Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau
Adolygu meddyginiaethau
92
P’un a ydych yn cynnig, yn presgripsiynu neu’n darparu meddyginiaethau ar bresgripsiwn rheolaidd neu bresgripsiwn unigol, rhaid ichi sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer monitro, dilyn i fyny ac adolygu. Dylech ystyried anghenion y claf ac unrhyw risg sy’n deillio o’r meddyginiaethau.
93
Pan fyddwch yn adolygu meddyginiaethau claf, dylech ailasesu ei angen am unrhyw feddyginiaethau didrwydded (gweler paragraff 102 i 105) y gallai fod yn eu cymryd, er enghraifft cyffuriau gwrthseicotig a ddefnyddir i drin symptomau ymddygiadol a seicolegol mewn dementia.
94
Bydd adolygu meddyginiaethau yn arbennig o bwysig:
- lle gall cleifion fod mewn perygl, er enghraifft, y rheini sy’n fregus neu sydd â sawl salwch
- lle mae i feddyginiaethau sgil effeithiau a allai fod yn ddifrifol neu’n gyffredin
- lle mae’r claf yn cael meddyginiaeth reoledig neu feddyginiaeth arall sy’n cael ei chamddefnyddio’n aml
- lle mae’r BNF neu ganllawiau clinigol awdurdodol eraill yn argymell profion gwaed neu fonitro arall yn rheolaidd.
95
Gall fferyllwyr helpu i wella diogelwch, effeithiolrwydd ac ymlyniad wrth ddefnyddio meddyginiaethau, er enghraifft drwy gynghori cleifion am eu meddyginiaethau a chynnal adolygiadau o feddyginiaethau. Nid yw hyn yn disodli eich dyletswydd chi i sicrhau eich bod yn rhagnodi ac yn rheoli meddyginiaethau’n briodol.
96
Dylech ystyried a gweithredu’n briodol ar wybodaeth a chyngor gan fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd wedi adolygu defnydd claf o feddyginiaethau. Mae hyn yn arbennig o wir os oes newidiadau i feddyginiaethau claf, neu os yw’n rhoi gwybod am broblemau gyda goddefiad, sgil effeithiau neu gyda chymryd meddyginiaethau yn ôl y cyfarwyddyd.