Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gysylltu â ni

Mae ein gweithdrefnau ar gyfer eich cefnogi gyda’ch pryder yn cynnwys beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n codi pryder gyda ni.

Mynegi pryder heb ddatgelu pwy ydych chi

Rydym yn ystyried pob pryder yn gyfartal, gan gynnwys cwynion a godir yn ddienw.

Gall fod yn fwy anodd ymchwilio i gŵyn ddienw os na allwn gael digon o wybodaeth gennych i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, ac efallai na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â hyn o ganlyniad. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i symud ymlaen gyda chwyn.

Dweud wrth yr heddlu a chyrff perthnasol eraill

Chi fydd yn penderfynu a fyddwch yn mynd at yr heddlu ai peidio. Ond os ydych yn ystyried gwneud hynny, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi siarad ag Eiriolwr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) sy’n gallu egluro’r broses adrodd a’ch helpu i benderfynu a ddylid rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn gofyn i chi a ydych wedi rhoi gwybod i’r heddlu am eich pryder rhag ofn y bydd unrhyw wybodaeth yn berthnasol i’n hymchwiliad, ond byddwn yn ystyried eich pryder p’un a ydych yn penderfynu rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio.

Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd y pryder rydych yn ei rannu â ni mor ddifrifol ei fod hefyd yn droseddol ei natur, er enghraifft treisio ac ymosodiad rhywiol, a/neu’n ymwneud â phryder diogelu, er enghraifft pan fydd plentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei niweidio, neu mewn perygl o gael ei niweidio.

Yn yr achosion hyn, efallai y bydd gennym gyfrifoldeb i rannu’r pryder â’r heddlu a/neu’r gwasanaethau cymdeithasol os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod. Cyn rhannu’r pryder, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein bwriad i wneud hyn ac yn gwirio unrhyw wrthwynebiad sydd gennych i ni ddatgelu’r wybodaeth hon.

Ein gwaith i fynd i’r afael ag ymddygiad rhywiol annerbyniol

Yn dilyn adolygiad Syr Anthony Cooper yn 2017 o’r ffordd y gwnaethom drin achos troseddwr plant a gafwyd yn euog, yn ogystal â’n hadolygiad ein hunain o achosion rhwng 1945 a 2016, gwnaethom gydnabod bod lle o hyd i wella’r ffordd rydym yn trin cwynion am ymddygiad rhywiol annerbyniol a chreulondeb o natur rywiol. Arweiniodd hyn at raglen waith o’r enw Ymgorffori Dysgu o Achosion Cam-drin Rhywiol. Darllenwch yr adroddiad ar raglen Ymgorffori Dysgu o Achosion Cam-drin Rhywiol (Saesneg yn unig).