Atodiad 2: Y ddyletswydd gonestrwydd statudol ar gyfer sefydliadau gofal ar draws y DU
Lloegr
Mae CQC wedi gweithredu gofyniad i ddarparwyr gofal iechyd i fod yn agored gyda chleifon ac i ymddiheuro pan fydd pethau yn mynd o chwith. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i holl ddarparwyr cofrestredig GIG a chyrff gofal iechyd annibynnol, yn ogystal â darparwyr gofal cymdeithasol o 1 Ebrill 2015. Nid yw’r ddyletswydd gonestrwydd sefydliadol yn berthnasol i unigolion, ond disgwylir i sefydliadau sy’n darparu gofal iechyd i weithredu’r ddyletswydd newydd ar draws eu sefydliad trwy sicrhau bod staff yn deall y ddyletswydd a’u bod yn cael hyfforddiant priodol.
Bwriad Rheoliad 20 Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Gweithgareddau a Reoleiddir) 2014 yw sicrhau bod darparwyr yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â gofal a thriniaeth gyda phobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Yn ogystal, mae’n nodi rhai gofynion penodol y mae’n rhaid i ddarparwyr eu dilyn pan fydd pethau yn mynd o chwith gyda gofal neu driniaeth, gan gynnwys hysbysu pobl am y digwyddiad, cynnig cymorth rhesymol, rhoi gwybodaeth gywir ac ymddiheuro pan fydd pethau yn mynd o chwith. Mae modd i CQC erlyn am achosion o dorri rhannau 20(2)a a 20(3) y rheoliad hwn.
Gogledd Iwerddon
Ym mis Ionawr 2015, gwnaeth cyn Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon, Jim Wells MLA, gyhoeddi cynlluniau i gyfwyno dyletswydd statudol gonestrwydd ar gyfer Gogledd Iwerddon. Roedd y cyhoeddiad hwn yn dilyn y cam o gyhoeddi Adroddiad Donaldson, a wnaeth archwilio’r trefniadau llywodraethu er mwyn sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yng Ngogledd Iwerddon. Gwnaeth adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol ar gyfer Gogledd Iwerddon 2014, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2015, ailddatgan yr ymrwymiad i gyfwyno dyletswydd statudol gonestrwydd yng Ngogledd Iwerddon.
‘Gan ymateb i adolygiad Donaldson, cyhoeddwyd cynlluniau gan y Gweinidog i gyfwyno dyletswydd statudol gonestrwydd ar gyfer Gogledd Iwerddon. Daeth y ddyletswydd i’r amlwg yn Lloegr o ganlyniad i gasgliadau adroddiad Francis – ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford. Mae gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw yn elfennau hollbwysig o ddiogelwch cleifon. Pan fydd pethau yn mynd o chwith, mae gan gleifon, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd yr hawl i ddisgwyl y bydd rhywun yn cyfathrebu gyda nhw mewn ffordd onest a parchus, ac y bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i gywiro camgymeriadau neu hepgoriadau ac i ddysgu ganddynt er mwyn eu hatal rhag digwydd eto.
‘Mae’r gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon eisoes yn gweithredu dan ddyletswyddau statudol ansawdd a chyswllt. Bydd ymgysylltu ystyrlon gyda chleifon a chleientiaid, gofalwyr a’r cyhoedd yn gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Nid bwriad y ddyletswydd gonestrwydd yw hyrwyddo diwylliant o ofn, o roi bai ac o amddiffynoldeb wrth adrodd pryderon am ddiogelwch a chamgymeriadau pan fyddant yn digwydd.’
Yr Alban
Roedd Deddf Iechyd (Tybaco, Nicotin ac ati a Gofal) (Yr Alban) 2016 a Rheoliadau Gweithdrefn y Ddyletswydd Gonestrwydd (Yr Alban) 2018 yn gosod dyletswydd gonestrwydd sefydliadol ynghylch gwasanaethau iechyd, gofal a gwaith cymdeithasol yn yr Alban. Daeth y ddyletswydd i rym ar 1 Ebrill 2018. Diben cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau bod sefydliadau yn agored, yn onest ac yn gefnogol pan geir digwyddiad annisgwyl neu anfwriadol sy’n arwain at niwed neu farwolaeth, yn unol â’r diffiniad yn y Ddeddf.
Mae gofyn i sefydliadau ddilyn gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd sy’n cynnwys hysbysu’r unigolyn sy’n cael eu heffeithio, ymddiheuro a chynnig cyfarfod er mwyn rhoi adroddiad am yr hyn a ddigwyddodd.
Yn ogystal, mae’r ddyletswydd yn mynnu bod y sefydliad yn adolygu pob digwyddiad, gan ystyried y cymorth sydd ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt (mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n darparu a’r rhai sy’n cael gwasanaethau gofal a chymorth).
Yn ogystal, mae gofyn i sefydliadau gyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch adegau pan weithredwyd y ddeddf. Mae hyn yn cynnwys nifer y digwyddiadau, sut y mae’r sefydliad wedi gweithredu’r ddyletswydd a’r hyn a ddysgwyd a’r gwelliannau a wnaethpwyd.
Law yn llaw â’r gofynion cyfreithiol a osodir gan y Ddeddf, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi canllawiau46 ynghylch gweithredu’r ddyletswydd gonestrwydd i’r holl sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau gofal neu wasanaethau gwaith cymdeithasol yn yr Alban.
Scottish Government (2018) Organisational duty of candour: guidance (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Cymru
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni Cam) (Cymru) 2011 yn rhoi nifer o ddyletswyddau ar gyrff cyfrifol sy’n darparu gofal GIG. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i fod yn agored pan allai niwed fod wedi digwydd:
‘pan hysbysir pryder gan aelod o staff yn y corff cyfrifol, rhaid i’r corff cyfrifol, pan fo ei ymchwiliad cychwynnol yn pennu y bu niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth, gynghori’r claf y mae’r pryder yn ymwneud â nhw, neu eu cynrychiolydd, o’r ffaith bod y pryder wedi cael ei hysbysu, gan gynnwys y claf neu eu cynrychiolydd yn y broses o ymchwilio i’r pryder’.
Mae Fframwaith Safonau Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru, yn cynnwys safon o’r enw ‘gwrando a dysgu gan adborth’. Wrth fodloni’r safon hon, mae’r fframwaith yn cynghori bod ‘gwasanaethau iechyd yn agored ac yn onest gyda phobl pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’u gofal a’u triniaeth’. Mae’r safonau yn darparu fframwaith ar gyfer y ffordd y caiff gwasanaethau eu trefnu, eu rheoli a’u darparu o ddydd i ddydd.
Ar 1 Mehefin 2020, daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu)(Cymru) 2000 yn rhan o’r gyfraith a daeth i rym ar 1 Ebrill 2023. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau Statudol y Ddyletswydd Gonestrwydd 2023 ar 1 Ebrill 2023 i gefnogi’r broses o weithredu’r ddyletswydd gonestrwydd.
Roedd y Ddeddf yn pennu dyletswydd gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau GIG, gan fynnu eu bod yn gweithredu mewn ffordd agored a gonest gyda chleifion a darparwyr gwasanaeth pan fydd pethau yn mynd o’i le.
Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn mynnu bod darparwyr GIG yn adrodd yn flynyddol ynghylch achosion pan weithredwyd y ddyletswydd.
Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau Statudol y Ddyletswydd Gonestrwydd 2023 ar 1 Ebrill 2023 i gefnogi’r broses o weithredu’r ddyletswydd gonestrwydd.