Beth y dylech ei ddisgwyl yn ystod archwiliad corfforol

Fel rhan o’ch gofal meddygol, mae’n bosibl y bydd angen i feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wneud archwiliad corfforol a allai olygu edrych ar wahanol rannau o’ch corff, eu teimlo a gwrando arnyn nhw.

Gall hyn wneud i chi deimlo’n annifyr, yn enwedig archwiliadau personol o’r bronnau, yr organau cenhedlu neu’r rectwm. Cyfrifoldeb y meddyg yw gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo mor ddiogel â phosibl, a bod gennych reolaeth o'r sefyllfa.

Gall gwybod beth i'w ddisgwyl eich helpu i baratoi ar gyfer yr archwiliad a’ch helpu i ddeall a oes rhywbeth wedi mynd o'i le.

Archwiliadau personol

Cyn ac yn ystod archwiliad personol dylech ddisgwyl i’r meddyg wneud y canlynol:

  • esbonio pam mae angen yr archwiliad, a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau;
  • esbonio’r hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn yr archwiliad, fel bod gennych syniad clir o’r hyn i’w ddisgwyl, gan gynnwys unrhyw boen neu anesmwythdra;
  • gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi eich caniatâd ar gyfer yr archwiliad
  • rhoi gwybodaeth i chi mewn ffordd ddealladwy; os ydych yn cael trafferth deall Saesneg llafar, gallwch ofyn am gael defnyddio cyfieithydd neu wasanaeth cyfieithu;
  • cynnig i chi gael hebryngwr diduedd yn bresennol lle bynnag y bo modd, fel arfer gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall a fydd yn aros am yr archwiliad cyfan ac yn gallu gweld beth mae'r unigolyn yn ei wneud
  • rhoi preifatrwydd i chi ddadwisgo a gwisgo; dylid cynnal yr archwiliad mewn ystafell breifat neu dynnu'r llen
  • gadael i chi ddadwisgo mewn ffordd sy’n gyfforddus i chi a chael eich gorchuddio gymaint â phosibl drwy gydol yr archwiliad
  • gorffen yr archwiliad ar unrhyw adeg os ydych yn teimlo’n anghyfforddus.

Gallwch ddisgwyl iddynt wneud y canlynol:

  • esbonio’n glir beth mae’n mynd i’w wneud ymlaen llaw
  • gwisgo menig
  • eich annog i ddweud os ydych yn teimlo’n anghyfforddus
  • gofyn i chi ddadwisgo’r rhan o’ch corff sy’n cael ei harchwilio.

Ni ddylent:

  • gwrthod esbonio beth mae’n ei wneud neu pam mae’n gwneud hynny
  • gwrthod ateb eich cwestiynau
  • eich archwilio heb fenig
  • gwrthod cael hebryngwr yn bresennol
  • gofyn i chi ddadwisgo rhannau o’ch corff nad ydynt yn cael eu harchwilio
  • eich helpu i dynnu eich dillad oni bai eich bod wedi gofyn am help, neu ei fod wedi gofyn i chi a oes angen help arnoch
  • gwneud sylwadau personol neu rywiol, neu ofyn cwestiynau sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.