Cyflawni arfer meddygol da ar waith
Mae’r senarios rhyngweithiol hyn yn eich annog i feddwl am sut mae ein canllawiau yn berthnasol i fywyd go iawn.
Rhaid i fyfyrwyr cydymaith meddygol neu fyfyriwr cydymaith anesthesia ddangos ymddygiad o safon uchel bob amser: gan gyfiawnhau’r ymddiriedaeth a roddwyd ynddyn nhw fel darpar aelodau o’r proffesiynau hyn. Mae'r arweiniad hwn yn amlinellu'r safonau a ddisgwylir gennych chi – ar eich cwrs neu leoliad a’r tu allan iddo – ac yn dangos sut mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyriwr.
Mae'r canllawiau hyn wedi’u hanelu at sefydliadau sy’n darparu cyrsiau a lleoliadau i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, ac sy’n nodi, rheoli a chefnogi myfyrwyr os yw addasrwydd i ymarfer neu broffesiynoldeb y myfyrwyr hynny’n destun pryder.
Dyluniwyd y cynnwys hwn yn bennaf ar gyfer meddygon, myfyrwyr meddygol ac ysgolion meddygol, ond gall hefyd fod yn werthfawr i gymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia, yn ogystal â myfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, a darparwyr cyrsiau.
Mae'r canllawiau ar y dudalen hon wedi'u llunio er mwyn helpu myfyrwyr meddygol i gyrraedd y safonau a ddisgwylir mewn arferion meddygol da, ac er mwyn helpu ysgolion meddygol i weithredu'r gofynion cyfatebol a nodir yn y ddogfen Hyrwyddo Rhagoriaeth.