Atodiad: Prosesau proffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer ar gyfer darparwyr cyrsiau, sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr
Mae’r atodiad hwn yn rhoi trosolwg o brosesau addasrwydd i ymarfer ar gyfer cyrsiau cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Mae gwybodaeth fwy manwl ar gael yn y canllawiau perthnasol: Ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i ymarfer: canllawiau dros dro ar gyfer darparwyr cyrsiau cymdeithion meddygol a’u myfyrwyr neu Ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i ymarfer: canllawiau dros dro ar gyfer darparwyr cyrsiau sy’n cael eu rheoleiddio gan y GMC ac sydd â myfyrwyr cyflogedig.
Cyflyrau iechyd a dirnadaeth neu reolaeth o’r rhain
- Ddim yn ceisio triniaeth neu gyngor priodol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol annibynnol sydd â chymwysterau priodol
- Ddim yn dilyn y gofyniad i roi gwybod i ddarparwr eich cwrs neu eich sefydliad addysg uwch os oes gennych chi gyflwr iechyd difrifol
- Gwrthod dilyn cyngor meddygol neu gynlluniau gofal, neu i gydymffurfio â threfniadau ar gyfer monitro ac adolygu
- Ddim yn cydymffurfio ag addasiadau rhesymol i sicrhau diogelwch cleifion
- Ddim yn cydnabod terfynau a galluoedd neu ddiffyg dealltwriaeth o gyflyrau iechyd
- Ddim yn cael eich imiwneiddio rhag clefydau heintus difrifol cyffredin (oni bai fod yna wrtharwyddion)
- Mae gan ddarparwyr cyrsiau cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddyletswydd i ddyfarnu cymhwyster i’r myfyrwyr hynny sy’n addas i ymarfer fel cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia yn unig. Ar ôl i reoleiddio ddechrau, bydd y gofyniad hwn yn cael ei bennu gan y GMC, a fydd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd yr holl gyrsiau cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y DU. Oherwydd y gofyniad hwn, bydd gan ddarparwr eich cwrs neu eich cyflogwr ffyrdd o fonitro ymddygiad myfyrwyr a phroses addasrwydd i ymarfer neu broffesiynoldeb i ddelio â myfyrwyr sy'n arddangos ymddygiad amhroffesiynol.
- Rydym ni’n darparu canllawiau lefel uchel i ddarparwyr cyrsiau cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ar gynnal y prosesau hyn, ond mae'r prosesau eu hunain yn amrywio rhwng cyrsiau. Y rheswm am hyn yw bod pob darparwr cyrsiau yn unigryw o ran ei maint a’i strwythur ac oherwydd ffactorau eraill, fel ei pherthynas â’i sefydliad addysg uwch. Fodd bynnag, rydym ni wedi gosod fframwaith eang i ddarparwyr cyrsiau ei ddilyn.
- Ar gyfer cyrsiau cymdeithion anesthesia, dylai darparwr y cwrs oruchwylio’r broses pryderon, gan weithio gyda’r cyflogwr. Mae hyn yn ymwneud â’r cwrs rydych chi’n ei astudio yn hytrach na’r rôl rydych chi’n gweithio ynddi, er y gallai’r ddau orgyffwrdd.
Monitro pryderon lefel isel
- Mae pryderon lefel isel yn bethau fel colli sesiynau addysgu, peidio â chyflwyno gwaith yn brydlon neu beidio ag ymateb i ohebiaeth gan ddarparwr y cwrs neu’r cyflogwr. Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol bydd darparwyr cyrsiau yn monitro ymddygiad eu myfyrwyr mewn perthynas â'r mathau hyn o bryderon; ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion anesthesia, bydd darparwr y cwrs a'r cyflogwr yn gweithio gyda'i gilydd i fonitro ymddygiad. Efallai na fydd un enghraifft o'r math hwn o ymddygiad yn ddigon i sbarduno proses addasrwydd i ymarfer - ond os bydd myfyriwr yn arddangos y mathau hyn o ymddygiad yn gyson, bydd darparwr y cwrs eisiau edrych yn fanylach ar y pryderon.
- Ar gyfer cyrsiau meddygol, mae gan rai ysgolion meddygol bwyllgor i edrych ar achosion o'r math hwn o ymddygiad, ac mewn ysgolion eraill efallai y bydd unigolyn yn gyfrifol am y broses hon. Mae hwn yn gyfle i drafod gyda'r myfyriwr pam ei fod wedi gweithredu fel hyn ac i nodi unrhyw faterion sylfaenol sy'n awgrymu fod angen cymorth ychwanegol ar y myfyriwr, fel problem iechyd.
- Bydd y pwyllgorau hyn hefyd yn gallu cynghori myfyrwyr am y camau y mae angen iddyn nhw eu cymryd i osgoi mynd i fwy o drafferth mewn perthynas â'u perfformiad proffesiynol a gallan nhw gefnogi myfyrwyr i'w helpu i wneud hyn.
- Weithiau gall y pwyllgorau hyn roi rhybudd i ddweud bod yn rhaid i fyfyriwr wella ei ymddygiad neu wynebu camau pellach.
Ymchwiliad addasrwydd i ymarfer ffurfiol
- Os bydd myfyriwr yn gwneud rhywbeth amhroffesiynol mwy difrifol neu'n arddangos ymddygiad amhroffesiynol lefel isel parhaus, gan gynnwys mewn perthynas â rheoli ei gyflwr iechyd, gallai hyn olygu bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. Bydd darparwr eu cwrs neu eu sefydliad addysg uwch yn dechrau proses i ymchwilio i’r ymddygiad hwn. Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben heb unrhyw gamau pellach, rhybudd, neu atgyfeiriad i banel neu bwyllgor addasrwydd i ymarfer.
