Beth mae camymddwyn yn rhywiol yn ei olygu?

Mae camymddwyn yn rhywiol yn golygu unrhyw ymddygiad o natur rywiol na ofynnwyd amdano, neu ymddygiad y gellir ei ddehongli’n rhesymol yn ymddygiad rhywiol sy’n tramgwyddo, yn codi cywilydd, yn achosi niwed, yn bychanu neu’n dychryn unigolyn neu grŵp. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw weithgarwch rhywiol sy’n digwydd heb gydsyniad.

Mae camymddygiad rhywiol yn cynnwys elfennau o aflonyddu, trais a cham-drin, a gall fod yn gorfforol, ar lafar neu’n weledol. Gall ddigwydd i wahanol ryweddau.

Gall normau diwylliannol neu gymdeithasol, fel rolau rhywedd anhyblyg, hefyd gynyddu’r risg o gamymddwyn a gall pobl â nodweddion gwarchodedig ddioddef camymddygiad rhywiol ochr yn ochr â mathau eraill o wahaniaethu.

Yn yr adnodd hwn, rydym wedi rhoi enghreifftiau o’r ffurfiau y gall camymddwyn rhywiol eu cymry

Cydsyniadd

Er mwyn cydsynio i weithgarwch rhywiol, rhaid i chi gytuno iddo’n glir ac yn rhydd a rhaid i chi fod â’r gallu i wneud hynny.

Allwch chi ddim cydsynio i weithgarwch rhywiol os ydych chi:

  • yn cael eich gorfodi, eich twyllo, eich bygwth neu eich rhoi dan bwysau
  • dan oed (yn iau nag 16 oed)
  • yn cysgu, yn anymwybodol neu wedi’ch drygio.