Cyflawni arfer meddygol da: canllaw i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia

Gwybodaeth am y canllawiau hyn

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Cyngor Ysgolion Cymdeithion Meddygol wedi cyhoeddi’r canllawiau hyn ar gyfer myfyrwyr cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia i amlinellu’r safonau sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw - y tu mewn a’r tu allan i’w cwrs.

Mae Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn dangos sut mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol. Bydd deall sut mae’r canllawiau craidd ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn berthnasol nawr ac yn y dyfodol yn eich helpu i fod yn fyfyriwr da ac, yn y dyfodol, yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia da.

Mae’r canllaw wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cynnwys Arfer meddygol da 2024, ac mae’n cynnwys cyngor ehangach ar asesu a rheoli ansicrwydd.

Beth mae’r canllawiau hyn yn ei gynnwys?

Cynnal safon uchel o ymddygiad proffesiynol

Bydd eich astudiaethau’n dod â chi i gysylltiad â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd, sy'n gallu bod yn agored i niwed yn gorfforol ac yn emosiynol. Oherwydd hyn, a’r ffaith y byddwch chi’n ymuno â phroffesiwn mae pobl yn ymddiried ynddo, rydym ni’n disgwyl i chi ddeall bod gwahaniaeth yn y safonau ymddygiad sy’n ddisgwyliedig gan fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n dod â nhw i gysylltiad â chleifion a’r cyhoedd.

Yn benodol, rhaid i’ch ymddygiad yn yr amgylchedd clinigol a’r tu allan i’ch astudiaethau, bob amser gyfiawnhau’r hyder y mae cleifion a’r cyhoedd yn ei roi ynoch chi fel darpar gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. Byddwn ni a darparwr eich cwrs yn eich cefnogi ar eich taith o fod yn fyfyriwr i fod yn gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, a fydd yn cynnwys addysgu ac asesiad ar broffesiynoldeb.

I gofrestru gyda’r GMC ar ôl cymhwyso, bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n addas i ymarfer.

Yn ogystal â'r canllawiau hyn, rydym ni hefyd wedi paratoi dogfennau canllaw ar gyfer darparwyr cyrsiau cymdeithion meddygol a'u myfyrwyr, a hefyd ar gyfer darparwyr cyrsiau sy’n cael eu rheoleiddio gan y GMC gyda myfyrwyr cyflogedig, ar reoli pryderon proffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer . Mae'r dogfennau'n amlinellu'r prosesau y dylai darparwyr cyrsiau a chyflogwyr eu dilyn os ydynt yn poeni am broffesiynoldeb neu addasrwydd myfyrwyr i ymarfer yn eu proffesiwn.

Mae enghreifftiau o’r mathau o ymddygiad sy’n peri pryder ac a allai at brosesau ffurfiol yn cael eu defnyddio wedi’u hamlinellu yn adran Proffesiynoldeb - meysydd pryder allweddol y canllawiau hyn.

Gwybodaeth am Arfer meddygol da

Mae Arfer meddygol da yn gosod yr egwyddorion, gwerthoedd, a’r safonau gofal ac ymddygiad proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan bob meddyg sydd wedi cofrestru gyda'r GMC, yn ogystal â chymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia unwaith y bydd rheoleiddio’n cychwyn. Mae’n fframwaith moesegol, sy’n eu helpu i ddarparu gofal diogel o safon dda, er budd cleifion. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia, cleifion a phobl eraill i ddatblygu Arfer meddygol da, felly mae’n gytundeb ar y cyd o’r hyn y dylai safonau proffesiynol fod.

Mae disgwyl i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sydd wedi cofrestru gyda’r GMC (unwaith y bydd rheoleiddio’n cychwyn) fod yn gyfarwydd ag Arfer meddygol da, a defnyddio'r canllawiau wrth wneud penderfyniadau gyda chleifion am eu gofal. Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i ddefnyddio’r safonau yn Arfer meddygol da wrth ymarfer o ddydd i ddydd. Mae hyn yn golygu penderfynu pa rai o’r safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’r amgylchiadau penodol maen nhw’n eu hwynebu, a defnyddio eu gwybodaeth, sgìl a phrofiad i’w dilyn yn y cyd-destun hwnnw. Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia weithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, a bod yn barod i egluro a chyfiawnhau eu penderfyniadau a’u gweithredoedd.

