Ffiniau rhywiol rhwng claf a meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia

Rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia beidio ag ymddwyn yn rhywiol atoch chi, nac mewn ffordd sy’n rhywiol yn eich barn chi. Rhaid iddynt beidio â gweithredu mewn ffordd rywiol na defnyddio eu statws proffesiynol i ganlyn perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol â chi neu rywun sy’n agos atoch chi.

Mae'r safonau proffesiynol ar gyfer pob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia, a elwir yn Arfer meddygol da, yn ei gwneud yn glir mai eu cyfrifoldeb nhw yw cynnal ffiniau clir o ran eu perthynas â chleifion.

Pam mae’n bwysig sicrhau terfynau rhywiol clir

Mae meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn cyflawni swyddi lle mae ymddiriedaeth yn hanfodol. Mae camymddwyn rhywiol yn niweidio ac yn tanseilio’r sefyllfa honno o ymddiriedaeth, a gall achosi niwed anadferadwy i ddioddefwyr neu oroeswyr, a’u hanwyliaid.

Mae gennych hawl i gael eich trin ag urddas a pharch ac i dderbyn gofal iechyd heb ofni cael eich cam-drin.

Pan fyddwch yn mynd atynt i ofyn am arweiniad a chyngor, mae anghydbwysedd pŵer yn eich perthynas. Nhw fydd yn penderfynu ar lefel y cyswllt corfforol y gallai fod ei angen ar archwiliad, ac maent yn gallu cael gafael ar wybodaeth bersonol a phreifat amdanoch chi er mwyn rhoi diagnosis i chi a’ch trin.

Mae terfynau rhywiol clir yn bwysig fel nad yw eich gofal yn cael ei beryglu mewn unrhyw ffordd.