Cyrchu gwybodaeth

Yn aml mae'n gyflym ac yn hawdd cyrchu ein gwybodaeth trwy anfon cais anffurfiol atom.

Lle na allwn roi'r wybodaeth i chi trwy ein harferion arferol, mae cyfreithiau sy'n rhoi hawliau i chi ofyn am fynediad.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddefnyddio ein cynllun cyhoeddi neu eich hawliau mynediad cyfreithiol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Pam darllen y canllaw hwn?
I gael gwybod pa wybodaeth y gallwch ofyn amdani a sut y gallwch wneud hynny.
Camau nesaf
Darllenwch ein harweiniad ac e-bostiwch unrhyw geisiadau am wybodaeth.