Sut i gael mynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch

Eich hawliau 

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi’r hawl i chi ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Rwyf am wneud cais

E-bostiwch foi@gmc-uk.org.

Neu ysgrifennwch atom:
Information Access team
General Medical Council
3 Hardman Street
Manchester
M3 3AW
 

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb i hyn achosi oedi ychwanegol.

Mae eisiau help arnaf i wneud fy nghais

Rydym wedi ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin y mae pobl yn eu gofyn wrth wneud cais isod. 

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ymateb i’m cais?

Byddwn yn ymateb i’ch cais cyn gynted â phosibl – fel arfer o fewn y terfyn un mis a osodwyd gan y GDPR. Os yw cais yn gymhleth, mae'r rheoliad yn caniatáu i ni ymestyn ein hamser ymateb o ddau fis arall. 

Efallai y bydd angen i ni ymestyn yr amser ymateb o ddau fis arall os bydd angen i ni adolygu nifer fawr o ddogfennau, os oes ystyriaethau data trydydd parti neu os oes amgylchiadau eraill yn ymwneud â phroses ystyried hir neu gymhleth. Byddwn yn ystyried hyn fesul achos – os mai dyma’r sefyllfa gyda’ch cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn egluro pam fod angen yr estyniad arnom.

Oes gwybodaeth na allwch ei rhoi i mi?

Mae nifer o eithriadau o’r hawl mynediad, a all olygu na allwn roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Mae’r eithriadau hyn wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018 y DU. 

Pwy all ofyn am wybodaeth?

Gall unrhyw un wneud cais am eu gwybodaeth bersonol eu hunain o dan y GDPR. Os ydych am i rywun arall wneud cais am eich gwybodaeth bersonol ar eich rhan (fel cyfreithiwr neu gynrychiolydd arall), bydd angen eich awdurdodiad ysgrifenedig arnom fel prawf eu bod yn gweithredu ar eich rhan.

Oes angen i mi roi rheswm i weld y wybodaeth yr wyf yn gofyn amdani?

Nid oes rhaid i chi roi rheswm pam eich bod am weld y wybodaeth. Ond efallai y byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi i'n helpu ni i ddeall yn union beth rydych chi am i ni ei ddarparu.

Sut allaf wneud cais am wybodaeth os oes gennyf anabledd neu anawsterau ysgrifennu?

Rhowch wybod i ni os ydych yn cael trafferth cyflwyno cais. Gallwn dderbyn cais llafar – gallwch gysylltu â ni ar 0161 923 6602 a byddwn yn eich cynorthwyo.

A allaf gael mynediad at fy nghofnodion iechyd trwy’r CMC?

Nid ydym fel arfer yn cadw cofnodion iechyd pobl. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn cadw rhai cofnodion iechyd os bydd eu hangen arnom i ymchwilio i gŵyn am feddyg, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA). Os byddwch yn gofyn am gael gweld eich gwybodaeth bersonol, ac rydym yn cadw rhai o'ch cofnodion iechyd, mae'n rhaid i ni gael cyngor cyn rhoi mynediad i chi. Yn ymarferol, mae fel arfer yn fwy syml i ofyn i'ch darparwr gofal iechyd am fynediad at eich cofnodion iechyd yn uniongyrchol. 

Nodwch, os nad ydym yn cadw eich cofnodion iechyd fel rhan o'n proses ymchwilio, ni allwn gael mynediad iddynt ar eich rhan.

A allaf gael gwybodaeth am bobl sydd wedi marw?

Dim ond unigolion byw y mae deddfwriaeth diogelu data yn eu cwmpasu, felly nid oes unrhyw hawliau mynediad at wybodaeth am bobl sydd wedi marw. Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth a gofnodwyd a gedwir gan awdurdod cyhoeddus o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA). Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ‘ymgeisydd-ddall’, felly mae’n rhaid i ni ystyried os yw’r wybodaeth yn addas i’w rhyddhau nid yn unig i chi, ond hefyd i’r cyhoedd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n debygol y bydd ceisiadau am wybodaeth am bobl sydd wedi marw yn cael eu hystyried wedi'u heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990 yn rhoi hawliau mynediad statudol cyfyngedig i gofnodion iechyd pobl sydd wedi marw. Os ydych am wneud cais am fynediad at gofnod iechyd person ymadawedig o dan y Ddeddf hon, mae angen i chi ofyn i’r darparwr gofal iechyd perthnasol os bydd yn penderfynu a ddylid datgelu’r rhain i chi. Ni allwn ryddhau cofnodion o dan y Ddeddf hon, hyd yn oed os ydym yn eu dal.

Rwyf am wybod mwy am y GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data yn: