Ein polisïau cwynion a chyfrinachedd

Rydym yn storio eich cwynion yn electronig ar ein systemau diogel. Rydym yn cadw ac yn prosesu’r wybodaeth hon yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Rydym yn llunio adroddiadau mewnol rheolaidd i weld pa mor dda rydym yn delio â chwynion ac yn diwallu eich anghenion. Rydym yn tynnu’r holl wybodaeth gyfrinachol o’r adroddiadau hyn er mwyn diogelu’r rheini sy’n gysylltiedig. 

Mae’n bosibl y bydd ein timau amrywiol yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu eich data personol â phartïon eraill pan fydd yn ofynnol gan y gyfraith, pan fydd llys yn gorchymyn hynny, neu pan fydd hynny er budd y cyhoedd fel arall (ee at ddibenion ymchwil). Pan fo’n bosibl, byddwn yn tynnu unrhyw wybodaeth bersonol sy’n datgelu pwy ydych chi cyn ei rhannu ag unrhyw barti arall. 

Darllen ein polisi cwynion

Lawrlwythwch y fersiwn llawn o’n polisïau canlynol:  

Polisi cwynion cwsmeriaid

Mae gennym hefyd bolisïau ar y canlynol:

Polisi cwynion blinderus
Polisi Cwynion Parhaus