Penderfynu a yw’n ddiogel presgripsiynu
Dim ond os oes gennych wybodaeth ddigonol am iechyd y claf y dylech gynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaethau a dyfeisiau, a’ch bod yn fodlon bod y meddyginiaethau’n diwallu anghenion y claf (gweler GMP, paragraffau 6-7). Rhaid i chi ystyried:
- addasrwydd y dull ymgynghori rydych yn ei ddefnyddio, er enghraifft wyneb yn wyneb neu o bell, gan ystyried unrhyw angen am archwiliad corfforol neu asesiadau eraill (gweler paragraffau 20 i 25)
- a oes gennych ddigon o wybodaeth i bresgripsiynu’n ddiogel, er enghraifft os oes gennych fynediad at gofnodion meddygol y claf a’ch bod yn gallu gwirio gwybodaeth berthnasol (gweler 26 i 32)
- a allwch sefydlu deialog ddwy ffordd, gwneud asesiad digonol o anghenion y claf a chael cydsyniad (gweler paragraffau 33 i 37)
- a allwch rannu gwybodaeth yn briodol ar ôl cyfnod o ofal (gweler paragraffau 52 i 57).
Efallai y byddai’n well gan gleifion gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb neu drwy ymgynghoriadau o bell dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu ar-lein, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u hamgylchiadau unigol.8 Pan fydd opsiynau gwahanol ar gael, a phan fydd hynny o fewn eich pŵer, dylech gytuno gyda’r claf ar ba ddull ymgynghori sydd fwyaf addas iddo.
The doctor will zoom you now: getting the most out of the virtual health and care experience’ Gorffennaf 2020, Healthwatch, Traverse, National Voices.
Mae’r amgylchiadau lle gallai ymgynghoriad wyneb yn wyneb fod yn fwy priodol nag ymgynghoriad o bell yn cynnwys:
- os ydych yn ansicr ynghylch gallu claf i benderfynu ynghylch triniaeth (gweler paragraffau 40 i 43)
- mae angen i chi archwilio’r claf yn gorfforol
- cnid chi yw gweithiwr meddygol proffesiynol arferol y claf ac nid yw wedi rhoi caniatâd i chi rannu ei wybodaeth â’i bresgripsiynydd rheolaidd; mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd angen dilyn hynt y driniaeth ymhellach neu ei monitro, neu os ydych yn cynnig neu’n presgripsiynu meddyginiaethau lle mae angen mesurau diogelu ychwanegol (gweler paragraffau 58 i 65)
- rydych yn pryderu nad oes gan glaf le diogel a chyfrinachol i gael gofal iechyd o bell , er enghraifft oherwydd cam-drin domestig
- rydych chi’n poeni efallai na fydd claf yn gallu gwneud penderfyniad o’i wirfodd oherwydd ei fod o dan bwysau gan eraill (gweler paragraffau 69 i 75 o Penderfyniad a chydsyniad).
Os nad chi yw gweithiwr meddygol proffesiynol arferol y claf, dylech:
- dweud wrth y claf beth yw eich enw, eich rôl ac, os ydych ar-lein, eich rhif cofrestru GMC
- esbonio sut mae’r ymgynghoriad yn mynd i weithio a beth y dylai ei wneud os oes ganddo unrhyw bryderon neu gwestiynau
- dilyn y cyngor ym mharagraffau 26 i 32 a 52 i 57 ar rannu gwybodaeth.
Cyn i chi gynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau, rhaid i chi fod yn fodlon eich bod yn gallu gwneud asesiad digonol, sefydlu deialog a chael caniatâd y claf drwy’r dull ymgynghori rydych chi’n ei ddefnyddio (gweler paragraffau 33 i 43).
Rhaid i chi hefyd ystyried ac ymateb i anghenion cyfathrebu’r claf a gwneud addasiadau rhesymol i’ch ymarfer, lle bo angen, er mwyn iddo allu cael gofal sy’n diwallu ei anghenion.9
Mae gan ein canolfan foesegol adnoddau ar ddefnyddio ein canllawiau yn ymarferol i’ch helpu i benderfynu a yw ymgynghoriadau wyneb yn wyneb neu o bell yn briodol mewn sefyllfaoedd eraill.
Rhaid i chi gynnal archwiliad corfforol o gleifion cyn rhoi meddyginiaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol ar bresgripsiwn, megis Botox, Dysport, Vistabel neu feddyginiaethau cosmetig eraill y gellir eu chwistrellu. Felly, rhaid i chi beidio â rhoi’r meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn o bell.
Oes gennych chi ddigon o wybodaeth am y claf i gynnig, presgripsiynu neu ddarparu triniaeth sy’n diwallu ei anghenion?
Dim ond os yw’n ddiogel gwneud hynny y cewch chi gynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaethau neu ddyfeisiau.
- Nid yw’n ddiogel cynnig, presgripsiynu na darparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau os nad oes gennych ddigon o wybodaeth am iechyd y claf neu os yw’r dull ymgynghori’n anaddas i ddiwallu ei anghenion.
- Gall fod yn anniogel os nad yw gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu â darparwyr gofal iechyd eraill sy’n ymwneud â gofal y claf – er enghraifft am fod y claf yn gwrthod cydsynio.
27. Cyn cynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau, rhaid i chi ystyried a yw’r wybodaeth sydd gennych yn ddigonol ac yn ddigon dibynadwy i’ch galluogi i ddarparu gofal diogel.
Er enghraifft:
- p’un a oes gennych fynediad at gofnodion meddygol y claf neu wybodaeth ddibynadwy arall am ei iechyd a thriniaethau eraill y mae’n eu derbyn
- p’un a allwch wirio gwybodaeth bwysig arall drwy archwilio neu brofi
- p’un a fyddai’r claf mewn perygl o farwolaeth neu niwed difrifol os yw hefyd yn cael meddyginiaeth o ffynonellau eraill.
28. Os nad chi yw gweithiwr meddygol proffesiynol arferol y claf, dylech ofyn am gydsyniad y claf i:
- cysylltu â'i feddyg teulu neu feddygon eraill sy'n ei drin os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu gadarnhad o'r wybodaeth sydd gennych, cyn cynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau
- rhannu gwybodaeth â’i feddyg teulu pan fydd y cyfnod gofal wedi’i gwblhau.10
Mewn rhai amgylchiadau, megis darparu gwasanaethau iechyd rhywiol, efallai y bydd pryderon ynghylch preifatrwydd yn drech na’r angen i rannu gwybodaeth.
Os yw’r claf yn gwrthwynebu rhannu gwybodaeth â chi, neu os nad oes ganddo bresgripsiynydd rheolaidd, rhaid i chi allu cyfiawnhau penderfyniad i gynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau heb y wybodaeth honno.
Os bydd y claf yn gwrthod rhoi caniatâd i chi rannu gwybodaeth â’i feddyg teulu, neu os nad oes ganddo feddyg teulu, dylech egluro i’r claf beth yw’r risgiau o beidio â rhannu’r wybodaeth hon. Dylai hyn gael ei gofnodi yn y cofnodion gofal.
Os gallai peidio â rhannu gwybodaeth beri risg i ddiogelwch claf, dylech egluro i’r claf na allwch gynnig, presgripsiynu na darparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau. Dylech amlinellu ei opsiynau a’i gyfeirio at wasanaethau amgen priodol. Dylech gofnodi’n glir eich rhesymau dros unrhyw benderfyniadau a wnaed.
Wrth drin cleifion agored i niwed mewn unrhyw leoliad, fel cartrefi plant, cartrefi gofal neu garchardai, cymerwch ofal arbennig i ddilyn protocolau cenedlaethol perthnasol. Dylech gefnogi rhannu gwybodaeth yn briodol ac effeithiol rhwng y lleoliad a’r gymuned er mwyn sicrhau parhad gofal.
Allwch chi sefydlu deialog a chael cydsyniad?
Sefydlu deialog
Rhaid i chi sefydlu deialog gyda’ch claf i’w helpu i ystyried gwybodaeth am ei opsiynau ac er mwyn iddo allu penderfynu a yw am gael gofal neu driniaeth ai peidio. Dylai deialog dda roi cyfle i chi a’ch claf ofyn cwestiynau er mwyn cael y wybodaeth sydd ei hangen ar y ddau ohonoch.
Gyda’r claf, dylech asesu ei gyflwr cyn penderfynu cynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaeth, triniaeth neu ddyfais. Rhaid i chi fod â hanes digonol, neu sicrhau eich bod yn cael hanes digonol, sy’n cynnwys:
- unrhyw adwaith niweidiol blaenorol i feddyginiaethau
- defnydd cyfredol a diweddar o feddyginiaethau eraill, gan gynnwys meddyginiaethau di-bresgripsiwn a llysieuol, cyffuriau anghyfreithlon a meddyginiaethau a brynir ar-lein neu wyneb yn wyneb
- cyflyrau meddygol eraill.
Dylech annog eich claf i fod yn agored ynghylch ei ddefnydd o feddyginiaethau amgen, sylweddau anghyfreithlon a meddyginiaethau a gafwyd ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag a yw wedi cymryd meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn ôl y cyfarwyddyd yn y gorffennol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch i’ch helpu i benderfynu pa opsiynau fyddai’n diwallu anghenion y claf, rhaid i chi ofyn amdani cyn argymell opsiwn neu fwrw ymlaen â thriniaeth.
Os nad yw’n bosibl cael eglurdeb neu ofyn am ragor o wybodaeth gan y claf yn yr amgylchedd rydych chi’n gweithio ynddo, dylech ystyried a yw’n ddiogel cynnig, presgripsiynu neu ddarparu meddyginiaethau, triniaeth neu ddyfeisiau, a chodi pryderon fel y bo’n briodol. Er enghraifft, efallai y byddai’n briodol codi pryderon os yw’r system rydych chi’n gweithio ynddi yn cynnwys presgripsiynu o bell ar sail holiadur ac nad oes mecanwaith ar gyfer deialog na chyfathrebu dwyffordd â chleifion.
Asesu anghenion y claf
Dylech nodi achos tebygol cyflwr y claf a pha driniaethau sy’n debygol o ddiwallu ei anghenion.
Dylech ddod i gytundeb gyda’r claf ynghylch y driniaeth arfaethedig,11 gan egluro:
- y manteision, y risgiau a’r effaith debygol, gan gynnwys sgil-effeithiau difrifol a chyffredin
- beth i'w wneud os bydd sgil effaith neu os bydd y cyflwr yn digwydd eto
- sut a phryd i gymryd y feddyginiaeth a sut i addasu'r dos os oes angen
- sut i ddefnyddio dyfais feddygol
- hyd tebygol y driniaeth
- unrhyw drefniadau perthnasol ar gyfer monitro, dilyn i fyny ac adolygu, gan gynnwys ymgynghori pellach, profion gwaed neu ymchwiliadau eraill, prosesau ar gyfer addasu'r math neu'r dos o feddyginiaeth ac ar gyfer rhoi presgripsiynau rheolaidd.
