Parth 2: Cleifion, partneriaeth a chyfathrebu
Cyflwyniad
Mae dull ac agwedd cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn gallu cael effaith barhaol ar glaf. Mae trin cleifion â charedigrwydd, trugaredd a pharch yn gallu llywio eu profiad o ofal yn sylweddol.
Mae cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia da yn cydnabod bod cleifion yn unigolion ag anghenion amrywiol, ac nid ydyn nhw’n rhagdybio pa opsiynau neu ganlyniadau y byddai'n well gan glaf eu cael. Maen nhw’n gwrando ar gleifion ac yn gweithio mewn partneriaeth â nhw. Maen nhw’n gwneud eu gorau i sicrhau bod pob claf yn cael gofal a thriniaeth dda a fydd yn eu helpu i fyw cystal â phosibl, beth bynnag fo’u salwch neu anabledd.
Trin cleifion yn deg a pharchu eu hawliau
- Rhaid i bob cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cofrestredig gydnabod a pharchu urddas a hawl pob claf i breifatrwydd, a’u trin yn deg a chyda pharch, beth bynnag fo’u dewisiadau a’u credoau.
- Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, byddwch chi’n dysgu sut i drin cleifion yn deg a pharchu eu hawliau. Felly, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cydnabod a pharchu urddas claf
- cydnabod hawl claf i ddewis a yw am dderbyn eich cyngor ai peidio, a pharchu ei hawl i ofyn am ail farn
- trin cleifion yn deg
- trin gwybodaeth am gleifion yn gyfrinachol
- bod yn glir gyda chleifion am y rhan y byddwch chi’n ei chwarae yn eu gofal.
- Dylech chi drafod â’ch goruchwyliwr a gwneud yn siŵr bod y claf wedi rhoi cydsyniad cyn i chi gyflawni unrhyw driniaeth ymwthiol neu bersonol.
- Rhaid i gymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia drin cleifion yn deg, rhoi blaenoriaeth i gleifion ar sail eu hanghenion clinigol a pheidio â gwahaniaethu yn eu herbyn na chaniatáu i farn bersonol effeithio ar eu perthynas â’r claf, na’r driniaeth y maen nhw’n ei darparu neu’n ei threfnu. Rhaid iddyn nhw beidio â gwrthod neu oedi triniaeth oherwydd eu bod yn credu bod gweithredoedd neu ddewisiadau claf wedi cyfrannu at ei gyflwr.
- Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, ni fydd disgwyl i chi wneud penderfyniadau am opsiynau triniaeth. Ond rhaid i chi beidio â gadael i’ch barn neu’ch safbwyntiau eich hun effeithio ar y ffordd rydych chi’n trin cleifion a phobl eraill na’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi iddyn nhw.
Gwneud gwrthwynebiad cydwybodol
- Gall cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddewis peidio â darparu mathau penodol o driniaeth oherwydd eu credoau a’u gwerthoedd personol, ar yr amod nad yw hyn yn rhwystro claf rhag cael gofal priodol sy’n diwallu ei anghenion. Os oes gan gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wrthwynebiad cydwybodol i drefnu neu ddarparu triniaeth benodol, rhaid iddo esbonio hyn i'r claf, dweud wrtho am ei hawl i weld meddyg arall a gwneud yn siŵr bod gan y claf yr wybodaeth i wneud hynny. Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia beidio â mynegi anghymeradwyaeth o ffordd o fyw, dewisiadau neu gredoau’r claf wrth wneud hyn. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yng nghanllawiau’r GMC Credoau personol ac arfer meddygol.
- Dylai darparwyr cyrsiau a chyflogwyr ystyried ceisiadau i addasu ar gyfer credoau diwylliannol neu grefyddol, ond rhaid iddynt gydbwyso’r addasiadau hyn yn erbyn ystyriaethau ymarferol . Er enghraifft, efallai y bydd angen iddynt drefnu lleoliadau clinigol neu asesiadau yn ystod gwyliau crefyddol penodol neu ar adegau o arferion crefyddol.
- Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, mae gennych chi hawl hefyd i fod â gwrthwynebiad cydwybodol i rai mathau o driniaeth a dylech chi drafod hyn gyda darparwr eich cwrs neu eich cyflogwr Fodd bynnag, rhaid i chi gyflawni’r galluoedd sy’n cael eu disgrifio yn Deilliannau dysgu generig a chyffredin cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. (Saesneg yn unig)
Cadw cyfrinachedd cleifion
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia drin gwybodaeth am gleifion yn gyfrinachol, gan gynnwys ar ôl i glaf farw.
- Ond, nid yw cyfrinachedd yn absoliwt, ac mae rhaid rhannu gwybodaeth yn briodol er mwyn darparu gofal diogel ac effeithiol yn effeithlon. Byddwch chi’n dysgu am hyn ar eich cwrs cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol bod rhaid i chi beidio byth â rhannu gwybodaeth gyfrinachol am glaf ag unrhyw un sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â’i ofal heb ganiatâd y claf.
- Mae llawer o ddatgeliadau amhriodol yn anfwriadol. Rhaid i chi beidio â rhannu gwybodaeth adnabyddadwy am glaf lle mae modd eich clywed, fel mewn man cyhoeddus neu ar gyfryngau cymdeithasol, na'i chynnwys mewn unrhyw waith neu lyfr log rydych chi’n eu cyflwyno. Rhaid i chi fod yn glir ynglŷn â pha wybodaeth gyfrinachol y mae claf wedi cytuno i’w rhannu â ffrindiau a theulu cyn i chi drafod eu gofal.
- Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am bryd a sut y gallwch chi ddatgelu gwybodaeth bersonol am gleifion - gyda’u cydsyniad, lle mae’r gyfraith yn mynnu hynny a phryd y gall cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddatgelu gwybodaeth pan mae hynny er budd y cyhoedd - yng nghanllawiau'r GMC, Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion .
- Rhaid i chi hefyd ddilyn unrhyw bolisïau sydd gan ddarparwr eich cwrs, sefydliad addysg uwch, cyflogwr neu ddarparwr lleoliad i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei storio a’i gwaredu’n ddiogel.
Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, ni fyddwch chi byth yn gyfrifol am benderfynu a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf er budd y cyhoedd. Os ydych chi’n meddwl y gallai datgeliad o’r fath fod yn briodol, dylech chi siarad â’ch goruchwyliwr a thrafod y mater gyda nhw.
Sut mae cyfrinachedd yn berthnasol i fy lleoliadau?
Mae’n arferol siarad am bethau rydych chi wedi’u gweld ar leoliadau clinigol gyda chydweithwyr neu ffrindiau. Byddwch chi’n gweld cyflyrau meddygol anarferol ac efallai y byddwch chi’n cael eich rhoi mewn sefyllfaoedd lle mae cleifion yn profi canlyniadau niweidiol. Ond rhaid i chi beidio byth â ddatgelu gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw’r claf heb ganiatâd y claf. Os nad ydych chi'n siŵr beth i'w rannu os bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ar gyfer ymchwiliad neu lyfr log, dylech chi ofyn am gyngor gan ddarparwr eich cwrs, eich cyflogwr neu eich goruchwyliwr cyn i chi ddatgelu unrhyw wybodaeth.
Dylech chi hefyd wneud yn siŵr nad ydych chi byth yn trafod cleifion mewn man cyhoeddus nac ar y cyfryngau cymdeithasol(gweler Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi ar y cyfryngau cymdeithasol). Hyd yn oed os nad ydych chi’n sôn am glaf wrth ei enw, mae’n bosibl y bydd rhywun gerllaw (neu ar-lein, os ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol) yn gwybod am bwy rydych chi’n son.
Os ydych eisiau siarad â chydweithiwr, ffrind neu oruchwyliwr am yr hyn rydych wedi'i weld ar leoliad, dylech chi wneud hynny mewn man preifat yn unig. Ac ni ddylech chi grybwyll enw’r claf, ac eithrio i glinigwr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’i ofal.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllawiau ar gyfer cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia a meddygon cofrestredig - Arfer meddygol da, Cyfrinachedd a Defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol .
