Cyflawni arfer meddygol da: canllaw i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia

Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, rydych yn astudio i ymuno â phroffesiwn y gellir ymddiried ynddo a fydd yn dod â chi i gysylltiad â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd. Rhaid i chi ddangos ymddygiad o safon uchel bob amser, sy’n cyfiawnhau’r ymddiriedaeth a roddwyd ynoch chi fel darpar aelod o’r proffesiynau hyn.

Mae'r arweiniad hwn yn amlinellu'r safonau a ddisgwylir gennych chi – ar eich cwrs neu leoliad a’r tu allan iddo – ac yn dangos sut mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyriwr.

Bydd deall sut y bydd hyn yn berthnasol nawr ac yn eich gyrfa yn eich helpu i fod yn fyfyriwr da ac, yn y dyfodol, yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia da.

Sylwch: Dim ond i fyfyrwyr sy'n astudio i fod yn gymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia y mae’r arweiniad hwn yn berthnasol. Ar ôl i’r rheoleiddio ddechrau a Chydymaith Meddygol neu Gydymaith Anesthesia wedi’i gofrestru, byddwn yn monitro eu haddasrwydd i ymarfer.

Download the guidance