Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau

Codi pryderon

82
Mae camgymeriadau wrth bresgripsiynu a rhoi meddyginiaeth yn digwydd yn gyffredin,23  ond fel arfer osgoir niwed drwy i gydweithwyr ymyrryd cyn y gall y camgymeriadau effeithio ar gleifion.
23

I gael rhagor o wybodaeth am ragnodi ar gyfer rhannu gofal gweler yr adnoddau a gyhoeddwyd gan NHS England, Canolfan Gwybodaeth am Feddyginiaethau Cymru, byrddau iechyd GIG yr Alban ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

83
Rhaid i chi ddiogelu cleifion rhag risg o niwed a achosir gan gamgymeriadau cydweithwyr o ran presgripsiynu a gweinyddu a chamgymeriadau eraill ganddynt yn ymwneud â meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau. Dylech gwestiynu unrhyw benderfyniad neu weithred a allai fod yn anniogel yn eich barn chi.24  Dylech hefyd ymateb yn adeiladol i bryderon a godir gan gydweithwyr, cleifion a gofalwyr am eich ymarfer chi eich hun.
24

Gweler astudiaeth EQUIP (Errors – Questioning Undergraduate Impact on Prescribing) ynghylch dirprwyo cyfrifoldeb yn amhriodol dros ysgrifennu crynodebau rhyddhau i staff iau heb hyfforddiant digonol mewn ffarmacoleg na gwybodaeth ddigonol am gleifion

84
Dylech roi’r flaenoriaeth gyntaf i ddiogelwch cleifion a chodi pryderon os nad oes gan y gwasanaeth neu’r system yr ydych yn gweithio ynddi fesurau diogelu digonol, sy’n berthnasol i natur a dull yr ymgynghoriad. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau adnabod a dilysu priodol.25  Ni ddylech gynnig, darparu na phresgripsiynu meddyginiaethau, triniaeth na dyfeisiau oni bai ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
25
Ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (2012) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol