Faint fydd yn ei gostio i gael mynediad at wybodaeth
- Beth yw ein cynllun cyhoeddi?
- Faint fydd yn ei gostio i gael mynediad at wybodaeth
- Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon â'n hymateb i'ch cais
Faint mae'n ei gostio i gael cyhoeddiad?
Nid ydym fel arfer yn codi tâl am ddarparu gwybodaeth o dan ein cynllun cyhoeddi. Ac rydym yn ceisio sicrhau bod y rhan fwyaf o'n gwybodaeth gyhoeddedig ar gael ar ein gwefan.
Fodd bynnag, os hoffech gopi caled neu os yw'r wybodaeth ar gael ar ffurf copi caled yn unig, efallai y codir tâl.
Allbrintiau a llungopïau
Mae copïau sengl o gyhoeddiadau printiedig y CMC a Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) ar gael am ddim.
I archebu copïau printiedig o gyhoeddiadau:
- ffoniwch 0161 923 6602
- e-bostiwch: gmc@gmc-uk.org
- defnyddiwch y Gwasanaeth Cyfnewid Testun; deialwch y rhagddodiad 18001 + 0161 923 6602.
Rydym yn cadw'r hawl i godi tâl arnoch am ddarparu copïau caled. Mae hyn hefyd yn berthnasol os gofynnwch am gopïau lluosog, nifer fawr o ddogfennau neu wybodaeth sy'n cael ei harchifo ac nad yw bellach ar ein gwefan.
Bydd taliadau'n seiliedig ar gostau adalw, llungopïo, argraffu a phostio. Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint fydd hyn yn ei gostio ar adeg eich cais a bydd angen i chi dalu o flaen llaw.
Lle codir tâl, codir tâl am lungopïau du a gwyn ac allbrintiau o dudalennau gwe neu ddogfennau ar gyfradd safonol o 10c am bob ochr A4 o bapur, ynghyd â chost postio.
Pa dâl ydych chi'n ei godi am bostio?
Rydym yn codi tâl am bostio ar ymgeiswyr ar gost. Heblaw y gofynnir yn wahanol, anfonir gwybodaeth drwy bost ail ddosbarth y Post Brenhinol.
Hepgor ffioedd
Nid ydym fel arfer yn codi tâl am geisiadau syml am wybodaeth o dan ein cynllun cyhoeddi. Er enghraifft, rydym fel arfer yn hepgor ffioedd lle mae’r costau cysylltiedig yn llai na £50. Mae hyn fesul ymgeisydd fesul cyfnod o 12 mis. Ond, rydym yn cadw'r hawl i adolygu ein safbwynt ar godi tâl.
Faint mae trawsgrifiadau yn eu costio?
Gallwch wneud cais i drawsgrifio gwrandawiad. Er bod gwrandawiadau'n cael eu recordio'n ddigidol nid ydym bob amser yn cynhyrchu trawsgrifiadau ysgrifenedig ar gyfer pob un. Felly, gall costau amrywio.
Faint mae'n ei gostio ar gyfer trawsgrifiadau sydd gennym eisoes?
Fel arfer bydd yn costio tua £200 am dri diwrnod cyntaf gwrandawiad neu £2.25 +TAW fesul tudalen. Mae'r gost hon yn cynnwys gwirio ansawdd a golygu unrhyw wybodaeth nad yw'n wybodaeth gyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys adalw archif a llungopïo neu sganio. Codir tâl am drawsgrifiadau papur ac electronig. Bydd costau postio a phecynnu yn berthnasol am gopïau caled.
Faint mae'n ei gostio ar gyfer trawsgrifiadau y mae angen eu cynhyrchu?
Fel arfer bydd yn costio tua £700–800 +TAW am bob diwrnod o'r gwrandawiad. Bydd cost bellach yn gysylltiedig â gwirio ansawdd y trawsgrifiad yn erbyn y recordiad.
Pa wrandawiadau y gallaf ofyn am gael eu trawsgrifio?
I wneud cais am drawsgrifiadau o wrandawiadau MPTS llenwch y ffurflen Cais am drawsgrifiad gwrandawiad ar wefan MPTS.
I wneud cais am drawsgrifiadau Apêl Cofrestru, anfonwch e-bost at appeals@gmc-uk.org.
I wneud cais am drawsgrifiadau Gwrandawiad y Pwyllgor Ymchwilio Cyhoeddus, anfonwch e-bost at investigationscommittee@gmc-uk.org.