Gweithredu’n agored a gonest pan fydd pethau’n mynd o’ i le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd

Am yr arweiniad hwn

1

Pan fyddwn yn cyfeirio at 'gleifion' yn y canllaw hwn, rydym hefyd yn golygu pobl sydd dan eich gofal.

2

Mae gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd gonestrwydd – cyfrifoldeb proffesiynol i fod yn onest gyda chleifon2 pan fydd pethau yn mynd o le. Caiff hyn ei ddisgrifo yn Dyletswydd broffesiynol gonestrwydd, sy’n cyfwyno’r arweiniad hwn ac sy’n rhan o ddatganiad ar y cyd gan wyth o reolyddion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y DU.

2

Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Ymarfer meddygol da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraffau 24 a 55

3

Fel meddyg, cydymaith meddygol, cydymaith anasthesia, nyrs neu fydwraig, rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda chleifon, gyda chydweithwyr a gyda’ch cyfogwyr.

4

Mae’r canllawiau hyn yn cynnig rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gydymffurfio gyda’r egwyddorion a nodir yn Arfer meddygol da2  a Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd.3  Mae Atodiad 1 yn nodi dyfyniadau perthnasol o safonau a chanllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Mae canllawiau’r GMC yn berthnasol i’r holl feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anasthesia (sy’n cael eu galw gyda’i gilydd yn weithwyr meddygol proffesiynol ac rydym yn cyfeirio atynt yn uniongyrchol fel ‘chi’ drwy gydol y canllawiau) y maent wedi cofrestru gydag ef, ac mae safonau a chanllawiau’r NMC yn berthnasol i’r holl nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio y maent wedi cofrestru gydag ef.

Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau’n berthnasol i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.

2

Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Ymarfer meddygol da (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), paragraffau 24 a 55

3

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018)  Y Cod: Safonau proffesiynol arfer ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio (cyrchwyd 17 Ionawr 2022), adran 14

5

Rhennir yr arweiniad hwn yn ddwy rhan:

  1. Eich dyletswydd i fod yn agored ac yn onest gyda chleifon yn eich gofal, neu’r rhai sy’n agos iddynt, os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae hyn yn cynnwys cyngor ynghylch ymddiheuro (paragraffau 7–22). 
  2. Eich dyletswydd i fod yn agored ac yn onest gyda’ch sefydliad ac i annog diwylliant o ddysgu trwy adrodd am ddigwyddiadau niweidiol sy’n arwain at niwed, yn ogystal ag achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd (paragraffau 23–29).
6

Mae’r arweiniad hwn ar gyfer unigolion. Rydym yn cydnabod bod gofal yn cael ei ddarparu gan dimau amlddisgyblaethol fel arfer ac nid ydym yn disgwyl i bob aelod o’r tîm fod yn gyfrifol am adrodd am ddigwyddiadau niweidiol ac am siarad gyda’r claf os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl eich bod yn gwneud yn siŵr bod rhywun yn y tîm wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros bob un o’r tasgau hyn, ac rydym yn disgwyl i chi eu cynorthwyo yn ôl yr angen.