Bod yn agored ac yn onest gyda chleifon yn eich gofal, a’r rhai sy’n agos iddynt, pan fydd pethau yn mynd o le
Dylech drafod risgiau cyn cychwyn ar driniaethneu ddarparu gofal
Rhaid i gleifon gael gwybodaeth lawn4 , 5 am eu gofal. Wrth drafod dewisiadau ynghylch gofal gyda chleifon, rhaid i chi drafod risgiau, yn ogystal â manteision, y dewisiadau.
Cyngor Meddygol Cyffredinol Gwneud Penderfyniadau a Chaniatâd (2020)
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 4.2
Rhaid i chi neu unigolyn priodol6 roi gwybodaeth eglur a manwl i’r claf am risgiau’r driniaeth neu’r gofal arfaethedig, ynghyd â risgiau unrhyw ddewisiadau amgen rhesymol, gan sicrhau bod y claf yn deall. Dylech drafod risgiau7 sy’n digwydd yn aml, y rhai y maent yn ddifrifol hyd yn oed os ydynt yn annhebygol iawn o ddigwydd, a’r rhai y mae’r claf yn debygol o fod o’r farn eu bod y bwysig.8
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud Penderfyniadau a Chaniatâd, paragraffau 42-45
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud Penderfyniadau a Chaniatâd, paragraffau 12, 17-24, 27-30, 66-67 a 58f.
Y Goruchaf Lys (2015) Dyfarniad: Montgomery (Apeliwr) v Bwrdd Iechyd Swydd Lanark (Atebwr) (Yr Alban) (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraffau 86–91
Ym mha amgylchiadau y bydd angen i miymddiheuro i’r claf?
Nid yw’r arweiniad hwn ar gyfer amgylchiadau pan fydd cyfwr claf yn gwaethygu o ganlyniad i ddatblygiad naturiol eu salwch. Mae’n berthnasol pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda gofal claf, a byddant yn dioddef niwed neu ofd o ganlyniad. Yn ogystal, mae’r arweiniad hwn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd pan allai claf ddioddef niwed neu ofd yn y dyfodol o ganlyniad i’r ffaith bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’u gofal.
Pan fyddwch yn sylweddoli bod rhywbeth wedi mynd o’i le, ac ar ôl gwneud yr hyn y gallwch i unioni’r sefyllfa, rhaid i chi neu rywun o’r tîm gofal iechyd siarad gyda’r claf.9 Yr aelod mwyaf priodol o’r tîm fydd y clinigydd arweiniol neu atebol fel arfer.10 Os nad chi yw hwn/hon, rhaid i chi ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 5.
Os bydd y claf wedi marw, neu'n annhebygol o adennill ymwybyddiaeth neu galluedd, dylid darllen 'claf' yn paragraff 10-17 fel 'y rhai sy'n agos at y claf'.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2014) Arweiniad i feddygon sy’n cyfawni rôl clinigwyr neu feddygon ymgynhorol cyfrifol (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Pryd ddylwn i siarad gyda’r claf neu’r rhai sy’nagos iddynt, a beth fydd angen i mi ei ddweud?
Dylech siarad gyda’r claf cyn gynted ag y bo modd ar ôl i chi sylweddoli bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’u gofal. Pan fyddwch yn siarad gyda nhw, dylai rhywun fod ar gael sy’n gallu eu cynorthwyo (er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr proffesiynol). Nid oes yn rhaid i chi aros tan ganlyniad ymchwiliad cyn siarad gyda’r claf, ond dylech roi esboniad eglur o’r hyn sydd wedi cael ei gadarnhau a’r hyn nad yw wedi cael ei gadarnhau eto.
Dylech rannu popeth yn yr ydych yn ei wybod ac yr ydych yn credu ei fod yn wir am yr hyn a aeth o’i le a pham, a beth yw’r canlyniadau yn debygol o fod. Dylech esbonio os oes unrhyw beth yn ansicr o hyd ac mae’n rhaid i chi ymateb mewn ffordd onest i unrhyw gwestiynau.11 Dylech ymddiheuro i’r claf (gweler paragraffau 14–20).
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Ymarfer Meddygol Da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraff 11
Beth os na fydd pobl yn dymuno cael gwybod ymanylion?
Fel arfer, bydd cleifon yn dymuno cael gwybod mwy am yr hyn sydd wedi mynd o’i le. Ond dylech gynnig y dewis iddynt o beidio cael gwybod pob manylyn. Os na fydd y claf yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, dylech geisio darganfod pam. Ar ôl cael trafodaeth, os na fyddant wedi newid eu meddwl, dylech barchu eu dymuniadau gymaint ag y bo modd,12 ar ôl esbonio’r canlyniadau posibl. Rhaid i chi gofnodi’r ffaith nad yw’r claf yn dymuno cael y wybodaeth hon, gan roi esboniad eglur iddynt bod modd iddynt newid eu meddwl a chael rhagor o wybodaeth ar unrhyw adeg.
Os bydd angen i’r claf roi eu caniatâd i ymchwiliad neu driniaeth arfaethedig, bydd angen i chi roi digon o wybodaeth iddynt er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus
Dweud sori
Mae cleifon yn disgwyl clywed tri pheth fel rhan o ymddiheuriad:
- yr hyn a ddigwyddodd
- yr hyn y mae modd ei wneud er mwyn delio gydag unrhyw niwed a achoswyd
- yr hyn a wneir er mwyn atal rhywun arall rhag cael niwed.
Nid yw ymddiheuro i glaf yn golygu eich bod yn cyfaddef atebolrwydd cyfreithiol 13 am yr hyn a ddigwyddodd. Nodir hyn mewn deddfwriaeth mewn rhannau o’r DU14 ac mae Awdurdod Ymgyfreitha GIG yn cynghori hefyd mai dweud sori yw’r peth cywir i’w wneud.15 Yn ogystal, gallai panel addasrwydd i wneud gwaith meddygol ystyried ymddiheuriad fel tystiolaeth o ddirnadaeth.16, 17
Mae ‘Atebolrwydd cyfreithiol’ yma yn cyfeirio at hawliad esgeulustod clinigol. Ni fydd Awdurdod Ymgyfreitha GIG ‘fyth yn dal sicrwydd am hawliad yn ôl oherwydd bod ymddiheuriad neu esboniad wedi cael ei roi’.
Compensation Act 2006 Deddf Iawndal 2006 (Cymru a Lloegr) (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 2
NHS Resolution Saying Sorry (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Ystyried sancsiynau ar gyfer achosion difrifol (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Wrth ymddiheuro i gleifon ac esbonio’r hyn a ddigwyddodd, nid ydym yn disgwyl i chi gymryd cyfrifoldeb personol dros rywbeth a aeth o’i le nad oeddech chi ar fai amdano (megis camgymeriadau system neu gamgymeriad cydweithiwr). Ond mae gan y claf yr hawl i gael ymddiheuriad gan yr aelod mwyaf priodol o’r tîm (gweler paragraff 9), waeth pwy neu beth sy’n gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd.
Nid ydym yn dymuno annog dull gweithredu fformwläig tuag at ymddiheuro, gan nad oes unrhyw werth i ymddiheuriad oni bai ei fod yn un go iawn. Fodd bynnag, wrth ymddiheuro i glaf, dylech ystyried y pwyntiau canlynol.
- Rhaid i chi roi’r wybodaeth i gleifon y byddant yn dymuno’i chael neu y bydd angen iddynt ei gwybod mewn ffordd y gallant ei deall.18
- Dylech siarad gyda chleifon mewn man ac ar adeg pan fyddant yn y sefyllfa orau i ddeall ac i gofo gwybodaeth.
- Dylech roi gwybodaeth a allai beri gofd i’r claf iddynt mewn ffordd ystyriol, gan barchu eu hawl i breifatrwydd ac urddas.
- Mae cleifon yn debygol o’i weld yn fwy ystyrlon os byddwch yn cynnig ymddiheuriad personol – er enghraifft ‘Mae’n ddrwg gennyf . . . ‘ - yn hytrach na datganiad cyffredinol sy’n edifarhau’r digwyddiad ar ran y sefydliad. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn disgwyl i chi gymryd cyfrifoldeb personol am fethiannau mewn system neu gamgymeriadau pobl arall (gweler paragraff 16).
- Dylech sicrhau bod y claf yn gwybod pwy y dylent gysylltu â nhw yn y tîm gofal iechyd er mwyn gofyn unrhyw gwestiynau pellach neu fynegi pryderon. Yn ogystal, dylech roi gwybodaeth i gleifon am wasanaethau eiriolaeth, gwasanaethau cwnsela neu wasanaethau cymorth eraill annibynnol19 sy’n gallu rhoi cyngor ymarferol a chymorth emosiynol iddynt.
- Dylech gofnodi manylion eich ymddiheuriad yng nghofnod clinigol y claf.20, 21 Efallai y bydd angen anfon ymddiheuriad ysgrifenedig yn dilyn ymddiheuriad ar lafar, gan ddibynnu ar ddymuniadau’r claf a pholisi eich gweithle.22
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud Penderfyniadau a Chaniatâd, paragraffau 27-29.
Er enghraifft, gallech eu cyfeirio at Action against Medical Accidents (AvMA), sy’n gweithio ar draws y DU, neu i’w grŵp Healthwatch lleol yn Lloegr, Patient and Client Council yng Ngogledd Iwerddon, Patient Advice and Support Service yn yr Alban neu’r Cyngor Iechyd Cymunedol yng Nghymru. Gweler Help y cleifion ar wefan y GMC neuCefnogaeth i gleifion, teuluoedd a'r cyhoeddar wefan y NMC am wybodaeth bellach.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Ymarfer Meddygol Da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraff 11
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 14.3
Gweler atodiad 2 am fanylion y ddyletswydd gonestrwydd statudol i sefydliadau sy’n darparu gofal iechyd.
Siarad gyda’r rhai sy’n agos i’r claf
Os bydd rhywbeth wedi mynd o’i le sy’n achosi marwolaeth claf neu niwed difrifol o’r fath i glaf, fel nad yw’n debygol y byddant yn dod at eu hunain neu’n adennill eu galluedd, rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda’r rhai sy’n agos i’r claf.3, 23 Dylech gymryd amser i gyfeu’r wybodaeth mewn ffordd dosturiol, gan roi’r cyfe iddynt ofyn cwestiynau ar y pryd ac ar ôl hynny.24
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 14
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Arfer meddygol da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraffau 33, 65, 68
Os bydd claf wedi gofyn i chi yn faenorol i beidio rhannu gwybodaeth bersonol am eu cyfwr neu eu triniaeth gyda’r rhai sy’n agos iddynt, dylech barchu eu dymuniadau. Wrth wneud hynny, rhaid i chi wneud eich gorau i fod yn ystyrlon, yn sensitif ac yn ymatebol i’r rhai sy’n agos i’r claf, gan roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch iddynt.
Rhaid i chi barchu ac ymateb mewn ffordd sensitif i ddymuniadau ac anghenion pobl galarus. Rhaid i chi ystyried yr hyn yr ydych yn ei wybod am ddymuniadau’r claf am yr hyn a ddylai ddigwydd ar ôl eu marwolaeth, gan gynnwys eu safbwyntiau ynghylch rhannu gwybodaeth. Dylech fod yn barod i gynnig cymorth i bobl galarus – er enghraifft, trwy esbonio ble y mae modd iddynt gael gwybodaeth am, a help gyda, thasgau gweinyddol ac ymarferol yn dilyn marwolaeth; neu thrwy gynnwys aelodau eraill y tîm, megis staff gofal galar neu gaplaniaeth. 25, 26
Mae'r canlynol yn rhoi gwybodaeth am ble gall pobl ddod o hyd i help a chefnogaeth yn dilyn marwolaeth:
- Lloegr: Bereavement help and support
- Gogledd Iwerddon: Who to tell about a death
- Yr Alban: Bereavement support
- Cymru: What to do after a death
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2010) Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraff 84
Dylech sicrhau, gymaint ag y bo modd, bod y rhai sy’n agos i’r claf wedi cael cynnig cymorth priodol a bod ganddynt bwynt cyswllt penodol rhag ofn y bydd ganddynt bryderon neu gwestiynau yn nes ymlaen.
Bod yn agored ac yn onest gyda chleifon amachosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd
Mae ‘achos y bu ond y dim iddo ddigwydd’ yn ddigwyddiad niweidiol yr oedd ganddo y potensial i achosi niwed, ond na wnaeth achosi niwed.27 Rhaid i chi ddefnyddio’ch barn broffesiynol pan fyddwch yn ystyried a ddylech hysbysu cleifon am achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Weithiau, bydd angen i’r claf gael gwybod rhyw wybodaeth neu wybodaeth y byddent yn dymuno ei chael, ac fe allai dweud wrth y claf am yr achos y bu ond y dim iddo ddigwydd helpu gyda’u hadferiad hyd yn oed. Yn yr achosion hyn, dylech drafod yr achos y bu ond y dim iddo ddigwydd gyda’r claf, gan ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau 11–17.
Nid yw hyn yn cynnwys digwyddiadau niweidiol a allai arwain at niwed ond nad ydynt wedi gwneud hynny eto – rhaid dweud wrth y claf am y digwyddiadau hyn ac mae’n rhaid adrodd amdanynt yn unol â’r arweiniad hwn.
Weithiau, gallai methu bod yn agored gyda chlaf am achos y bu ond y dim iddo ddigwydd niweidio’u hymddiriedaeth a’u hyder ynoch chi a’r tîm gofal iechyd. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd angen i gleifon gael gwybod am achos y bu ond y dim iddo ddigwydd, na wnaeth beri niwed iddynt ac na fydd yn peri niwed iddynt, ac fe allai ei drafod gyda nhw beri gofd neu ddryswch dianghenraid iddynt. Os nad ydych yn siŵr a ddylech drafod achos y bu ond y dim iddo ddigwydd gyda chlaf neu beidio, dylech geisio cyngor gan eich tîm gofal iechyd neu gydweithiwr uwch.