I gael rhagor o wybodaeth am gydsyniad, edrychwch ar ein canllawiau Gwneud penderfyniadau a chydsynio .
Trin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch
- Rhaid i bob cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia cofrestredig drin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch. Nid yw hyn yn golygu cytuno â phob cais neu beidio â rhannu gwybodaeth berthnasol a allai fod yn annymunol neu beri gofid. Mae’n golygu cyfathrebu’n sensitif ac yn ystyriol, gwrando ar gleifion, a cheisio peidio â gwneud rhagdybiaethau.
- Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, byddwch chi’n dysgu sut i drin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch. Felly, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyfathrebu’n sensitif ac yn ystyriol bob amser
- gwrando ar safbwyntiau a phryderon cleifion ac ymateb iddynt
- ceisio peidio â gwneud rhagdybiaethau
- cydnabod y gall cleifion fod yn agored i niwed
- bod yn effro i arwyddion o boen neu drallod.
Rhannu gwybodaeth gyda chleifion
- Mae cyfnewid gwybodaeth rhwng cydymaith meddygol/cydymaith anesthesia a chlaf yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau da. Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia roi’r wybodaeth y mae ar gleifion ei heisiau neu ei hangen mewn ffordd y gallan nhw ei deall. Rhaid iddyn nhw wrando ar gleifion ac annog deialog agored am eu hiechyd, gan ofyn cwestiynau i’w galluogi i fynegi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, ac ymateb yn onest i’w cwestiynau.
- Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, byddwch chi’n dysgu sut i gyfathrebu'n effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol, lleoliadau wedi’u hefelychu a lleoliadau anghlinigol ac mae'n bwysig eich bod chi’n defnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu wrth ryngweithio â chleifion.
- Wrth gyfathrebu â chleifion, rhaid i chi wneud y canlynol:
- bod yn onest pan nad ydych chi’n gwybod rhywbeth. Fel myfyriwr, nid oes disgwyl i chi wybod yr atebion i'r holl gwestiynau sydd gan glaf, ond mae disgwyl i chi wrando arnyn nhw a pharchu eu barn. Dylech chi wneud eich gorau i gael yr atebion i gwestiynau’r claf eich hun, neu drosglwyddo ymholiadau i rywun a fydd yn gallu helpu
- gwneud yn siŵr, cyn rhoi gwybodaeth i gleifion, eich bod chi wedi cytuno arni gyda'ch goruchwyliwr a bod yr wybodaeth yn glir, yn gywir, yn gyfoes, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
- cymryd camau i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu’r claf a rhwystrau posibl eraill i gyfathrebu’n effeithiol (er enghraifft, poen neu bryder) er mwyn i chi allu ei gefnogi i gymryd rhan mewn deialog ystyrlon a gwneud penderfyniadau gwybodus am ei ofal. Dylech chi ofyn am gymorth i’ch helpu i gyfathrebu’n effeithiol os oes angen
- gwirio dealltwriaeth y claf o’r wybodaeth a roddwyd iddo, a gwneud eich gorau i wneud yn siŵr bod ganddo’r amser, y gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arno i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth os yw’n gallu gwneud hynny. Dylech ofyn am gymorth gan eich goruchwyliwr os oes angen
- ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau. Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd i’w adnabod, felly dylech chi ofyn i gleifion pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau, gan chwilio am gyngor priodol os nad ydych chi'n siŵr.
- trin pob claf fel unigolyn.
Cefnogi cleifion i wneud penderfyniadau am driniaeth a gofal
- Tra byddwch chi ar gwrs cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, byddwch chi yn dysgu bod gan bob claf yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu triniaeth a'u gofal, a chael eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i benderfynu a yw claf wedi cydsynio neu a oes gennych chi awdurdod dilys arall cyn archwilio neu drin cleifion. Byddwch chi’n dysgu bod y broses gydsynio yn ymwneud â gwneud penderfyniadau ar y cyd rhwng y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia a’r claf, lle mae’r cydymaith meddygolneu'r cydymaith anesthesia yn defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad arbenigol i helpu ei glaf i ystyried ei opsiynau a gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.
