Cyngor a chymorth

Gall achosion o gamymddwyn rhywiol effeithio’n sylweddol ar eich bywyd cyfan, gan gynnwys eich iechyd meddwl, eich perthnasoedd a’ch gwaith. Gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud nesaf. Mae gan y mudiadau a restrir lawer o wybodaeth a chymorth a allai helpu. Nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Mae Rape Crisis Cymru a Lloegr, Rape Crisis yr Alban a Rape Crisis Gogledd Iwerddon yn cynnig cefnogaeth emosiynol breifat, a gwybodaeth am ddim dros y ffôn neu e-bost, a gallant hefyd eich cyfeirio at lefydd eraill.

Mae cyngor y GIG ar gymorth ar ôl trais ac ymosodiadau yn dweud wrthych beth i’w wneud, y gwasanaethau sy’n gallu helpu a sut mae cefnogi pobl.

Mae Rights of Women yn darparu cyngor cyfreithiol cyfrinachol ac am ddim i fenywod a merched drwy eu llinell gymorth aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Mae gan SurvivorsUK linell gymorth genedlaethol ar-lein sy’n breifat ac am ddim i ddynion a bechgyn.

Mae gan GALOP linell gymorth gyfrinachol ac annibynnol rhad ac am ddim i unrhyw un yn y Deyrnas Unedig sy’n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu’n drawsrywiol ac sydd wedi dioddef ymosodiad, trais neu gam-drin rhywiol. Byddant hefyd yn rhoi cymorth i ffrindiau, aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol sydd wedi cael eu cam-drin.

Mae cymorth gofal y GIG yn rhoi cymorth preifat am ddim i bobl sydd wedi profi gwahanol fathau o gam-drin.

Mae NIA yn cynnig cymorth arbenigol a phreifat yn rhad ac am ddim i fenywod a merched sydd wedi dioddef trais rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywydau.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a Lloegr, Cymorth i Ddioddefwyr yr Alban a Chymorth i Ddioddefwyr Gogledd Iwerddon yn darparu cymorth arbenigol cyfrinachol am ddim.

Mae cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol yn gweithio gydag oedolion a phlant sydd wedi dioddef trais rhywiol, yn ogystal â’u teuluoedd. Gallwch siarad â Chynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol heb siarad â’r heddlu. Gallwch gael gafael ar Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol drwy ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol. Mae meddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig wrth law 24 awr y dydd mewn canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, ac maent yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol i unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio, ei ymosod yn rhywiol neu ei gam-drin yn rhywiol.

Dod o hyd i’ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol.