Sut i gael gwybodaeth am yr hyn a wnawn
Eich hawliau
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i unrhyw un ofyn am wybodaeth gofnodedig a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus.
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am wybodaeth a byddwn yn:
- dweud wrthych os oes gennym yr wybodaeth sydd ei heisiau neu beidio
- • rhoi'r wybodaeth i chi, heblaw ei fod yn dod o dan unrhyw un o'r eithriadau a restrir yn y Ddeddf.
Rwyf am ofyn am wybodaeth
Gwiriwch ein cynllun cyhoeddi yn gyntaf. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei heisiau arnoch ar ein gwefan neu drwy ddefnyddio'r cynllun cyhoeddi, gallwch anfon cais am wybodaeth atom.
Bydd angen i chi anfon i ni:
- eich enw a manylion cyswllt (e-bost neu gyfeiriad post) fel y gallwn anfon ateb atoch
- disgrifiad o'r wybodaeth neu'r dogfennau sydd eu heisiau arnoch.
Anfonwch eich cais at:
Information Access team
General Medical Council
3 Hardman Street
Manchester
M3 3AW
Fel arall, gallwch e-bostio eich cais i: foi@gmc-uk.org.
Mae eisiau help arnaf i ofyn am wybodaeth
Rydym wedi ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin y mae pobl yn eu gofyn wrth ofyn am wybodaeth isod.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ymateb i’m cais?
Byddwn yn ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn 20 diwrnod gwaith. Byddwch yn derbyn ateb i ddweud naill ai:
- bod gennym y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani ac rydym yn cynnwys copi ohoni
- bod y wybodaeth gennym ond ni allwn ei rhoi i chi oherwydd ein bod wedi’n heithrio rhag gwneud hynny – ac os felly byddwn yn esbonio pam
- ni allwn gadarnhau na gwadu os yw'r wybodaeth gennym – ac os felly byddwn yn esbonio pam.
Faint fydd yn ei gostio?
Os byddwch yn gofyn am wybodaeth trwy ein cynllun cyhoeddi a bod y cofnod yn dweud y bydd tâl yn berthnasol, byddwch yn cael gwybod faint fydd hyn yn ei gostio.
Mae ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ni ateb cais os yw'r gost o wneud hynny yn fwy na £450. Mae hyn tua dau ddiwrnod a hanner o waith, neu 18 awr, ar gyfradd o £25 y person yr awr.
Gwybodaeth na allwn ei rhoi i chi
Os na allwn roi unrhyw wybodaeth i chi, byddwn yn dweud wrthych pam y cafodd ei dal yn ôl, yr eithriad sy'n berthnasol yn ein barn ni a gwybodaeth am sut i apelio.
Mae eisiau gwybod mwy arnaf am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y Ddeddf yn: