Atodiad – Dyfyniadau o Arfer meddygol da
Dirprwyo mewn ffordd ddiogel a phriodol
66. Rhaid i chi deimlo’n hyderus bod unrhyw unigolyn y byddwch yn dirprwyo iddo yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni’r dasg yr ydych yn ei dirprwyo. Rhaid i chi roi cyfarwyddiadau clir iddo a’i annog i ofyn cwestiynau a cheisio cymorth neu oruchwyliaeth os bydd ei hangen arnynt.
67. Os bydd cydweithiwr yn dirprwyo tasg i chi ond nid ydych chi’n teimlo’n hyderus eich bod yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau neu’r hyfforddiant i’w chyflawni yn ddiogel, rhaid i chi flaenoriaethu diogelwch y claf a cheisio cymorth, hyd yn oed os byddwch eisoes wedi cytuno i gyflawni’r dasg yn annibynnol.
68. Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl, Dirprwyo ac atgyfeirio.
69. Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion ffurfiol o’ch gwaith (gan gynnwys cofnodion cleifion) yn glir, yn fanwl, yn gyfoes3 ac yn ddarllenadwy.
70. Dylech fabwysiadu dull gweithredu cymesur tuag at lefel y manylder, ond fel arfer dylai cofnodion cleifion gynnwys:
- canfyddiadau clinigol perthnasol
- cyffuriau, ymchwiliadau neu driniaethau a gynigiwyd, a ddarparwyd neu a ragnodwyd
- y wybodaeth a rannwyd gyda chleifion
- pryderon neu ddewisiadau a fynegwyd gan y claf, y gallent fod yn berthnasol i’w ofal parhaus, ac yr aethpwyd i’r afael â nhw
- gwybodaeth am unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau o ran cymorth cyfathrebu
- penderfyniadau a wnaethpwyd, camau gweithredu y cytunwyd arnynt (gan gynnwys penderfyniadau i beidio â gwneud unrhyw beth) a phryd/a ddylai penderfyniadau gael eu hadolygu
- pwy sy’n creu’r cofnod a phryd.
71. Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am gleifion, cydweithwyr neu eraill mewn ffordd ddiogel, ac yn unol ag unrhyw ofynion cyfraith diogelu data, a rhaid i chi ddilyn ein canllaw ynghylch Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.
Ystyr cyfoes ydy creu cofnodion ar yr un pryd â’r digwyddiadau yr ydych yn eu cofnodi, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny.