Annog diwylliant o ddysgu trwy adrodd am gamgymeriadau
Pan fydd rhywbeth yn mynd o le gyda’r gofal ar gyfer claf, mae’n hanfodol ei fod yn cael ei adrodd yn gynnar fel bod modd dysgu gwersi yn gyfym a fel bod modd i gleifon yn y dyfodol gael eu diogelu rhag niwed.
Dylai sefydliadau gofal iechyd feddu ar bolisi er mwyn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd, ac mae’n rhaid i chi ddilyn polisi eich sefydliad.28
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Arfer meddygol da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraff 23
Mae nifer o gynlluniau a systemau adrodd yn bodoli ar draws y DU er mwyn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd.
a. Adroddir am ddigwyddiadau niweidiol a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifon yng Nghymru a Lloegr i’r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu.29, 30
b. Rhaid i chi ddefnyddio cynllun Cerdyn Melyn ledled y DU31 i hysbysu'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) am:
- adroddiadau amheus difrifol o ymatebion andwyol i feddyginiaeth
- unrhyw adroddiadau amheus o ymatebion andwyol i gynhyrchion sydd â'r symbol Triongl Du (▼).32
c. Rhaid adrodd am ddigwyddiadau andwyol sy'n cynnwys dyfeisiau meddygol, gan gynnwys y rhai a achosir gan gamgymeriad dynol, sy'n rhoi, neu sydd â'r potensial i roi, diogelwch cleifion, gweithwyr iechyd a gofal neu eraill mewn perygl i arweinydd diogelwch dyfeisiau meddygol yn eich sefydliad (os oes un) a'r corff cenedlaethol perthnasol:
- yng Nghymru a Lloegr - MHRA reporting adverse incidents
- yng Ngogledd Iwerddon - Northern Ireland Adverse Incident Centre
- yn yr Alban - Health Facilities Scotland online incident reporting
d. Mae Healthcare Improvement Scotland wedi sefydlu fframwaith cenedlaethol,33 sy’n amlinellu diffniadau cyson a dull gweithredu safonol tuag at reoli digwyddiadau niweidiol ar draws GIG yn yr Alban.
e. Nodir y weithdrefn er mwyn rheoli a rhoi sylw dilynol i ddigwyddiadau niweidiol difrifol yng Ngogledd Iwerddon ar wefan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd.34
f. Yn Lloegr, rhaid i ymarferwyr cyffredinol a gwasanaethau meddygol sylfaenol eraill gyfwyno’r holl hysbysiadau35 i’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn uniongyrchol.
NHS England Report a patient safety incident (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Lansiwyd gwasanaeth LFPSE ym mis Gorffennaf 2021 a bydd yn cymryd lle'r NRLS yn y pen draw. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd proffesiynolion angen adnabod pa system y mae eu sefydliad yn ei ddefnyddio i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Mae gwybodaeth bellach am wasanaeth LFPSE ar gael ar NHS England and Improvement’s wefan.
Mae'r MHRA yn darparu cyfarwyddyd i weithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a'r cyhoedd ar adrodd digwyddiadau andwyol gyda meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i gynllun y Carden Felen.
Gall meddyginiaethau a brechlynnau newydd sy'n cael eu monitro ychwanegol gael eu marcio gyda symbol trigolion du troellog (▼). Mae'r symbol yn ymddangos yn y Gweithlyfr Cenedlaethol Prydeinig (BNF), crynodebau o nodweddion cynnyrch, taflenni gwybodaeth i gleifion ac mewn mannau eraill.
Gwella Gofal Iechyd yr Alban (2019) Learning from adverse events through reporting and review: A national framework for Scotland (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Health and Social Care Board (Northern Ireland) Procedure for the Reporting and Follow up of Serious Adverse Incidents (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Mae gofyn i ddarparwyr cofrestredig yn Lloegr hysbysu CQC am ddigwyddiadau penodol. Am gyfarwyddyd, gweler gwybodaeth CQC i ddarparwyr ar Hysbysiadau.
Yn ogystal â chyfrannu at y systemau hyn, dylech gydymffurfo gydag unrhyw system er mwyn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol y maent yn peryglu diogelwch cleifon o fewn eich sefydliad. Os nad yw’ch sefydliad yn meddu ar system o’r fath, dylech siarad gyda’ch rheolwr ac – yn ôl yr angen - mynegi pryder yn unol â’n harweiniad.36, 37
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Mynegi pryderon: arweiniad i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Dylai’ch sefydliad eich cynorthwyo i adrodd am ddigwyddiadau niweidiol ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd fel mater o drefn. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn cael eich cynorthwyo i adrodd, ac yn arbennig, os ydych yn cael eich hannog i beidio adrodd neu os ydych yn cael eich hatal rhag adrodd, dylech fynegi pryder yn unol â’n harweiniad.36, 37
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Mynegi pryderon: arweiniad i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022)
Ni ddylech geisio atal cydweithwyr neu gyn gydweithwyr rhag mynegi pryderon ynghylch diogelwch cleifon. Os ydych yn cyfawni rôl rheoli, rhaid i chi sicrhau bod unigolion sy’n mynegi pryderon yn cael eu diogelu rhag beirniadaeth neu gamau annheg, gan gynnwys unrhyw niwed neu ddiswyddo.
Rhaid i chi gymryd rhan mewn adolygiadau ac archwiliadau rheolaidd39, 40 ynghylch safonau a pherfformiad unrhyw dîm yr ydych yn gweithio ynddo, gan gymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau. Yn ogystal, dylech drafod digwyddiadau niweidiol ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd yn ystod eich arfarniad.41, 42
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 23.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Arfer meddygol da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraffau 22-23
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Gwybodaeth ategol ar gyfer ailddilysu (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), p8
Bydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cyhoeddi arweiniad ynghylch ailddilysu.
Dyletswyddau ychwanegol i feddygon, nyrsys abydwragedd y mae ganddynt gyfrifoldebau rheoliac ar gyfer clinigwyr uwch neu fawr eu bri
Mae gan glinigwyr uwch gyfrifoldeb i gynnig esiampl ac i annog gweithredu agored a gonestrwydd wrth adrodd am ddigwyddiadau niweidiol ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Dylai arweinwyr clinigol feithrin diwylliant o ddysgu a gwella mewn ffordd weithredol.43, 44
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adrannau 16.6 a 25.2
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer pob meddyg (crychwyd 17 Ionawr 2022)
Os oes gennych chi rôl neu gyfrifoldeb rheoli, rhaid i chi sicrhau bod systemau mewn grym er mwyn rhoi rhybudd cynnar o unrhyw fethiant, neu fethiant posibl, ym mherfformiad clinigol unigolion neu dimau. Dylai’r rhain gynnwys systemau er mwyn cynnal archwiliadau ac ystyried adborth gan gleifon. Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw bryderon ynghylch perfformiad unigolyn yn cael eu hymchwilio, a phan fo hynny’n briodol, bod sylw cyfym ac effeithiol yn cael ei roi iddynt.
Os ydych yn rheoli neu’n arwain tîm, dylech sicrhau bod systemau, gan gynnwys systemau archwilio a meincnodi, mewn grym er mwyn monitro, adolygu a gwella ansawdd gwaith y tîm.
- Rhaid i chi weithio gydag eraill er mwyn casglu a rhannu gwybodaeth ynghylch profad a chanlyniadau cleifon.
- Dylech sicrhau bod timau yr ydych yn eu rheoli yn cael hyfforddiant priodol ynghylch diogelwch cleifon, a’u bod yn cael eu cynorthwyo er mwyn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol mewn ffordd agored.
- Dylech sicrhau bod systemau neu brosesau mewn grym:
- fel bod gwersi yn cael eu dysgu trwy ddadansoddi digwyddiadau niweidiol ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd
- fel bod gwersi yn cael eu rhannu gyda’r tîm gofal iechyd
- fel bod gweithredu pendant yn dilyn y dysgu
- fel bod arfer yn cael ei newid yn ôl yr angen.
Y ddyletswydd gonestrwydd sefydliadol
Mae gan yr holl sefydliadau gofal iechyd ddyletswydd i gynorthwyo eu staff i adrodd am ddigwyddiadau niweidiol, ac i gynorthwyo staff i fod yn agored ac yn onest gyda chleifon os bydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’u gofal. Mae’r bedair lywodraeth yn y DU wedi ystyried ffyrdd o weithredu’r ddyletswydd gonestrwydd sefydliadol, ac mae rhai yn ei chynnwys yn y gyfraith (gweler atodiad 2).