Camymddwyn rhywiol gan feddyg, cydymaith meddygol neu cymdeithion anesthesia: canllaw i gleifion a’r cyhoedd
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer cleifion sydd wedi dioddef unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol gan feddyg, cydymaith meddygol (PA) neu cymdeithion anesthesia (AA) yn ogystal â'r rhai sy'n eu cynorthwyo.
Gellir ymddiried yn y rhan fwyaf o feddygon, cymdeithion meddygol neu cymdeithion anesthesia i drin eu cleifion yn broffesiynol ac yn briodol. Ond os bydd meddyg yn cymryd mantais o’r ymddiriedaeth honno ac yn aflonyddu’n rhywiol arnoch chi, yn eich cam-drin yn rhywiol neu’n ymosod yn rhywiol arnoch chi, byddwn yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch beth i’w wneud nesaf, ac yn cymryd y pryderon rydych yn eu rhannu â ni o ddifri. Mae camymddwyn rhywiol ym maes gofal iechyd bob amser yn annerbyniol a gall fod yn droseddol ei natur, fel treisio ac ymosod yn rhywiol.
Mae rhoi gwybod am gamymddygiad rhywiol yn gallu bod yn anodd iawn a pheri gofid. Rydyn ni wedi darparu gwybodaeth yn yr adnodd hwn i’ch helpu chi.
Os oes gennych chi gwestiynau am yr wybodaeth, neu os hoffech chi fynegi pryder, cysylltwch â ni.