Gweithredu’n agored a gonest pan fydd pethau’n mynd o’ i le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd

Atodiad 1: Dyfyniadau o safonau a chanllawiau’r GMC a’r NMC y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon

O Arfer meddygol da

45

Rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda chleifion os bydd pethau yn mynd o le.  Os bydd claf dan eich gofal wedi dioddef niwed neu ofid, mae’n rhaid i chi ddilyn ein canllaw am Weithredu mewn ffordd agored a gonest pan fydd pethau yn mynd o le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd, a dylech: 

  1. unioni’r mater, os oes modd 
  2. ymddiheuro (nid yw ymddiheuro ynddo’i hun yn golygu eich bod yn cyfaddef atebolrwydd cyfreithiol am yr hyn sydd wedi digwydd)
  3. rhoi esboniad llawn a phrydlon o’r hyn sydd wedi digwydd a’r effeithiau tebygol dros y tymor byr a’r tymor hir
  4. adrodd am y digwyddiad yn unol â pholisi eich sefydliad, fel y bydd modd ei adolygu neu ei ymchwilio pan fo hynny’n briodol – a bydd modd dysgu gwersi a diogelu cleifion rhag niwed yn y dyfodol.  
73

Er mwyn helpu i gadw cleifion yn ddiogel, rhaid i chi:

  1. gyfrannu at ymchwiliadau cyfrinachol7
  2. cyfrannu at adnabod digwyddiadau niweidiol 
  3. adrodd am ddigwyddiadau andwyol sy’n cynnwys dyfeisiau meddygol (gan gynnwys meddalwedd, profion diagnostig, ac offer digidol) sy’n peryglu diogelwch claf neu unigolyn arall, neu sydd â’r potensial i wneud hynny
  4. cyfrannu at adolygiadau a/neu ymchwiliadau i ddigwyddiadau
  5. adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau a amheuir
  6. ymateb i geisiadau gan sefydliadau sy’n monitro iechyd y cyhoedd.

Wrth ddarparu gwybodaeth at y dibenion hyn, rhaid i chi ddilyn ein canllaw am Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.

7

Mae ymchwiliad cyfrinachol yn ddull o ymchwilio i ddigwyddiadau niweidiol heb briodoli bai.  Mae enghreifftiau yn cynnwys NCEPOD – Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion, CIPOLD (Ymchwiliad Cyfrinachol i Farwolaethau Cyn-amserol pobl ag Anableddau Dysgu) ac Ymchwiliad Cyfrinachol i Farwolaethau Mamol I MBRRACE-UK I NPEU (ox.ac.uk) 

76

Os oes gennych chi rôl arwain neu reoli ffurfiol, rhaid i chi gymryd camau gweithredol i greu amgylchedd lle y gall pobl siarad am gamgymeriadau a phryderon mewn ffordd ddiogel.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau y rhoddir sylw prydlon a digonol i unrhyw bryderon a godir gyda chi, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.

O Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifon agweithredu yn eu cylch

13.Pryd bynnag y bo modd, dylech fynegi’ch pryder i’ch rheolwr neu swyddog priodol yn y sefydliad y mae gennych gontract gydag ef neu sy’n eich cyflogi chi yn y lle cyntaf – fel y meddyg ymgynghorol sy’n gyfrifol am y tîm, y cyfarwyddwr clinigol neu feddygol neu bartner yn y practis. Os yw’ch pryder yn ymwneud â phartner, efallai y byddai’n briodol ei godi y tu allan i’r practis – er enghraifft, gyda’r cyfarwyddwr meddygol neu’r swyddog arweiniol dros lywodraethu clinigol ar gyfer eich sefydliad. Os ydych yn weithiwr meddygol proffesiynol dan hyfforddiant, efallai y bydd yn briodol eich bod yn mynegi’ch pryderon i unigolyn penodol yn eich sefydliad hyfforddi.

Gweithwyr meddygol proffesiynol y mae ganddynt gyfrifoldebau ychwanegol

21. Os ydych yn gyfrifol am lywodraethu clinigol neu os oes gennych chi gyfrifoldebau rheoli ehangach yn eich sefydliad, mae gennych chi ddyletswydd i helpu pobl i adrodd eu pryderon a galluogi pobl i weithredu yn unol â phryderon sy’n cael eu codi gyda nhw.  

22. Os oes gennych rôl neu gyfrifoldeb rheoli, rhaid i chi sicrhau:

a. bod systemau a pholisïau mewn grym sy’n caniatáu i bryderon gael eu mynegi a bod digwyddiadau, pryderon a chwynion yn destun ymchwiliad prydlon a llawn

b. nad ydych yn ceisio atal cyfogeion neu gyn gyfogeion rhag mynegi pryderon ynghylch diogelwch cleifon – er enghraifft, ni ddylech gynnig neu ganiatáu contractau neu gytundebau sy’n ceisio cyfyngu ar neu gael gwared ar ryddid contractwyr i ddatgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w pryderon

c. bod staff clinigol yn deall eu dyletswydd i fod yn agored ac yn onest am ddigwyddiadau neu gwynion gyda chleifon a rheolwyr

d. bod yr holl staff eraill yn cael eu hannog i fynegi pryderon sydd ganddynt am ddiogelwch cleifon efallai, gan gynnwys unrhyw risgiau y gallai cydweithwyr neu dimau eu hachosi

e. bod staff sy’n mynegi pryder yn cael eu diogelu rhag beirniadaeth neu gamau annheg, gan gynnwys unrhyw niwed neu ddiswyddo.

offeryn penderfynu ar godi pryderon.

O Arweinyddiaeth a rheolaeth

24. Mae adnabod problemau neu faterion ynghylch perfformiad unigolion, timau neu wasanaethau yn gynnar yn hanfodol er mwyn helpu i ddiogelu cleifon.

Pob gweithiwr meddygol proffesiynol

25. Rhaid i chi gymryd rhan mewn adolygiadau ac archwiliadau rheolaidd o safonau a pherfformiad unrhyw dîm yr ydych yn gweithio ynddo, gan gymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau.

26. Dylech fod yn gyfarwydd gyda’r prosesau a’r strwythurau rheoli risg a llywodraethu clinigol o fewn y sefydliadau yr ydych yn gweithio iddynt neu y mae gennych gontract gyda nhw, a’u defnyddio. Yn ogystal, rhaid i chi ddilyn y weithdrefn yn y man lle’r ydych yn gweithio er mwyn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Mae hyn oherwydd bod nodi digwyddiadau niweidiol neu ddigwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd yn gynnar, yn gallu golygu bod modd delio gyda materion, bod modd cywiro problemau a bod modd dysgu gwersi.

27. Rhaid i chi ddilyn yr arweiniad yn Arfer meddygol da ac yn Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifon a gweithredu yn eu cylch  pan fydd gennych chi reswm dros gredu bod systemau, polisïau, gweithdrefnau neu gydweithwyr yn rhoi cleifon mewn perygl o ddioddef niwed, neu y gallent fod yn rhoi cleifon mewn perygl o ddioddef niwed.

Gweithwyr meddygol proffesiynol y mae ganddynt gyfrifoldebau ychwanegol

28. Os oes gennych rôl neu gyfrifoldeb rheoli, rhaid i chi sicrhau bod systemau mewn grym er mwyn rhoi rhybudd cynnar ynghylch unrhyw fethiant, neu fethiant posibl, ym mherfformiad clinigol unigolion neu dimau. Dylai’r rhain gynnwys systemau er mwyn cynnal archwiliadau ac er mwyn ystyried adborth gan gleifon. Rhaid i chi sicrhau bod sylw yn cael ei roi i unrhyw fethiant o’r fath yn gyfym ac mewn ffordd effeithiol.

29. Os ydych yn rheoli neu’n arwain tîm, dylech sicrhau bod systemau, gan gynnwys systemau archwilio a meincnodi, mewn grym er mwyn monitro, adolygu a gwella ansawdd gwaith y tîm. Rhaid i chi weithio gydag eraill er mwyn casglu a rhannu gwybodaeth am brofad a chanlyniadau cleifon. Rhaid i chi sicrhau bod y timau yr ydych yn eu rheoli yn cael eu cynorthwyo a’u datblygu mewn ffordd briodol a’u bod yn eglur ynghylch eu hamcanion.

O Gwneud penderfyniadau a chydsynio

87.  Rydym yn defnyddio’r term ‘budd cyffredinol’ i ddisgrifo’r sail foesegol dros wneud penderfyniadau am driniaeth a gofal ar gyfer cleifon sy’n oedolion ac y maent heb alluedd i benderfynu drostynt eu hunain. Mae hyn yn cynnwys pwyso a mesur risgiau niwed a manteision posibl i’r claf unigol ar gyfer pob un o’r dewisiadau sydd ar gael, gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth. Mae cysyniad budd cyffredinol yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth yn ‘cynnig budd’ i glaf (yr Alban), neu a yw er ‘budd pennaf’ y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). 

88.  Os mai chi yw’r  person sy’n bennaf gyfrifol dros driniaeth a gofal y claf, cyn dod i’r casgliad mai eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu pa ddewis(iadau) fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd, dylech gymryd camau rhesymol i ddarganfod:

  1. a oes tystiolaeth o werthoedd a dewisiadau’r claf a fynegwyd yn faenorol, y gallent fod yn rhwymo mewn cyfraith, megis penderfyniad neu ddatganiad ymlaen llaw
  2. a oes gan rywun arall yr awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran y claf neu wedi cael eu penodi i’w cynrychioli. *[neu yn yr Alban os yw rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000]

89. Os na cheir tystiolaeth o’r ffaith y gwrthodwyd triniaeth ymlaen llaw, sy’n rhwymo mewn cyfraith, ac nid oes gan unrhyw un awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad hwn drostynt, ac os mai chi yw’r person sy’n bennaf gyfrifol dros driniaeth a gofal y claf, yna chi sy’n gyfrifol am benderfynu ar yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’ch claf.5 

Wrth wneud hyn, rhaid i chi:

  1. ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, ystyried eu safbwyntiau am yr hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, a cheisio dod i gytundeb gyda nhw
  2. ystyried pa ddewis sy’n cyd-fynd agosaf ag anghenion, dewisiadau, gwerthoedd a blaenoriaethau’r claf
  3. ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar y dewisiadau i’r claf yn y dyfodol. 

90. Os bydd dewis arfaethedig am driniaeth neu ofal yn cyfyngu ar hawl claf i gael rhyddid personol, rhaid i chi ystyried a oes angen awdurdod cyfreithiol arnoch i fwrw ymlaen ag ef dan yr amgylchiadau. 

91. Dylech neilltuo digon o amser, os oes modd, i gynnal trafodaethau gyda’r rhai y mae ganddynt ddiddordeb yn lles y claf, a dylech geisio dod i gytundeb ynghylch sut i symud ymlaen.

5

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018)  Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 4.2

O Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer dawrth wneud penderfyniadau

84. Mae marwolaeth a galar yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, a bydd ymateb unigolyn yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau megis eu credoau, eu diwylliant, eu crefydd a’u gwerthoedd. Rhaid i chi ddangos parch tuag at ddymuniadau ac anghenion y sawl sy’n galaru, gan ymateb mewn ffordd sensitif iddynt a chan ystyried yr hyn yr ydych chi’n ei wybod am ddymuniadau’r claf ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd ar ôl eu marwolaeth, gan gynnwys eu safbwyntiau am rannu gwybodaeth. Dylech fod yn barod i gynnig cymorth i’r sawl sy’n galaru, er enghraifft, trwy esbonio lle y bydd modd iddynt gael gwybodaeth ynghylch y pethau ymarferol gweinyddol yn dilyn marwolaeth, a help gyda hyn; neu thrwy gynnwys aelodau eraill y tîm, megis staff nyrsio, caplaniaeth neu ofal galar.

O Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd

Sicrhau diogelwch

Rydych yn sicrhau bod diogelwch cleifon a’r cyhoedd yn cael ei ddiogelu. Rydych yn gweithio o fewn terfynau eich cymhwystra, gan arfer eich ‘dyletswydd broffesiynol gonestrwydd’ a mynegi pryderon ar unwaith pryd bynnag y byddwch yn dod ar draws sefyllfaoedd sy’n peryglu diogelwch cleifon neu’r cyhoedd. Rydych yn cymryd camau angenrheidiol er mwyn delio gydag unrhyw bryderon pan fo hynny’n briodol.

