Cysylltu â ni
Rydym yn gwybod weithiau y bydd angen i chi gysylltu â ni. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r person iawn i’ch helpu.
Rydym yn anelu i ateb e-byst o fewn pedwar diwrnod gwaith. Os ydych chi eisoes wedi anfon e-bost atom, does dim angen i chi gysylltu â ni unwaith eto. Byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosib. Os yw eich mater yn fwy brys, mae’n well i chi ein ffonio ni. Mae mwy o wybodaeth isod am gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
E-bostiwch ni
Dyma’r dewis mwyaf effeithiol o ran cyfathrebu gyda ni drwy gyfrwg y Gymraeg ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i wella’n gwasanaeth ffôn a’n gwasanaeth sgwrsio drwy negeseuon er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch anfon e-bost atom drwy:
- gmc@gmc-uk.org ar gyfer ymholiadau cofrestru, cyngor ar sut i fynegi pryder ac unrhyw ymholiadau eraill
- standards@gmc-uk.org ar gyfer ymholiadau ynghylch safonau proffesiynol
- press@gmc-uk.org ar gyfer ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
Byddwn yn ateb e-byst o fewn pedwar diwrnod gwaith.
Ffoniwch ni
Siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr ar
0161 923 6602 (neu +44 161 923 6602 os ydych chi’n ffonio o’r tu allan i’r DU)
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm
Rydym yn gweithio i wella ein gwasanaeth ffôn drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Yn unol â hysbysiad cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg, efallai y bydd angen i ni ddelio â’ch galwad yn Saesneg os nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, neu os na allant ddarparu gwasanaeth ar bwnc penodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sgwrs drwy negeseuon
Rydym yn adolygu sut y gallwn gynnig y gwasanaeth hwn yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd, ni allwn gyfathrebu gyda chi dros sgwrs drwy negeseuon drwy gyfrwng y Gymraeg. Os hoffech gysylltu â ni yn Gymraeg, gofynnwn yn garedig i chi anfon e-bost atom.
Os hoffech sgwrsio gyda ni yn Saesnag, rydym ar gael i ateb eich negeseuon o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Yn ystod yr amseroedd hyn rydym yn anelu i ateb o fewn dwy awr. Mae sgwrs drwy negesuon yn eich galluogi i gael sgwrs gyda’n ymgynghorwyr drwy gydol y dydd pan fydd hynny’n gyfleus i chi, heb orfod aros wrth y sgrin nac aros ar y ffôn am amser hir.
Sylwch: Bydd angen ffôn symudol neu gyfrif Facebook arnoch. Codir cyfradd safonol eich darparwr ffôn symudol am SMS a data symudol.
Cysylltu â ni yn Gymraeg
Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb i hyn beri oedi ychwanegol.