Defnyddio’r canllawiau hyn

Mae angen cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia da ar gleifion, ac mae dysgu bod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia da yn dechrau fel myfyriwr. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch chi’n dysgu am bwysigrwydd proffesiynoldeb a'r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n cael eu nodi yng nghanllawiau craidd y GMC ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia - Arfer meddygol da - a’r canllawiau manylach sy’n eu cefnogi.

Yn y canllawiau hyn, rydym ni’n dangos sut mae’r egwyddorion a’r gwerthoedd yn Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, i helpu i’ch paratoi ar gyfer eich dyfodol fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. Mae llawer o’r canllawiau hyn yn berthnasol yn benodol i’ch gwaith ar leoliadau clinigol Ond mae proffesiynoldeb yn ehangach na hyn ac mae’n cynnwys pob elfen o’ch astudiaeth academaidd, yn ogystal ar angen i fod yn ddibynadwy a gonest. Drwy gydol y canllawiau hyn rydym yn cyfeirio at adnoddau a chyngor eraill ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon. Mae’r rhain yn dal yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia

Yn y canllawiau hyn, rydym ni’n defnyddio’r termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech chi’ yn y ffyrdd canlynol.

  • ae ‘rhaid i chi’ yn cael ei ddefnyddio i amlinellu meysydd pwysig sydd â chysylltiad cryf ag Arfer meddygol da, o ran y dyletswydau cyfreithiol neu foesegol y mae disgwyl i chi eu bodloni (neu allu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi).
  • Mae ‘dylech’ chi yn cael ei ddefnyddio i ddangos dyletswyddau neu egwyddorion yn Arfer meddygol da sydd:
    • ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi, neu
    • nad ydych chi’n gallu cydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth.

Trwy’r canllawiau hyn, rydym ni hefyd yn cynnig rhagor o fanylion ac awgrymiadau ymarferol ar sut y gallwch chi fodloni’r gofynion rydym ni’n eu gosod. Mae’r blwch isod yn enghraifft o hyn.

Mynd y tu hwnt i’r disgwyl - ymgymryd â her rhagoriaeth broffesiynol

Mae’r canllawiau hyn yn egluro’r safonau o ymddygiad broffesiynol sy’n ddisgwyliedig ohonoch chi yn ystod eich astudiaethau. Mae cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia da yn cynnal safonau ymddygiad uchel yn bersonol a phroffesiynol Maen nhw’n onest ac yn ddibynadwy, yn gweithredu gydag uniondeb, yn cynnal terfynau proffesiynol ac nid ydyn nhw’n gadael i’w buddiannau personol effeithio ar eu barn neu eu gweithredoedd proffesiynol. I gyflawni hyn, bydda angen i chi ddysgu i wneud y canlynol:

  • datblygu ffyrdd iach o ymdopi a straen a heriau (gwytnwch)
  • cydnabod ac uwchgyfeirio lle mae amheuaeth ac ansicrwydd
  • defnyddio rhesymu moesegol a moesol yn eich gwaith
  • gweithio’n effeithiol mewn tîm, gan gynnwys gallu rhoi adborth adeiladol a gonest
  • rheoli eich dysgu a'ch datblygiad eich hun
  • ymateb i adborth
  • blaenoriaethu eich amser yn dda a sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith
  • blaenoriaethu diogelwch cleifion a gweithredu’n ddi-oed os ydych chi’n credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl, neu y gallai fod mewn perygl.
  • gweithio ar y cyd â chydweithwyr
  • trin cleifion gyda charedigrwydd, tosturi a pharch
  • bod yn ymwybodol o’r risg o ragfarn, ac ystyried sut mae eich profiadau, eich diwylliant a’ch credoau bywyd yn dylanwadu ar sut rydych chi’n rhyngweithio â phobl eraill, a sut y gallen nhw effeithio ar eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

Efallai y bydd llawer o'r rhain yn anodd neu'n heriol i'w gwneud yn dda ond, fel gyda phob elfen o broffesiynoldeb, bydd darparwr eich cwrs yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae bod yn broffesiynol yn golygu y bydd angen i chi neilltuo amser i fyfyrio ar eich profiadau, dysgu’n barhaus a defnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn ymarferol.

Bydd angen i chi ofyn am adborth, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau proffesiynol a moesegol a gallu addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr eisiau i chi ddatblygu a dod yn gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia rhagorol, felly dylech chi droi atyn nhw am arweiniad a chefnogaeth.