Rhoi gwybod am adweithiau niweidiol i gyffuriau, digwyddiadau yn ymwneud â dyfeisiau meddygol a digwyddiadau eraill yn ymwneud â diogelwch cleifion
Gweler astudiaeth EQUIP (Errors – Questioning Undergraduate Impact on Prescribing) ynghylch dirprwyo cyfrifoldeb yn amhriodol dros ysgrifennu crynodebau rhyddhau i staff iau heb hyfforddiant digonol mewn ffarmacoleg na gwybodaeth ddigonol am gleifion
Rhaid i chi ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Melyn27 28 , i roi gwybod i’r MHRA am y canlynol:
- amheuaeth o adweithiau niweidiol difrifol i feddyginiaeth
- unrhyw amheuaeth o adweithiau niweidiol i gynhyrchion sydd wedi’u marcio â symbol Triongl Du (▼).29
Mae Cod Ymarfer GIG ar Gyfrinachedd yn esbonio ‘nad yw’r diffiniad ar gyfer trosedd ddifrifol yn hollol eglur. Gallai llofruddiaeth, dynladdiad, trais, brad, herwgipio, cam-drin plant neu achosion eraill lle y mae unigolion wedi dioddef niwed difrifol, olygu bod angen torri amodau cyfrinachedd.
'Yn ogystal, bydd niwed difrifol i ddiogelwch y wladwriaeth neu i drefn gyhoeddus a throseddau sy’n ymwneud ag elw neu golled ariannol sylweddol yn perthyn i’r categori hwn. Mewn cyferbyniad, ni fyddai lladrata, twyll neu ddifrod i eiddo lle y mae’r golled neu’r ddifrod yn llai sylweddol, yn golygu bod angen torri amodau cyfrinachedd yn gyffredinol’. Mae’n mynd ymlaen i esbonio y gallai troseddau llai difrifol, megis ‘twyll presgripsiwn cymharol ddibwys’ fod yn gysylltiedig gyda niwed difrifol, megis cam-drin cyffuriau, a allai gyfiawnhau datgelu.
Rhaid rhoi gwybod i’r arweinydd diogelwch dyfeisiau meddygol yn eich sefydliad (os oes un) a’r corff cenedlaethol perthnasol am ddigwyddiadau niweidiol yn ymwneud â dyfeisiau meddygol, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hachosi gan gamgymeriad dynol, sy’n rhoi diogelwch cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu eraill mewn perygl, neu sydd â’r potensial i wneud hynny:
- yng Nghymru a Lloegr – MHRA rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol
- yng Ngogledd Iwerddon – Canolfan Digwyddiadau Niweidiol Gogledd Iwerddon.
- yn yr Alban – Adrodd ar-lein am ddigwyddiadau Cyfleusterau Iechyd yr Alban
Dylech hefyd wirio bod digwyddiadau diogelwch cleifion yn cael eu hadrodd i’r corff neu’r system genedlaethol berthnasol, yn enwedig os nad yw digwyddiadau o’r fath yn cael eu hadrodd yn awtomatig drwy drefniadau llywodraethu clinigol lle rydych chi’n gweithio. Er enghraifft:
- Yng Nghymru a Lloegr, mae digwyddiadau diogelwch cleifion yn cael eu hadrodd i’r gwasanaeth Dysgu o ddigwyddiadau diogelwch cleifion (LFPSE).30
- Yng Ngogledd Iwerddon, adroddir digwyddiadau niweidiol difrifol i’r Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol (HSCB) a’r Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Ranbarthol.31
- Yn yr Alban, dylid adrodd ar adolygiadau mawr o ddigwyddiadau niweidiol a gomisiynir gan fyrddau’r GIG am ddigwyddiad niweidiol categori un i Gwella Gofal Iechyd yr Alban.32
Lansiwyd y gwasanaeth LFPSE ym mis Gorffennaf 2021 ac mae wedi disodli’r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu (NRLS) a gafodd ei datgomisiynu ar 30 Mehefin 2024. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth LFPSE ar gael ar NHS England.