Gweithredu’n agored a gonest pan fydd pethau’n mynd o’ i le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd

Yn y canllawiau hyn, a luniwyd ar y cyd â Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), rydym yn archwilio beth yn ymarferol yw ystyr bod yn agored ac yn onest am gamgymeriadau. A phwy sy’n gyfrifol am esbonio a chofnodi beth sydd wedi mynd o’i le.

Rydym yn cynnwys cyngor ymarferol ar y canlynol:

  • pryd ac i bwy y dylech ymddiheuro
  • beth i’w gynnwys mewn ymddiheuriad
  • sut i ymddiheuro.

Ceir adran hefyd ar eich annog i roi gwybod am gamgymeriadau, nid yn unig gyda'ch cleifion, ond yn eich man gwaith i helpu i hyrwyddo diwylliant dysgu. 
Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ar 29 Mehefin 2015. 

Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ar 15 Mawrth 2022. Roedd hyn yn cynnwys diweddaru’r ôl-nodiadau a chyfeirio at y trefniadau a’r derminoleg ddiweddaraf ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol a damweiniau a fu bron â digwydd ledled y DU. Roeddem hefyd wedi ychwanegu’r manylion diweddaraf am dyletswydd statudol gonestrwydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a’r cynigion ar gyfer hyn yng Ngogledd Iwerddon. 

Fe’i diweddarwyd eto ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddaeth rheoleiddio meddygon cyswllt a chymdeithion anesthesia gan y GMC i rym.