Enghreifftiau o gamymddwyn rhywiol tuag at gleifion
- Enghreifftiau o gamymddwyn rhywiol tuag at gleifion
- Beth y dylech ei ddisgwyl yn ystod archwiliad corfforol
- Sut mae mynegi pryder am gamymddwyn rhywiol
- Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Gall camymddwyn rhywiol ddigwydd ar sawl ffurf gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn:
- ymddwyn mewn ffordd y gellir yn rhesymol ei deall fel rhywbeth rhywiol fel:
- gwneud sylwadau pryfoclyd, gorgyfarwydd neu rywiol, neu ymddwyn mewn ffordd sydd â’r bwriad o ennyn awydd rhywiol
- eich cyffwrdd chi neu gyffwrdd ei hun mewn ffordd rywiol
- ymddwyn yn rhywiol o’ch blaen chi
- eich cyffwrdd yn amhriodol mewn archwiliad personol mewn ffordd nad yw'n angenrheidiol yn glinigol, heb i chi gydsynio, neu mewn ffordd nad yw’n parchu eich preifatrwydd
- gofyn i chi am wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich hanes neu eich dewisiadau rhywiol, pan nad yw'n berthnasol yn glinigol;
- gwneud sylwadau amhriodol, rhywiol neu sarhaus am y canlynol :
- eich rhywioldeb, eich dewisiadau rhywiol, eich partneriaid rhywiol, eich gwyryfdod neu elfennau rhywiol eraill eich bywyd.;
- eich corff, eich edrychiad, blew y gedor neu’ch rhannau cenhedlu
- anfon negeseuon rhywiol dros e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu neges destun;
- gwneud cynigion rhywiol
- meithrin perthynas rywiol â chi, hyd yn oed os ydych yn cytuno i’r berthynas rywiol
- eich beio chi am gael eich cam-drin neu eich treisio’n rhywiol