Beth allwch ei ddisgwyl gennym?
Mae eich adborth yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Yn unol â gwerthoedd ein sefydliad (Saesneg yn unig), byddwn yn:
- bod yn agored, yn onest ac yn deg
- bod yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn eich trin â pharch
- gwrando ar yr hyn a ddywedwch wrthym, a dysgu ohono
- deall eich anghenion a chyfathrebu â chi mewn ffordd glir
- cadw ein prosesau’n effeithlon ac yn effeithiol.
Rydym yn croesawu adborth o unrhyw brofiad rydych chi wedi’i gael gyda ni. Rydym yn defnyddio’r sylwadau hyn i wella’r gwasanaeth a ddarparwn yn barhaus.
Cyrraedd safonau delio â chwynion
Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) wedi ardystio ein bod yn gwneud y canlynol:
- meddu ar weithdrefnau effeithiol ar gyfer ymateb i gwynion gan gwsmeriaid
- ymrwymo i ddysgu o gwynion cwsmeriaid a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig
- delio â chwynion mewn ffordd gyson, deg a thryloyw.
Mae’r BSI wedi dyfarnu nod barcud i ni er mwyn adlewyrchu’r ffordd rydym yn bodloni safonau delio â chwynion.