Cyflawni arfer meddygol da: canllaw i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia

Proffesiynoldeb - meysydd pryder allweddol

Ymddygiad y tu allan i’r cwrs cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia

Mae angen i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ymddwyn yn broffesiynol y tu allan i’r gwaith a’u cwrs. Mae hyn yn golygu y dylech chi osgoi gwneud pethau a fydd yn tanseilio’r hyder sydd gan gleifion mewn cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia a’r hyder sydd gan y cyhoedd yn eich proffesiwn.

Er enghraifft, ni ddylech chi wneud sylwadau gwahaniaethol am unigolion neu grwpiau o bobl yn gyhoeddus neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd darparwr eich cwrs yn gweithredu os byddwch chi’n gwneud rhywbeth amhroffesiynol, fel cael rhybuddiad am ymddygiad meddw, hyd yn oed os digwyddodd y tu allan i'r cwrs neu dros wyliau'r haf. Mae hyn yn golygu y dylech chi gymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd a bod yn ymwybodol y gallen nhw gael effaith ehangach ar sut mae darparwr eich cwrs yn ystyried eich proffesiynoldeb.

  1. Rhaid i ymddygiad myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia gyfiawnhau'r hyder sydd gan gleifion a'r cyhoedd ynddyn nhw. Mae enghreifftiau o ymddygiad amhroffesiynol a fyddai’n achosi pryder wedi’u rhestru isod. Mae rhai o'r enghreifftiau hyn yn berthnasol i amgylchedd y cwrs, ond mae'n bwysig cofio bod angen i chi ymddwyn yn broffesiynol y tu allan i'ch cwrs hefyd. Gallai ymddygiad amhroffesiynol dros nifer o wahanol feysydd, neu ymddygiad amhroffesiynol ailadroddus neu barhaus, arwain at achosion addasrwydd i ymarfer. Mae’n bwysig nodi nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Twyllo neu lên-ladrad

  • Twyllo mewn arholiadau gan gynnwys rhannu, neu geisio rhannu unrhyw ddeunydd arholiad heb ganiatâd darparwr eich cwrs
  • Cofrestru cyfoedion i sesiynau sy’n cael eu dysgu neu leoliadau clinigol y maen nhw’n absennol ohonynt
  • Cyflwyno gwaith pobl eraill fel eich gwaith eich hun
  • Ffugio llofnod goruchwyliwr neu ffugio adborth ar asesiadau, llyfrau log neu bortffolios

Anonestrwydd neu dwyll, gan gynnwys anonestrwydd y tu allan i’r rôl broffesiynol

  • Ffugio gwaith ymchwil
  • Cyflawni twyll ariannol
  • Creu CV twyllodrus neu ffugio dogfennau eraill
  • Camgyfleu cymwysterau
  • Ffugio llofnodion ar ddogfennau fel portffolios
  • Peidio â datgan materion camymddwyn neu gyflyrau iechyd perthnasol i ddarparwr eich cwrs, eich sefydliad addysg uwch neu eich cyflogwr
  • Atal neu gamgyfleu cyflyrau iechyd yn fwriadol (ee feirysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed)

Camymddwyn a chyflyrau iechyd sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau neu alcohol

  • Gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
  • Camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn
  • Yfed alcohol mewn ffordd sy’n effeithio ar waith clinigol, yr amgylchedd gwaith, neu berfformiad yn yr amgylchedd addysgol
  • Defnyddio cyffuriau mewn ffordd sy’n effeithio ar waith clinigol, yr amgylchedd gwaith, neu berfformiad yn yr amgylchedd addysgol – gall hyn gynnwys cyffuriau cyfreithlon sy’n creu effaith debyg i gyffuriau anghyfreithlon
  • Gwerthu, meddu ar, neu gyflenwi cyffuriau, hyd yn oed os nad oes achos cyfreithiol
  • Patrwm o yfed gormod o alcohol

Ymddygiad ymosodol, treisgar neu fygythiol

  • Ymosod
  • Trais corfforol
  • Bwlio
  • Aflonyddu
  • Stelcio
  • Bwlio a throlio ar-lein

Peidio ag arddangos arfer proffesiynol da

  • Camddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel beirniadu darparwyr lleoliadau
  • Torri cyfrinachedd
  • Camarwain cleifion am eu gofal neu eu triniaeth
  • Ar fai o ran peidio â chael cydsyniad priodol gan glaf
  • Aflonyddu neu fwlio rhywiol, hiliol neu o fath arall
  • Archwiliadau amhriodol neu beidio â chadw terfynau priodol o ran ymddygiad
  • Gwahaniaethu anghyfreithlon

Agwedd neu ymddygiad amhriodol parhaus

  • Ddim yn ymroddgar i waith neu ddiffyg ymgysylltu â hyfforddiant, rhaglen astudio neu leoliadau clinigol
  • Esgeuluso tasgau gweinyddol
  • Rheoli amser yn wael
  • Absenoldeb
  • Sgiliau cyfathrebu gwael
  • Ddim yn derbyn nac yn dilyn cyngor addysgol ac amharodrwydd i ddysgu o adborth a roddwyd gan eraill
  • Bod yn anghwrtais tuag at gleifion, cydweithwyr neu bobl eraill
  • Bod yn anfodlon dysgu o adborth adeiladol a roddwyd gan bobl eraill
  • Bod yn aflonyddgar mewn sesiynau addysgu neu yn yr amgylchedd hyfforddi
  • Ymddygiad heriol tuag at athrawon clinigol neu ddim yn derbyn beirniadaeth
  • Ddim yn ateb neu’n ymateb i ohebiaeth o fewn amser rhesymol

Unrhyw rybuddiad neu euogfarn

  • Bod â chyffuriau anghyfreithlon yn eich meddiant, eu gwerthu neu eu cyflenwi
  • Lladrad
  • Trais corfforol
  • Osgoi prisiau tocynnau
  • Twyll ariannol
  • Pornograffi plant
  • Cam-drin plant neu unrhyw gam-drin arall
  • Troseddau rhywiol