Sut ydw i’n mynegi sylw neu gŵyn?
Gallwch ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol i roi eich adborth.
Llenwi ffurflen adborth
Lawrlwythwch ein ffurflen sylwadau a chwynion, a’i llenwi.
Anfonwch e-bost atom
Gallwch anfon e-bost atom drwy: feedback@gmc-uk.org.
Ysgrifennwch atom
Gallwch ysgrifennu atom drwy: Corporate Review team, General Medical Council, 3 Hardman Street, Manchester, M3 3AW
Ffoniwch ni
Gallwch ein ffonio ar: 0161 923 6602 Gall defnyddwyr ffonau testun ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfnewid Testun. Deialwch 18001 wedyn 0161 923 6602
Defnyddio cynrychiolydd
Gallwch ddefnyddio cynrychiolydd i gyflwyno cwyn ar eich rhan. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn fodlon i’r unigolyn hwnnw weithredu ar eich rhan, a byddwn yn delio â nhw’n uniongyrchol nes bydd eich cwyn wedi’i chau. Gallwch ddweud wrthym ar unrhyw adeg os nad ydych am i’r unigolyn hwnnw eich cynrychioli mwyach.
Addasiadau rhesymol i’ch helpu i roi sylwadau
Os oes gennych anabledd neu anghenion hygyrchedd, gallwn wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer. Er enghraifft, gallwn gymryd eich sylwadau dros y ffôn, yn hytrach na gorfod eu hysgrifennu ar bapur. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, er mwyn i ni allu addasu ein proses ar eich cyfer.