Cyflawni arfer meddygol da: canllaw i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia
Dyletswyddau gweithwyr proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
Rhaid i gleifion fod yn gallu ymddiried mewn meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gyda’u bywydau a’u hiechyd. I gyfiawnhau’r ymddiriedaeth honno rhaid iddynt sicrhau mai gofal cleifion yw eu blaenoriaeth, a bodloni’r safonau sy’n ddisgwyliedig ohonynt ym mhob un o’r pedwar maes.
Gwybodaeth, sgiliau a datblygiad
- Darparu safon dda o ymarfer a gofal, a gweithio o fewn eich cymhwysedd.
- Cadw’ch gwybodaeth a’ch sgiliau yn gyfredol.
Cleifion, partneriaeth a chyfathrebu
- Parchu urddas pob claf a’u trin fel unigolion.
- Gwrando ar gleifion a gweithio mewn partneriaeth â nhw a’u cefnogi i wneud penderfyniadau am eu gofal ar sail gwybodaeth.
- Diogelu gwybodaeth bersonol cleifion rhag cael ei ddatgelu'n amhriodol.
Cydweithwyr, diwylliant a diogelwch
- Gweithio gyda chydweithwyr mewn ffyrdd sydd er budd cleifion a bod yn barod i arwain neu ddilyn un unol â'r amgylchiadau.
- Bod yn barod i rannu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gyda chydweithwyr, yn anffurfiol neu drwy addysgu, hyfforddi neu fentora.
- Trin pobl â pharch a helpu i greu amgylchedd gweithio a hyfforddi tosturiol, cefnogol a theg, lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel i ofyn cwestiynau, trafod gwallau a chodi pryderon.
- Gweithredu yn ddi-oed os ydych yn credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl difrifol.
- Gofalu am eich anghenion iechyd a llesiant eich hun, gan gydnabod a chymryd camau priodol os nad ydych chi’n addas i weithio.
Ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb
- Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb a bod yn agored os aiff pethau o’i le.
- Diogelu a hybu iechyd cleifion a’r cyhoedd.
- Peidio byth â gwahaniaethu'n annheg yn erbyn cleifion neu gydweithwyr.
- Peidio byth â cham-drin ymddiriedaeth cleifion ynddoch chi neu ymddiriedaeth y cyhoedd yn eich proffesiwn.