Beth yw panel neu bwyllgor addasrwydd i ymarfer?
- Mae panel neu bwyllgor addasrwydd i ymarfer yn grŵp diduedd o unigolion sy’n ystyried a yw myfyriwr yn addas i ymarfer at ddibenion parhau â’i astudiaethau neu at ddibenion cymhwyso. Mae darparwyr cyrsiau/sefydliadau addysg uwch yn paratoi tystiolaeth i'r panel neu'r pwyllgor ei hystyried – gall myfyrwyr hefyd gyflwyno unrhyw dystiolaeth sy'n berthnasol yn eu barn nhw.
- Yna bydd darparwr y cwrs/sefydliad addysg uwch a'r myfyriwr yn cyflwyno eu tystiolaeth i'r panel neu'r pwyllgor, a fydd yn gwneud penderfyniad yn seiliedig arni. Bydd panel neu bwyllgor yn ceisio sefydlu ffeithiau’r achos – byddan nhw’n gwneud eu penderfyniad ar sail pwysau tebygolrwydd bod y digwyddiad honedig wedi digwydd. Yna, byddan nhw’n penderfynu a oes amhariad ar addasrwydd y myfyriwr i ymarfer fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia ac yn penderfynu pa gosb y dylid ei rhoi, os o gwbl.
- Bydd y panel neu’r pwyllgor yn nodi ei benderfyniad yn ysgrifenedig ac yn egluro’r rhesymau drosto. Bydd y llythyr penderfyniad hwn hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r myfyriwr am sut y gall apelio yn erbyn penderfyniad y panel neu’r pwyllgor.
Pa gymorth fydda i’n ei gael yn ystod ymchwiliad addasrwydd i ymarfer?
- Bydd darparwr eich cwrs a’ch sefydliad addysg uwch (a’ch cyflogwr ar gyfer cymdeithion anesthesia) yn eich cefnogi yn ystod ymchwiliadau a gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer. Gall undeb y myfyrwyr hefyd fod yn ffynhonnell bwysig o gyngor a chefnogaeth. Gallwch chi hefyd gysylltu â sefydliadau amddiffyn meddygol, a all hefyd roi cymorth ac arweiniad.
Rhai o’r ffactorau y mae paneli a phwyllgorau addasrwydd i ymarfer yn eu hystyried
Patrymau ymddygiad
Os ydych chi’n parhau i ymddwyn mewn ffordd amhroffesiynol, gall awgrymu nad ydych chi’n dysgu o'ch camgymeriadau a gall fod yn dystiolaeth o agwedd amhroffesiynol. Efallai y bydd hyn hefyd yn cael ei ystyried mewn perthynas â'ch iechyd - er enghraifft, os ydych chi wedi dangos patrwm o beidio â gofyn am help gyda chyflwr iechyd.
Dealltwriaeth
Mae hyn yn golygu eich bod chi’n deall bod yr hyn rydych chi wedi’i wneud yn amhroffesiynol a pham ei fod yn amhroffesiynol. Mae sefydlu a oes gennych chi ddealltwriaeth yn un o’r pethau allweddol y mae paneli a phwyllgorau’n edrych arnyn nhw. Gall pethau fel ymddiheuro am eich ymddygiad a bod yn agored ac yn onest am gamgymeriadau’r gorffennol i drydydd partïon helpu i ddangos dealltwriaeth.
Gwella
Dyma’r broses lle rydych chi’n cymryd camau i ddangos eich bod chi wedi cywiro eich ymddygiad a’ch bod chi bellach yn addas i ymarfer. Gallai rhai enghreifftiau o wella gynnwys y canlynol:
- ysgrifennu traethodau myfyriol ar ymddygiad amhroffesiynol yn y gorffennol
- ymgysylltu â chymorth sy’n cael ei ddarparu gan ddarparwr eich cwrs neu gyflogwr
- gallu dangos cyfnod sylweddol o ymddygiad da
- ymgysylltu â gweithgareddau fel sgrinio cyffuriau ac alcohol ar hap y mae modd eu defnyddio i ddangos newid mewn ymddygiad.
Ffactorau lliniarol
Mae’r rhain yn bethau a allai helpu i egluro’r rhesymau dros ymddygiad gwael. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael profedigaeth ac efallai bod hyn wedi effeithio ar eich ymddygiad. Dylech chi nodi, er y gallai ffactorau lliniarol egluro eich ymddygiad, efallai na fyddan nhw o reidrwydd yn lleihau ei effaith na’i ddifrifoldeb.
Ffactorau gwaethygol
Mae’r rhain yn bethau sy’n gwneud trosedd yn waeth. Er enghraifft, os ydych chi’n ailadrodd ymddygiad rydych chi wedi cael rhybudd amdano o’r blaen.
Eich blwyddyn astudio
Mae disgwyl i chi aeddfedu a dysgu am broffesiynoldeb wrth i chi symud ymlaen drwy eich cwrs. Felly, gallai rhai enghreifftiau o ymddygiad gael eu hystyried yn fân gamymddwyn os byddan nhw’n digwydd pan fyddwch chi’n fyfyriwr newydd, ond bydden nhw’n cael eu cymryd yn fwy difrifol pe byddech chi ar fin graddio cymhwyso. Yn ogystal, os ydych chi’n agosáu at gymhwyso, efallai na fydd gennych chi amser i ddangos eich bod wedi gwella a gall hyn ei gwneud yn anodd ddarparwr eich cwrs ganiatáu i chi gymhwyso.