Proffesiynoldeb myfyrwyr a’u haddasrwydd i ymarfer

Mae bod yn fyfyriwr meddygol, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn golygu ymuno â phroffesiwn y gellir ymddiried ynddo. Mae'r holl broffesiynau hyn yn gofyn am lefelau uchel o ymddygiad bob amser.

Read this in English

Canllawiau i fyfyrwyr meddygol ac ysgolion meddygol

Nod y canllawiau hyn yw eich helpu chi – y myfyriwr meddygol – i fodloni’r safonau hynny, a helpu eich ysgol feddygol i ddarparu amgylchedd cyson a chefnogol, ac i reoli prosesau ar gyfer pryderon proffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer.

Canllawiau i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, ac i ddarparwyr cyrsiau

Nod y canllawiau hyn yw eich helpu chi – y myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia – i fodloni’r safonau hynny, a helpu darparwr eich cwrs i ddarparu amgylchedd cyson a chefnogol, ac i reoli prosesau ar gyfer pryderon proffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer.