Diprwyo ac atgyfeirio
Mae’r canllawiau hyn yn edrych yn fanwl ar ddirprwyo a sut mae gan y ddwy ochr gyfrifoldebau ar wahân a sut mae hyn yn gweithio.
Ar gyfer y rheini sy’n dirprwyo, maent yn dweud wrthych chi:
- sut i roi cyfarwyddiadau clir,
- yr wybodaeth i’w throsglwyddo
- pwysigrwydd gwirio dealltwriaeth.
Maent hefyd yn rhoi cyngor ar ffyrdd o wirio i gael eich bodloni bod eich cydweithiwr yn gallu gwneud y dasg.
Ar gyfer y rheini sy’n derbyn tasgau dirprwyedig,
- mae manylion am y cyfrifoldeb i ddeall y dasg
- gofyn am help neu eglurhad pan fo angen
- yr angen i roi diogelwch cleifion cyn pob ystyriaeth arall.
Maent hefyd yn rhoi cyngor ar atgyfeirio cleifion yn ddiogel at weithwyr meddygol a gofal iechyd proffesiynol eraill, a sut i egluro hyn i'ch cleifion.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.