14. Dylech weithredu mewn ffordd onest a didwyll gyda’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr holl agweddau ar ofal a thriniaeth, gan gynnwys pan fydd unrhyw gamgymeriadau neu niwed wedi digwydd

Er mwyn cyfawni hyn, rhaid i chi: 

14.1. weithredu ar unwaith er mwyn unioni’r sefyllfa os bydd rhywun wedi dioddef niwed go iawn am unrhyw reswm neu os bydd digwyddiad wedi digwydd, y mae ganddo y potensial i achosi niwed

14.2. rhoi esboniad llawn a phrydlon am yr hyn a ddigwyddodd i’r unigolyn yr effeithiwyd arnynt a phan fo hynny’n briodol, eu heiriolwr, eu teulu neu eu gofalwyr, gan gynnwys yr effeithiau tebygol, ac ymddiheuro iddynt, a

14.3.  chofnodi’r holl ddigwyddiadau hyn mewn ffordd ffurfol, a chymryd camau pellach (eu huwchgyfeirio) pan fo hynny’n briodol er mwyn gallu gweithredu yn eu cylch yn gyfym.

16. Dylech weithredu yn ddi-oed os byddwch o’r farn bod perygl i ddiogelwch cleifon neu i ddiogelwch y cyhoedd 

Er mwyn cyfawni hyn, rhaid i chi:

16.1. fynegi unrhyw bryderon sydd gennych am ddiogelwch cleifon neu’r cyhoedd, neu lefel y gofal y mae pobl yn ei chael yn eich gweithle neu mewn unrhyw leoliadau gofal iechyd arall, a’u huwchgyfeirio yn ôl yr angen, gan ddefnyddio’r sianelau sydd ar gael i chi yn unol â’n harweiniad a’ch arferion gwaith lleol chi

16.2. mynegi eich pryderon ar unwaith os gofynnir i chi wneud gwaith meddygol sy’n mynd y tu hwnt i’ch rôl, eich profad a’ch hyfforddiant

16.3. dweud wrth rywun mewn awdurdod cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol os byddwch yn cael problemau y gallent eich atal rhag gweithio o fewn y Cod neu o fewn safonau cenedlaethol eraill, gan gymryd camau prydlon i ddelio ag achosion y pryder os y gallwch

16.4. cydnabod a gweithredu ynghylch yr holl bryderon sy’n cael eu mynegi i chi, gan ymchwilio, uwchgyfeirio neu ddelio gyda’r pryderon hynny pan fo hi’n briodol i chi wneud hynny

16.5. peidio atal, bygwth, erlid neu rwystro cydweithiwr, aelod o staff, person yr ydych yn gofalu amdanynt neu aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno mynegi pryder mewn unrhyw ffordd, a

16.6. diogelu unrhyw un y mae gennych chi gyfrifoldeb dros eu rheoli rhag unrhyw niwed, anfantais, erledigaeth neu driniaeth di-alwamdano ar ôl i bryder gael ei fynegi.

Am ragor o wybodaeth, trowch at Raising concerns: Guidance for nurses and midwives

O Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC, 2018)

Adran 1.3: deall a chymhwyso egwyddorion dewrder, tryloywder a gonestrwydd, gan gydnabod a rhoi gwybod am unrhyw sefyllfaoedd, ymddygiadau neu gamgymeriadau a allai arwain at ganlyniadau gofal gwael.

O Safonau hyfedredd ar gyfer bydwragedd (NMC, 2019)

Adran 1.19 - deall a gweithredu egwyddorion dewrder, uniondeb, tryloywder, a’r ddyletswydd gonestrwydd proffesiynol, gan gydnabod ac adrodd am unrhyw sefyllfaoedd, ymddygiadau, neu gamgymeriadau a allai arwain at ofal is na’r safon, agweddau ac ymddygiad camweithredol, gwaith tîm aneffeithiol, neu ganlyniadau niweidiol.

From Standards of proficiency for registered nursing associates (NMC, 2018)

Section 1.3 - understand the importance of courage and transparency and apply the Duty of Candour, recognising and reporting any situations, behaviours or errors that could result in poor care outcomes.