Cwynion ac adborth am ein gwasanaeth

Mae’r canllaw hwn yn dweud wrthych sut i roi adborth i ni neu gyflwyno cwyn am ein gwaith.

Beth yw cwyn gan gwsmer?

Cwyn gan gwsmer yw pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod yn anhapus gydag unrhyw un o’n gwasanaethau. Gallwch gyflwyno’r cwynion hyn ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Weithiau, mae’n bosibl y byddwn yn cael pethau’n anghywir, neu mae’n bosibl na fyddwn yn gallu eich helpu mewn ffordd yr hoffech. Felly, rydym wedi creu proses gwyno i gwsmeriaid sy’n rhoi sylw i adborth am y canlynol:

  • gweithdrefn neu bolisi
  • y ffordd rydym wedi cyfathrebu â chi
  • gweithredoedd ein staff
  • unrhyw wasanaeth rydym wedi’i ddarparu nad oedd yn foddhaol yn eich barn chi.
Pam ddylwn i ddarllen y canllaw hwn?
Er mwyn gwneud yn siŵr fod gennych chi syniad clir o’n proses gwyno ac adborth. 
Y camau nesaf
Ar ôl i chi ddarllen y canllaw hwn, cysylltwch â ni i roi eich sylw neu’ch cwyn.