Gwneud penderfyniadau a chydsyniad (2020) Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Rhoi gwybodaeth i gleifion
Weithiau, mae’n anodd, oherwydd pwysau amser, rhoi cymaint o wybodaeth ag y byddech chi neu gleifion yn ei hoffi. I helpu gyda hyn, dylech ystyried y rôl y gallai aelodau eraill o’r tîm gofal iechyd, gan gynnwys fferyllwyr, ei chwarae. Gall fferyllwyr gynnal adolygiadau meddyginiaeth, esbonio sut i gymryd meddyginiaethau a chynnig cyngor ar ryngweithiadau a sgil-effeithiau. Dylech weithio gyda’r fferyllwyr yn eich sefydliad a/neu ardal leol i osgoi’r risg o orlwytho neu ddrysu cleifion â gwybodaeth ormodol neu anghyson.
Dylech gyfeirio cleifion at y wybodaeth yn PILs a ffynonellau gwybodaeth dibynadwy eraill.13 Mae PILs yn ychwanegiadau defnyddiol at y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i gleifion am eu meddyginiaethau, ond nid ydynt yn cymryd lle’r wybodaeth honno.
NHS Choices a gwybodaeth sy’n dwyn marc ansawdd y Safon Gwybodaeth, er enghraifft. Gweler hefyd electronic medicines compendium
Gyda chydsyniad y claf, dylech roi gwybodaeth i ofalwyr cleifion am y meddyginiaethau rydych yn eu cynnig, eu presgripsiynu neu eu darparu. Os nad oes gan y claf alluedd i gydsynio, dylech rannu'r wybodaeth hon gyda gofalwyr lle y byddai, yn eich barn chi, o fudd cyffredinol i'r claf.14
Mae’r cysyniad o fudd cyffredinol yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth ‘o fudd’ i glaf (yr Alban), neu er ‘budd pennaf’ y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) ‘Decision making and consent’ Llundain, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (paragraff 87).
Gweler hefyd ‘Confidentiality: Good practice in handling patient information’ (paragraffau 44 i 49).
Nid yw rhai cleifion yn cymryd meddyginiaethau sydd wedi’u rhoi iddynt ar bresgripsiwn, neu nid ydynt yn dilyn y cyfarwyddiadau ynghylch y dos neu’r amser y dylid cymryd meddyginiaethau. Dylech geisio deall y rhesymau dros hyn a mynd i’r afael â nhw drwy roi tawelwch meddwl a gwybodaeth ddefnyddiol. Dylech geisio dod i gytundeb gyda’r claf ar gwrs priodol o driniaeth y bydd yn gallu cadw ato ac y bydd yn fodlon gwneud.15
Mae gwefan NICE yn cynnwys gwybodaeth, canllawiau ac offer ar gyfer deall a gwella ymlyniad. Gweler hefyd ganllaw NICE ar Medicines adherence.
Cael cydsyniad claf
Dylech fod yn gymesur wrth geisio cydsyniad claf. Ar gyfer y rhan fwyaf o benderfyniadau neu gynigion presgripsiynu, gallwch ddibynnu ar gydsyniad llafar claf, cyn belled â’ch bod yn fodlon ei fod wedi cael cyfle i ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol ac wedi penderfynu bwrw ymlaen. Weithiau, mae angen llofnod claf ar ffurflen, er enghraifft i gydymffurfio â rhybudd diogelwch cyffuriau MHRA am feddyginiaeth sydd â sgil-effeithiau difrifol.
Delio â cheisiadau cleifion am feddyginiaeth nad ydych chi’n meddwl y bydd o fudd iddyn nhw
Weithiau, bydd cleifion yn gofyn am driniaeth neu ofal nad ydych chi’n meddwl y bydd er eu lles clinigol. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylech ystyried y rhesymau dros eu cais, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu a’u disgwyliadau o ran y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth hon yn eich helpu i ystyried y ffactorau sy’n bwysig i’r claf ac asesu a allai’r driniaeth neu’r gofal ddiwallu anghenion y claf.
Os ydych chi’n dal i gredu, ar ôl trafod, na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn diwallu anghenion y claf, ni ddylech ei darparu na’i chynnig. Dylech egluro eich rhesymau i’r claf ac archwilio opsiynau eraill a allai fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i ofyn am ail farn.