rolau rheoledig, na fydd unigolion a gyflogir yn y swyddogaethau hyn yn gallu presgripsiynu’n gyfreithlon gan ddefnyddio hawliau presgripsiynu o rôl reoledig arall. Mae hawliau presgripsiynu yn benodol i’r proffesiwn rheoledig lle cawsant eu caniatáu (fe’u rhoddir i unigolion ar ôl iddynt gael yr hyfforddiant angenrheidiol) ac nid oes modd eu trosglwyddo. Er enghraifft, os ydych wedi ennill hawliau presgripsiynu fel nyrs neu feddyg, ni allwch eu defnyddio tra’n gweithio fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. O 13 Rhagfyr 2024 ymlaen, ni ddylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gyflogir mewn rolau cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia dynodedig bresgripsiynu meddyginiaethau, hyd yn oed os oes ganddynt hawliau presgripsiynu o broffesiwn blaenorol neu os ydynt wedi cael eu hawdurdodi i bresgripsiynu gan eu cyflogwr o’r blaen.
Ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (2012) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Gellir defnyddio gwasanaethau presgripsiynu electronig hefyd. Yn Lloegr, gellir anfon presgripsiynau’n electronig i fferyllfa; yng Nghymru a’r Alban, cedwir gwybodaeth mewn cod bar ar bresgripsiwn papur. I gael rhagor o fanylion, ewch i Get Started with EPS, Y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Prescriptions electronically, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru; Electronic Transfer of Prescriptions (ETP), Llywodraeth yr Alban. Efallai y bydd gwasanaethau presgripsiynu electronig yn cael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon yn y dyfodol.
Gweler y canllawiau ar Dirprwyo a chyfeirio (2013). Gweler hefyd Supply and administration of Botox®, Vistabel®, Dysport® and other Injectable medicines in cosmetic procedures, Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd.
Gweler Clinical Indications.
Gweler Pennod 14 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 Rhif 1916 – SI 2012/1916 a ‘The Blue Guide: Advertising and Promotion of Medicines in the UK’ (MHRA, 3ydd argraffiad, 2il ddiwygiad, Gorffennaf 2019). Mae’r MHRA yn Asiantaeth yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb rheoleiddio dros feddyginiaethau (at ddefnydd pobl), gwaed a dyfeisiau meddygol yn y DU
The doctor will zoom you now: getting the most out of the virtual health and care experience’ Gorffennaf 2020, Healthwatch, Traverse, National Voices.
Mae gan ein canolfan foesegol adnoddau ar ddefnyddio ein canllawiau yn ymarferol i’ch helpu i benderfynu a yw ymgynghoriadau wyneb yn wyneb neu o bell yn briodol mewn sefyllfaoedd eraill.
Mewn rhai amgylchiadau, megis darparu gwasanaethau iechyd rhywiol, efallai y bydd pryderon ynghylch preifatrwydd yn drech na’r angen i rannu gwybodaeth.
Gwneud penderfyniadau a chydsyniad (2020) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
NHS Choices a gwybodaeth sy’n dwyn marc ansawdd y Safon Gwybodaeth, er enghraifft. Gweler hefyd electronic medicines compendium
Mae’r cysyniad o fudd cyffredinol yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth ‘o fudd’ i glaf (yr Alban), neu er ‘budd pennaf’ y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) ‘Decision making and consent’ Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (paragraff 87).
Gweler hefyd ‘Confidentiality: Good practice in handling patient information’ (paragraffau 44 i 49).
Mae gwefan NICE yn cynnwys gwybodaeth, canllawiau ac offer ar gyfer deall a gwella ymlyniad. Gweler hefyd ganllaw NICE ar Medicines adherence.
Am wybodaeth bellach, gweler arweiniad CFfC ynghylch darparu gwasanaethau fferyllol o bell, gan gynnwys ar y rhyngrwyd (Ebrill 2019). Mae Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) yn cynnig arweiniad i fferyllfeydd yng Ngogledd Iwerddon.
I gael rhagor o wybodaeth am ragnodi ar gyfer rhannu gofal gweler yr adnoddau a gyhoeddwyd gan NHS England, Canolfan Gwybodaeth am Feddyginiaethau Cymru, byrddau iechyd GIG yr Alban ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
Gweler astudiaeth EQUIP (Errors – Questioning Undergraduate Impact on Prescribing) ynghylch dirprwyo cyfrifoldeb yn amhriodol dros ysgrifennu crynodebau rhyddhau i staff iau heb hyfforddiant digonol mewn ffarmacoleg na gwybodaeth ddigonol am gleifion
Lansiwyd y gwasanaeth LFPSE ym mis Gorffennaf 2021 ac mae wedi disodli’r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu (NRLS) a gafodd ei datgomisiynu ar 30 Mehefin 2024. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth LFPSE ar gael ar NHS England.