Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon â'n hymateb i'ch cais

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, hoffem glywed oddi wrthych.

Pa fanylion sydd angen i mi eu darparu?

 

Byddai’n ddefnyddiol cynnwys:

  • eich enw, cyfeiriad, rhif cyfeirnod o’ch gohebiaeth 
  • sut yr hoffech i ni gysylltu â chi
  • manylion am yr hyn sydd wedi arwain at eich cwyn
  • enw’r person yr oeddech yn delio ag ef
  • yr hyn y teimlwch y gallwn ei wneud i gywiro pethau.

 phwy y dylwn gysylltu?

Anfonwch eich sylwadau neu bryderon at:

Information Access Manager
General Medical Council
3 Hardman Street
Manchester
M3 3AW

E-bost: foi@gmc-uk.org 

Pryd gallaf ddisgwyl ymateb?

Byddwn yn anelu at anfon ymateb llawn atoch o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn. Os yw eich cwyn yn gymhleth, efallai y bydd angen mwy o amser arnom i ymchwilio iddi. Lle mae hyn yn wir, byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 20 diwrnod gwaith i ddweud wrthych pam fod yr oedi wedi digwydd a phryd y disgwyliwn roi ateb llawn i chi.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn fodlon â'r ymateb?

Gallwch godi eich pryderon gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dyma’r corff cyhoeddus annibynnol sy’n goruchwylio cydymffurfiaeth â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg. Ond efallai y byddant yn gofyn i chi ddatrys eich cwyn trwy ein gweithdrefnau yn gyntaf.

Gweld manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.