- Tua diwedd eich astudiaethau, efallai y byddwch chi’n gyfrifol, dan oruchwyliaeth, am egluro i glaf beth fydd yn digwydd iddo. Dylai eich goruchwyliwr egluro i’r claf yn gyntaf sut y byddwch chi’n cael eich goruchwylio a phwysleisio eich bod yn rhan o’r tîm clinigol.
- Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gofyn am gydsyniad ar gyfer mân driniaethau fel cymryd sampl gwaed neu ddarllen pwysedd gwaed. Fodd bynnag, rhaid i chi beidio â chymryd cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer unrhyw driniaeth. Dylai’r meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig arall sy’n gyfrifol am y driniaeth gael y cydsyniad hwn.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am gydsyniad yng nghanllawiau’r GMC ar gyfer meddygon cofrestredig, Gwneud penderfyniadau a chydsynio.
Cydsyniad - pethau pwysig i’w cofio
Mae angen i gleifion wybod mai myfyriwr ydych chi er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag a ydyn nhw am i chi gymryd rhan yn eu gofal. Unwaith y byddan nhw’n gwybod eich bod yn fyfyriwr, gallwch ofyn a ydyn nhw’n fodlon i chi siarad â nhw am eu hiechyd, eu harchwilio neu gynnal triniaeth.
Cofiwch:
- ni ddylech chi gynnal unrhyw driniaeth ar glaf heb ei gydsyniad ar gyfer y driniaeth benodol honno
- os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag a yw claf wedi rhoi cysyniad i chi gymryd rhan yn ei ofal neu ymgymryd ag unrhyw fath o driniaeth, siaradwch â'ch goruchwyliwr am eich pryderon
- dylech chi fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd gan gleifion y galluedd meddyliol i gydsynio weithiau
- rhaid i chi barchu penderfyniad cleifion sydd ddim eisiau i chi fod yn rhan o’u gofal.
Cyfathrebu gyda’r rhai sy’n agos i glaf
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia fod yn ystyriol ac yn dosturiol o’r rheini sy’n agos at glaf a bod yn sensitif ac yn ymatebol wrth roi cymorth a gwybodaeth iddyn nhw. Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, rhaid i chi fod yn gwrtais ac yn ystyriol tuag at unrhyw un sy’n agos at y claf, fel perthnasau, gofalwyr a ffrindiau bob amser – nid yn ystod ymgynghoriadau’n unig. Ni ddylech chi dybio y bydd claf eisiau i wybodaeth am ei iechyd gael ei rhannu â’r rhai sy’n agos ato, a dylech chi bob amser ofyn am gydsyniad y claf cyn datgelu unrhyw wybodaeth amdano. Mae canllawiau manylach ar hyn i’w cael yn Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion.
Gofalu am y claf cyfan
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gefnogi cleifion i ofalu amdanyn nhw eu hunain a’u grymuso i wella a chynnal eu hiechyd. Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, rhaid i chi wneud y canlynol:
- helpu cleifion i gael gafael ar wybodaeth a chymorth i reoli eu hiechyd yn llwyddiannus
- eu helpu i wneud penderfyniadau sy’n gwella eu hiechyd a’u llesiant.
Diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ystyried anghenion a lles pobl (oedolion, plant a phobl ifanc) a allai fod yn agored i niwed, a chynnig cymorth iddyn nhw os ydyn nhw’n credu bod eu hawliau’n cael eu camddefnyddio neu eu hamddifadu. Mae canllawiau manylach ar gael yn: Diogelu plant a phobl ifanc a 0-18 oed: canllawiau i bob meddyg.
- Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, rhaid i chi siarad â’ch goruchwyliwr ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon am glaf – neu rywun agos ato – a allai fod mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Gweler Sut i fynegi pryder ynglŷn â diogelwch clafi gael rhagor o wybodaeth am sut i godi pryder.
