Arfer da wrth gynnig, presgripsiynu, darparu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau
Gwybodaeth am y canllawiau hyn
Yn ‘Arfer meddygol da’ (2024)1 rydym yn dweud:
‘Arfer meddygol da’ (2024) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
2 Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd. Rhaid i chi beidio ag ymarfer oni bai dan lefel o oruchwyliaeth sy’n briodol i’ch rôl, gwybodaeth, sgiliau a hyfforddiant, a’r dasg a gyflawnir gennych.
4 Rhaid i chi ddilyn y gyfraith, ein canllawiau ar safonau proffesiynol, a rheoliadau eraill sy’n berthnasol i’ch gwaith.
7 Wrth ddarparu gofal clinigol, rhaid i chi:
dcynnig, darparu neu bresgripsiynu cyffuriau neu driniaeth (gan gynnwys presgripsiynau rheolaidd) dim ond pan fydd gennych chi wybodaeth ddigonol am iechyd y claf a phan fyddwch yn fodlon y bydd y cyffuriau neu’r driniaeth yn bodloni ei anghenion
e cynnig, darparu neu bresgripsiynu triniaeth effeithiol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
14 Rhaid i chi wneud defnydd da o’r adnoddau sydd ar gael i chi, a darparu’r gwasanaeth gorau posibl, gan ystyried eich cyfrifoldebau i gleifion a’r boblogaeth ehangach.
39 Dylech ofyn i gleifion am unrhyw ofal neu driniaeth arall maen nhw’n ei chael – gan gynnwys meddyginiaethau dros y cownter – a gwneud yn siŵr bod unrhyw ofal neu driniaeth rydych chi’n ei gynnig, ei ddarparu neu ei roi ar bresgripsiwn yn gydnaws.
69 Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion ffurfiol o’ch gwaith (gan gynnwys cofnodion cleifion) yn glir, yn fanwl, yn gyfoes ac yn ddarllenadwy.
70 Dylech weithredu mewn modd synhwyrol o ran lefel y manylder, ond fel arfer dylai cofnodion cleifion gynnwys:
a canfyddiadau clinigol perthnasol
b cyffuriau, ymchwiliadau neu driniaethau a gynigiwyd, a ddarparwyd neu a bresgripsiynwyd
c y wybodaeth a rannwyd gyda chleifion
d pryderon neu ddewisiadau a fynegwyd gan y claf, a allai fod yn berthnasol i’w ofal parhaus, ac a gafodd y rhain eu trafod
e gwybodaeth am unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau o ran cymorth cyfathrebu
f penderfyniadau a wnaethpwyd, camau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw (gan gynnwys penderfyniadau i beidio â gwneud unrhyw beth) a phryd y dylai/a ddylai penderfyniadau gael eu hadolygu
g pwy sy’n creu’r cofnod a phryd.
Mae’r canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn rhoi cyngor manylach ar sut i gydymffurfio â’r egwyddorion hyn wrth gynnig, presgripsiynu, neu ddarparu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol. Mae’r canllawiau’n berthnasol i bob math o weithgarwch sy’n ymwneud â phresgripsiynu, ym mha bynnag leoliad y mae’r cysylltiad â’r claf yn digwydd, gan gynnwys ymgynghoriadau o bell.
Beth mae’r canllawiau hyn yn ei gynnwys?
Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig sy’n ymwneud â phresgripsiynu ac yn ei gefnogi, yn ogystal â’r presgripsiynu ei hun. O blith ein hunigolion cofrestredig, dim ond meddygon sydd â’r awdurdod i lofnodi presgripsiynau, ond mae’r canllawiau’n cwmpasu ystod ehangach o weithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys:
- Cyflenwi meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig
- cynnig meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig i bresgripsiynydd awdurdodedig eu hadolygu a’u llofnodi (gweler paragraffau 4 a 75-79)
- darparu meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig i gleifion ar ôl i’r rhain gael eu hadolygu a’u llofnodi gan bresgripsiynydd awdurdodedig
- argymell neu bresgripsiynu meddyginiaethau, dyfeisiau, gorchuddion a gweithgareddau eraill, fel ymarfer corff
- cynghori cleifion ynghylch prynu meddyginiaethau dros y cownter a meddyginiaethau eraill
- rhoi gwybodaeth ysgrifenedig (presgripsiynau gwybodaeth) neu gyngor i gleifion
Ni all cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia bresgripsiynu meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig, ond maent yn ymwneud â chynnig meddyginiaethau neu ddyfeisiau i bresgripsiynydd awdurdodedig eu hadolygu a’u llofnodi. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau, unwaith y bydd cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn rolau rheoledig, na fydd unigolion a gyflogir yn y swyddogaethau hyn yn gallu presgripsiynu’n gyfreithlon gan ddefnyddio hawliau presgripsiynu o rôl reoledig arall. Mae hawliau presgripsiynu yn benodol i’r proffesiwn rheoledig lle cawsant eu caniatáu (fe’u rhoddir i unigolion ar ôl iddynt gael yr hyfforddiant angenrheidiol) ac nid oes modd eu trosglwyddo. Er enghraifft, os ydych wedi ennill hawliau presgripsiynu fel nyrs neu feddyg, ni allwch eu defnyddio tra’n gweithio fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. O 13 Rhagfyr 2024 ymlaen, ni ddylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gyflogir mewn rolau cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia dynodedig bresgripsiynu meddyginiaethau, hyd yn oed os oes ganddynt hawliau presgripsiynu o broffesiwn blaenorol neu os ydynt wedi cael eu hawdurdodi i bresgripsiynu gan eu cyflogwr o’r blaen.
Mae presgripsiynu’n digwydd mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys wyneb yn wyneb ac o bell gan ddefnyddio’r ffôn, ar-lein a chyswllt fideo neu lwyfannau technolegol eraill. Os nad ydych chi’n gallu bodloni’r safonau a nodir yn y canllawiau hyn drwy’r dull ymgynghori rydych chi’n ei ddefnyddio, dylech gynnig dewis arall os yw’n bosibl, neu gyfeirio at wasanaethau eraill. Os ydych chi’n meddwl bod systemau, polisïau neu weithdrefnau yn rhoi cleifion mewn perygl o niwed, neu y gallent wneud hynny, rhaid i chi ddilyn y canllawiau yn ‘Codi a gweithredu ar bryderon am ddiogelwch cleifion’.3
Ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (2012) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol