Pryd byddwn yn ailgyfeirio eich cwyn
Weithiau ni fyddwn yn trin eich pryder fel cwyn gan gwsmer. Y rheswm am hyn fel arfer yw y byddai’n well mynd i’r afael â’ch cwyn drwy un o’n prosesau ffurfiol eraill.
Mae’n bosibl mai dyna fydd yn digwydd yn y sefyllfaoedd canlynol.
Meddygon sydd â hawl statudol i apelio
Mae Deddf Meddygaeth 1983 yn rhoi’r hawl i feddygon apelio yn erbyn nifer o benderfyniadau ynghylch cofrestru a hyfforddi, trwyddedu ac ailddilysu, ac addasrwydd i ymarfer.
Dysgwch sut i apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn..
Materion rhyddid gwybodaeth neu ddiogelu data
Ein tîm Mynediad at Wybodaeth sy’n delio â chwynion am y materion hyn.
Sut i gael gafael ar wybodaeth.
Apelio yn erbyn canlyniad prawf Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB)
Os ydych chi wedi sefyll y prawf PLAB ac yn meddwl bod eich marciau wedi cael eu cofnodi’n anghywir neu eich bod eisiau apelio yn erbyn eich canlyniad, gallwch chi wneud hynny.
Sut i apelio yn erbyn eich canlyniad prawf Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB).
Herio penderfyniad a wnaed ynghylch addasrwydd meddyg i ymarfer
Os ydych eisoes wedi mynegi pryder am addasrwydd meddyg i ymarfer ond nad ydych yn meddwl ein bod wedi dod i'r penderfyniad iawn, neu fod gennych wybodaeth newydd i'w darparu, gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad o dan ein proses adolygu fewnol (‘Rheol 12’). Gallwn adolygu’r penderfyniadau canlynol o dan Reol 12 yn ein Rheolau Addasrwydd i Ymarfer.
- Pan fyddwn wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i'r pryderon a godwyd gennych
- Pan nad ydym wedi cymryd unrhyw gamau ar ddiwedd ymchwiliad
- Pan fyddwn wedi cau ymchwiliad drwy roi cyngor, cytuno ar ymgymeriadau neu roi rhybudd i'r meddyg
Dim ond os oes camgymeriad gyda'r penderfyniad (‘gwall sylweddol’), neu os oes gwybodaeth newydd, y gallwn adolygu penderfyniad o dan y broses hon. Dylai'r penderfyniad fod wedi cael ei wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ond gallwn adolygu rhai penderfyniadau hŷn mewn amgylchiadau eithriadol.
Gallwch ddarllen mwy am ein proses yn ein dogfen Cwestiynau Cyffredin am Reol 12.
Cwynion am y modd rydym wedi arfer ein swyddogaethau statudol
Weithiau, bydd delio â chwyn o dan ein trefn cwynion cwsmeriaid yn amharu ar ein hystyriaeth o bryderon am feddyg, neu ein hymchwiliad i’w gymhwysedd i gofrestru; yn enwedig pan fydd ganddo gysylltiad agos â’r gŵyn.
Pan fyddwn ni o’r farn fod risg o effaith niweidiol o’r fath, byddwn ni’n dal i fynd i’r afael â’ch pryderon. Ond mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i wneud hynny o fewn y broses rydych eisoes yn ymwneud â hi, yn hytrach nag ar wahân, fel cwyn gan gwsmer.