Helpu mewn argyfwng
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gynnig cymorth mewn argyfwng, gan ystyried eu diogelwch eu hunain, eu cymhwysedd, ac argaeledd opsiynau eraill ar gyfer gofal.
- Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, cyn helpu mewn argyfwng dylech chi ystyried eich diogelwch eich hun. Dylech chi ystyried a ydych chi’n gymwys i weithredu ac yn teimlo eich bod chi’n gallu cynnig cymorth, neu benderfynu a yw’n well ceisio cael cymorth i rywun sydd mewn trallod.
Gwneud yn siŵr bod cleifion sy’n peri risg o niwed i bobl eraill yn gallu cael gafael ar ofal priodol
- Rhaid peidio â gwrthod gofal i gleifion oherwydd bod eu cyflwr yn rhoi pobl eraill mewn perygl. Os bydd claf yn peri risg i iechyd neu ddiogelwch cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, dylai gymryd pob cam sydd ar gael i leihau'r risg cyn darparu triniaeth ei hun, neu wneud trefniadau amgen i ddiwallu anghenion y claf.
- Os ydych chi, fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, yn teimlo bod claf yn peri risg i'ch iechyd a'ch diogelwch, dylech chi siarad â'ch goruchwyliwr cyn cymryd rhan yng ngofal y claf.
Bod yn agored os bydd pethau’n mynd o’i le
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia fod yn agored ac yn onest gyda chleifion os bydd pethau’n mynd o’i le. Os bydd claf dan ei ofal wedi dioddef niwed neu drallod, dylai:
- unioni pethau, os oes modd
- ymddiheuro (nid yw ymddiheuro, ynddo’i hun, yn golygu eich bod yn cyfaddef eich bod yn atebol yn gyfreithiol am yr hyn sydd wedi digwydd)
- egluro’n llawn ac yn brydlon beth sydd wedi digwydd a’r effeithiau tymor byr a thymor hir tebygol
- rhoi gwybod am y digwyddiad yn unol â pholisi ei sefydliad fel bod modd adolygu neu ymchwilio i’r digwyddiad fel y bo’n briodol – a bod modd dysgu gwersi a diogelu cleifion rhag niwed yn y dyfodol.
- Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, ni fyddwch chi’n uniongyrchol gyfrifol am ofal cleifion oherwydd eich goruchwyliwr fydd yn gyfrifol am hyn. Ond os ydych chi’n credu bod unrhyw agwedd ar ofal rydych chi’n ymwneud â hi wedi mynd o’i le, dylech chi ddweud wrth eich goruchwyliwr cyn gynted â phosibl. Bydd eich goruchwyliwr yn eich cefnogi ac, os bydd angen, bydd yn eich helpu i unioni pethau. Gall hyn gynnwys egluro i’r claf beth sydd wedi digwydd a chynnig ymddiheuriad. Gweler hefyd Ymateb i risgiau diogelwch.
- Yn ystod eich cwrs cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, efallai y byddwch chi’n gweld neu'n cymryd rhan mewn rhywbeth sy'n mynd o'i le gyda gofal claf, ac efallai y bydd gofyn i chi gyfrannu at ymchwiliad mewnol. Er y bydd darparwr eich cwrs fel arfer yn cael gwybod am ddigwyddiadau arwyddocaol, dylech chi gysylltu ag uwch staff yn gynnar, er mwyn iddyn nhw allu trefnu cymorth i chi. Bydd hyn yn diogelu cleifion ac yn caniatáu i’r tîm clinigol rydych chi’n gweithio gyda nhw ymateb yn briodol.
- Rhaid i chi gyfrannu’n onest ac yn agored at y broses. Mae bod yn agored ac yn onest yn allweddol i fod yn fyfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia ac i fod yn gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia diogel a dibynadwy. Efallai y byddwch chi’n clywed hyn yn cael ei alw’n ddyletswydd gonestrwydd broffesiynol.
Mae’r GMC a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar y cyd ar gyfer nyrsys a meddygon, Bod yn agored ac yn onest pan fydd pethau’n mynd o’i le: y ddyletswydd gonestrwydd proffesiynol.