Parth 1: Gwybodaeth, sgiliau a datblygiad
Cyflwyniad
Mae ymarfer proffesiynol yn daith gydol oes. Mae dal i fyny â datblygiadau cymdeithasol, cyfreithiol a thechnolegol sy’n newid yn gyflym yn golygu dysgu sgiliau newydd tra’n cynnal sgiliau eraill. Mae rhannu gwybodaeth – a gafwyd drwy ymchwil ac arloesi, yn ogystal â phrofiad – yn hanfodol i arfer da.
Mae cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia da yn gymwys, yn diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau ac yn darparu safon dda o ymarfer a gofal. Maen nhw’n ymdrechu i ddatblygu a gwella eu perfformiad proffesiynol. Maen nhw’n myfyrio’n rheolaidd ar eu safonau ymarfer ac yn defnyddio adborth a thystiolaeth i ddatblygu mewnwelediad personol a phroffesiynol.
Bod yn gymwys
- Fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cofrestredig, bydd disgwyl i chi fod yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith gan gynnwys, lle bo hynny’n berthnasol, rolau arwain neu reoli ffurfiol, ymchwil ac addysgu. Mae hyn er mwyn i chi allu rhoi’r gofal gorau i’ch cleifion.
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia cofrestredig gydnabod a gweithio o fewn terfynau eu cymhwysedd. Rhaid iddynt ymarfer o dan y lefel o oruchwyliaeth sy’n briodol i’w rôl, eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyfforddiant, a’r dasg y maent yn ei chyflawni, yn unig.
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia cofrestredig fod yn gyfarwydd â’r holl gyfreithiau a rheoliadau sy’n berthnasol i’w gwaith, yn ogystal ag unrhyw ganllawiau ar faterion y GMC. Bydd hyn yn diogelu cleifion drwy sicrhau eu bod yn cael triniaeth ddiogel a chyfreithlon a bydd yn helpu cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia i ddarparu’r gofal gorau posibl.
- Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, byddwch chi’n dysgu am gyfreithiau perthnasol ac arweiniad proffesiynol, yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau darparwr eich cwrs, eich sefydliad addysg uwch a’ch cyflogwr, ac mae'n bwysig eich bod yn defnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu pan fyddwch chi mewn amgylchedd clinigol. Wrth ymgymryd â dysgu clinigol, eich cyfrifoldeb chi yw gwybod, a mynd ati’n rhagweithiol i gael gwybod, am y polisïau a’r gweithdrefnau hyn a’u defnyddio yn eich gwaith. Mae hyn yn cynnwys dilyn y cyfreithiau a'r canllawiau perthnasol os byddwch chi ar leoliad dramor neu leoliad dewisol.
Darparu gofal clinigol da
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddarparu safon dda o ymarfer a gofal. Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, mae hyn yn berthnasol i chi mewn perthynas â'r amser y byddwch chi’n ei dreulio gyda chleifion ar leoliad clinigol. Mae hefyd yn golygu mai dim ond pan fyddwch chi o dan oruchwyliaeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig y dylech chi drin cleifion neu roi cyngor meddygol. Rhaid i chi wneud y canlynol:
- cydnabod terfynau eich cymhwysedd a gofyn am help a chyngor pan mae angen
- gwneud yn siŵr eich bod chi’n egluro lefel eich cymhwysedd yn glir i unrhyw un sy'n eich goruchwylio ar leoliad, fel nad oes gofyn i chi wneud unrhyw beth nad ydych chi wedi eich hyfforddi i'w wneud
- gwneud yn siŵr bod cleifion, gofalwyr a chydweithwyr yn ymwybodol mai myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia ydych chi ac nid cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cofrestredig
- gweithredu os nad ydych chi'n meddwl eich bod chi'n cael eich goruchwylio'n effeithiol ar leoliad clinigol (gweler paragraff 7)
- ymgysylltu’n brydlon â systemau gwerthuso rheolaidd sy’n cael eu darparu gan ddarparwr eich cwrs neu eich sefygliad addyg uwch (er enghraifft, holiaduron diwedd lleoliad neu bwyllgorau cyswllt staff-myfyrwyr).
Bod yn broffesiynol ar leoliadau - camau ymarferol
- Dylech chi bob amser gyflwyno eich hun i gleifion, gan roi gwybod iddyn nhw beth yw eich enw llawn ac mai myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia ydych chi, gan gynnwys ym mha flwyddyn rydych chi.
- Pan fyddwch chi’n cwrdd â chlaf am y tro cyntaf, a phob tro rydych chi eisiau ymuno â nhw ar gyfer unrhyw drafodaeth glinigol, gwnewch yn siŵr eu bod yn fodlon i fyfyriwr fod yn bresennol.
- Gwnewch yn siŵr bod eich bathodyn adnabod neu rywbeth tebyg a roddwyd i chi gan ddarparwr eich cwrs neu leoliad yn weladwy bob amser.
- Gwisgwch yn daclus ac yn unol â'r codau gwisg sydd wedi’u gosod gan ddarparwr eich cwrs neu leoliad.
- Cyrhaeddwch yn brydlon ar gyfer eich lleoliad a pheidiwch â gadael eich lleoliad yn gynnar oni bai eich bod chi wedi cytuno ar hyn gyda goruchwyliwr perthnasol a darparwr eich cwrs.
- Ewch i sesiynau ymsefydlu os ydyn nhw’n cael eu cynnig.
- Ewch i’r holl hyfforddiant gorfodol sy’n cael ei drefnu ar eich cyfer tra byddwch chi ar leoliad.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r rheolau a'r canllawiau sy'n benodol i'ch lleoliad ac eich bod yn eu dilyn, gan gynnwys sut y dylech chi godi unrhyw bryderon. Os nad ydych chi’n siŵr, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn a oes unrhyw beth penodol y dylech chi ei wybod ar ddechrau eich lleoliad.
- Byddwch yn onest gyda chleifion os nad ydych chi’n gwybod yr ateb i’w cwestiynau. Mae cleifion yn gwerthfawrogi eich bod chi yno i ddysgu.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pwy sy'n gyfrifol am eich goruchwylio'n uniongyrchol ar eich lleoliad a phwy sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia mewn amgylchedd clinigol ac yn y sefydliad lle rydych chi’n gweithio. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall lle i fynd os oes angen help arnoch chi ac os oes gennych chi unrhyw bryderon y mae angen i chi eu mynegi.
- Byddwch yn ymwybodol, tra byddwch chi ar unrhyw leoliad dewisol yn y DU neu dramor, dylai myfyrwyr barhau i ddefnyddio'r cyngor yn y canllawiau hyn lle bynnag y mae’n bosibl.
- Erbyn diwedd eich cwrs cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, rhaid i chi allu cyflawni ystod o weithdrefnau diagnostig, therapiwtig ac ymarferol yn ddiogel ac yn effeithiol, a nodi, yn unol â lefel eich sgiliau a’ch profiad, yr ymyriadau y mae angen goruchwyliaeth arnoch chi er mwyn sicrhau diogelwch cleifion. Mae goruchwyliaeth gan feddygon wedi’u henwi neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r gweithdrefnau hyn drwy gydol eich cwrs, a phan fyddwch yn ymarfer fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cymwys er mwyn datblygu eich cymhwysedd, eich hyder a’ch profiad.
- Os ydych chi o’r farn nad ydych chi’n cael eich goruchwylio’n briodol ar leoliad, dylech roi’r gorau i’r gwaith rydych chi’n ei wneud a chodi eich pryderon gyda darparwr y lleoliad a darparwr eich cwrs. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich astudiaethau a bydd yn dangos eich bod yn fyfyriwr cyfrifol sy'n gweithredu mewn modd proffesiynol. Rydym hefyd yn disgwyl i chi weithredu ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon am risgiau posibl i gleifion, fel sy’n cael ei amlinellu yn Ymateb i risgiau diogelwch.
Cynnal, datblygu a gwella eich perfformiad
- Fel myfyriwr sy’n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, byddwch chi’n dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen arnoch chi i drin cleifion, ond rydych chi hefyd yn datblygu eich gallu i ddysgu a meithrin sgiliau yn y dyfodol. Wrth i chi symud drwy eich cwrs ac i ymarfer, byddwch chi’n parhau i adeiladu ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu. I chi, mae’r agwedd hon ar arfer meddygol da yn ymwneud â chymryd rhan lawn yn y broses ddysgu hon.
- Rhaid i chi wneud y canlynol:
- ymgysylltu'n llawn â'ch cwrs drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a lleoliadau, a thrwy gwblhau gwaith cwrs yn unol â chyfarwyddyd darparwr eich cwrs neu eich cyflogwr
- gwrando ar gyngor eich darlithwyr a'ch goruchwylwyr
- cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau a systemau neu strwythurau eraill sy’n cael eu darparu gan ddarparwr eich cwrs neu sefydliad addysg uwch mewn perthynas â'ch astudiaethau
- ymateb yn adeiladol i adborth llafar ac ysgrifenedig gan gleifion, darlithwyr, clinigwyr ac aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol drwy fyfyrio'n feirniadol ar yr adborth a gwneud cynllun gweithredu i wella lle mae angen
- myfyrio ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu ac edrych ar ffyrdd o wella eich perfformiad eich hun
- ystyried sut mae eich profiadau, eich diwylliant a’ch credoau yn dylanwadu ar sut rydych chi’n rhyngweithio â phobl eraill a sut gallai effeithio ar y penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud.
Beth yw myfyrio?
Byddwch chi’n clywed am y cysyniad o fyfyrio a dod yn ymarferydd myfyriol drwy gydol eich amser ar eich cwrs.
Yn ei hanfod, mae myfyrio yn golygu meddwl am yr hyn rydych chi wedi’i wneud gyda’r bwriad o feithrin dealltwriaeth, a defnyddio’r gwersi rydych chi wedi’u dysgu i gynnal arferion da neu wneud gwelliannau lle mae hynny’n bosibl. I wneud hyn, mae angen i chi feddwl pa effaith mae eich gweithredoedd yn ei chael arnoch chi eich hun ac ar bobl eraill, gan gynnwys cleifion a chydweithwyr, ar draws pob agwedd ar eich addysg a’ch hyfforddiant.
Er enghraifft, wrth fyfyrio ar drafodaeth gyda chlaf neu gydweithiwr, gallech chi archwilio:
- beth roeddech chi’n ei feddwl ar adeg y drafodaeth
- sut roeddech chi’n teimlo ar y pryd ac ar ôl y drafodaeth
- beth allwch chi ei ddysgu o’ch meddyliau a’ch teimladau
- • sut i ddefnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu i wella’r ffordd rydych chi’n ymdrin â sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.
Mae myfyrio hefyd yn golygu ymateb yn adeiladol i adborth gan eich athrawon, goruchwylwyr a chydweithwyr. Meddyliwch am yr hyn y dywedwyd wrthych y gallwch chi ei wella a cheisiwch roi’r gwelliannau hynny ar waith. Dyma sut mae myfyrwyr sy'n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia a chymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sy’n ymarfer yn dysgu ac yn gwella.
Rydym ni wedi paratoi Yr ymarferydd myfyriol – canllaw i fyfyrwyr meddygol . Yma, rydym ni’n defnyddio safbwyntiau myfyrwyr meddygol, meddygon ac addysgwyr meddygol i egluro pam mae myfyrio'n bwysig a dangos i fyfyrwyr sut y gallan nhw ei ddefnyddio yn eu bywyd bob dydd fel myfyriwr a’r tu hwnt. Mae’r dull a’r egwyddorion hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio i fod yn gymdeithion meddygol neu’n gymdeithion anesthesia.
Cymryd rhan mewn asesiadau
Tra byddwch chi ar eich cwrs cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, bydd angen i chi basio sawl math o asesiad gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig a chlinigol, adroddiadau ac asesiadau yn y gweithle. Mae'r rhaglen asesu hon wedi'i chynllunio i sicrhau eich bod chi’n gymwys ac yn ddiogel i ymuno â'r proffesiwn pan fyddwch chi’n cymhwyso. Felly, mae'n hanfodol i ddiogelwch cleifion bod canlyniadau asesiadau ac arholiadau yn fesur dilys a dibynadwy o'ch gallu. Rhaid i chi ymgysylltu’n llawn â’r broses asesu drwy sicrhau mai eich gwaith chi yw unrhyw waith ysgrifenedig rydych chi’n ei gyflwyno a thrwy beidio â cheisio twyllo neu gyflwyno gwaith pobl eraill fel eich gwaith eich hun mewn asesiadau clinigol neu asesiadau gwybodaeth. Rhaid i chi beidio â helpu cydfyfyrwyr i dwyllo drwy rannu cynnwys unrhyw arholiadau gyda nhw.
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia cofrestredig gymryd camau i fonitro, cynnal, datblygu a gwella eu perfformiad ac ansawdd eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn systemau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd i hyrwyddo diogelwch cleifion ar draws holl rychwant eu hymarfer.
- Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, byddwch chi’n dysgu sut i gymryd rhan mewn gweithgarwch a'i hyrwyddo i wella ansawdd a diogelwch gofal cleifion a chanlyniadau clinigol. Efallai y cewch chi gyfle i gymryd rhan mewn archwiliadau ac adolygiadau.
Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy
- Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia cofrestredig wneud defnydd da o’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, a darparu’r gwasanaeth gorau posibl, gan ystyried eu cyfrifoldebau i gleifion a’r boblogaeth ehangach. Dylen nhw ddewis atebion cynaliadwy pan fyddan nhw’n gallu gwneud hynny, ar yr amod nad yw’r rhain yn peryglu safonau gofal, ac ystyried cefnogi mentrau i leihau effaith gofal iechyd ar yr amgylchedd.
- Fel myfyriwr sy'n astudio i fod yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia, erbyn diwedd eich astudiaethau dylech chi allu amlinellu egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy a'i ddefnyddio yn eich ymarfer fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia . Ewch i’n tudalen Cwestiynau ac Atebion Cynaliadwyedd i gael rhagor o wybodaeth. Mae angen i benderfyniadau cynaliadwyedd sy’n cael eu gwneud gan fyfyrwyr gyd-fynd â pholisi darparwr y cwrs neu’r cyflogwr a/neu'r amgylchedd clinigol lle rydych chi wedi eich lleoli.