Cyffuriau rheoledig a meddyginiaethau eraill lle mae angen mesurau diogelu ychwanegol
Gall rhai categorïau o feddyginiaeth achosi risgiau penodol o niwed difrifol neu gallant fod yn gysylltiedig â gorddefnyddio, camddefnyddio neu ddibyniaeth. Os ydych yn cynnig, yn presgripsiynu neu’n darparu meddyginiaethau o’r fath, dylech ddilyn canllawiau clinigol perthnasol, fel diweddariadau diogelwch cyffuriau ar y risg o ddibyniaeth a mynd yn gaeth sy’n gysylltiedig ag opioidau.18
Gweler diweddariad diogelwch cyffuriau MHRA ar Opioids: risk of dependence and addiction.
Os nad oes gennych fynediad at wybodaeth berthnasol o gofnodion meddygol y claf, rhaid i chi beidio â phresgripsiynu cyffuriau neu feddyginiaethau a reolir sy’n debygol o gael eu cam-drin, eu gorddefnyddio neu eu camddefnyddio, neu pan fo risg y byddai rhywun yn mynd yn gaeth iddynt a bod monitro yn bwysig.19 Eithriadau i hyn yw pan nad oes unrhyw berson arall sydd â mynediad at y wybodaeth honno ar gael i bresgripsiynu heb oedi anniogel ac mae’n angenrheidiol i:
- osgoi dirywiad difrifol mewn iechyd neu i osgoi niwed difrifol
- sicrhau parhad triniaeth pan fo claf yn annisgwyl heb fynediad at feddyginiaeth am gyfnod cyfyngedig.
Mae canllawiau’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar ddarparu gwasanaethau fferylliaeth o bell, gan gynnwys ar y rhyngrwyd (Chwefror 2025) yn rhoi enghreifftiau o feddyginiaethau perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ymysg pethau eraill: opiadau, tawelyddion, carthyddion, gabapentinoidau, symbylyddion a nootropigau.
Yn yr amgylchiadau hyn, dylech gynnig, presgripsiynu neu ddarparu swmp a dos cyfyngedig – un sy’n ddigonol i sicrhau bod y claf yn cael gofal addas tan a) ei fod yn gallu gweld gweithiwr iechyd proffesiynol priodol sydd â mynediad at y wybodaeth berthnasol o’i gofnodion meddygol neu b) eich bod chi yn gallu gwirio’r wybodaeth honno eich hun. Wrth wneud y penderfyniad hwn, dylech ystyried y posibilrwydd y gallai’r claf fod yn cael meddyginiaethau o ffynonellau eraill. Dylech hefyd ddilyn y canllawiau ym mharagraffau 55-57.
Os ydych chi’n ymwneud â phresgripsiynu neu gynnig meddyginiaethau a thriniaethau o bell, rhaid i chi hefyd fod yn fodlon bod mesurau diogelu priodol ar waith i gynnal presgripsiynu diogel. Mae’r mesurau diogelu perthnasol yn cynnwys:
- archwiliadau adnabod cadarn i sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn i’r person cywir
- os nad chi yw'r gweithiwr meddygol proffesiynol rheolaidd, gwiriwch i wneud yn siŵr bod y claf wedi rhoi caniatâd i chi gysylltu â'i bresgripsiynydd rheolaidd ynghylch ei bresgripsiwn (gweler paragraff 28)
- sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am y presgripsiwn yn cael ei rhannu â meddyg teulu’r claf neu’n cael ei hychwanegu at y cofnod gofal sylfaenol (gweler paragraffau 55 i 57).
Dylech roi i’r claf enwau, rolau a manylion cyswllt y bobl allweddol a fydd yn ymwneud â’i ofal, yn ogystal â chyngor ynghylch pwy y gall gysylltu â nhw os oes ganddo unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n presgripsiynu o bell.
Rhaid i chi beidio â rhoi cyffuriau a reolir ar bresgripsiwn i chi eich hun na rhywun sy'n agos atoch, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 68.
Rhaid i chi beidio â chynnig, presgripsiynu na darparu meddyginiaethau er eich hwylustod chi eich hun na hwylustod gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol (er enghraifft, rhoi tawelyddion ar bresgripsiwn er hwylustod i'r rhai sy'n gofalu am gleifion â dementia mewn cartrefi gofal) lle nad oes cyfiawnhad clinigol.20
Am wybodaeth bellach, gweler arweiniad CFfC ynghylch darparu gwasanaethau fferyllol o bell, gan gynnwys ar y rhyngrwyd. Mae Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) yn cynnig arweiniad i fferyllfeydd yng Ngogledd Iwerddon.
Ni chaiff fferyllfeydd roi rhai categorïau o feddyginiaeth os ydynt yn cael eu presgripsiynu o bell, oni bai bod mesurau diogelu penodol yn cael eu bodloni.21
I gael rhagor o wybodaeth gweler canllawiau’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar ddarparu gwasanaethau fferylliaeth o bell, gan gynnwys ar y rhyngrwyd (Chwefror 2025). Mae Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) yn darparu canllawiau ar gyfer fferyllfeydd yng Ngogledd Iwerddon.
Rhagnodi ar eich cyfer chi eich hun neu’r rhai sy’n agos atoch
Ble bynnag y bo modd, rhaid i chi osgoi rhoi presgripsiwn i chi eich hun neu i unrhyw un y mae gennych berthynas bersonol agos ag ef.
Os ydych chi’n presgripsiynu unrhyw feddyginiaeth i chi eich hun neu i rywun sy’n agos atoch chi, rhaid i chi wneud y canlynol:
- gwneud cofnod clir ar yr un pryd neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny; dylai'r cofnod gynnwys eich perthynas â'r claf, lle bo'n berthnasol, a'r rheswm pam yr oedd angen i chi roi presgripsiwn
- dilyn y cyngor ar rannu gwybodaeth a phresgripsiynu diogel ym mharagraffau 26 i 32 a 52 i 57.
Rhaid i chi beidio â rhoi cyffuriau rheoledig ar bresgripsiwn i chi eich hun na rhywun sy’n agos atoch chi oni bai:
- nad oes unrhyw berson arall sydd â hawl gyfreithiol i bresgripsiynu ar gael i asesu a phresgripsiynu heb oedi
- bod angen triniaeth frys ar unwaith er mwyn osgoi dirywiad difrifol mewn iechyd neu niwed difrifol.
Cynnig neu bresgripsiynu o bell ar gyfer cleifion mewn cartref gofal/nyrsio neu hosbis
Os ydych yn cynnig neu’n presgripsiynu meddyginiaeth neu driniaeth o bell i glaf mewn cartref gofal neu nyrsio neu hosbis, dylech gyfathrebu â’r claf neu, os nad yw hynny’n ymarferol, y sawl sy’n gofalu amdano, i wneud eich asesiad ac i ddarparu’r wybodaeth a’r cyngor angenrheidiol. Dylech wneud yn siŵr bod unrhyw gyfarwyddiadau, fel sut i roi’r cyffur neu fonitro cyflwr y claf, yn cael eu deall. A dylech anfon cadarnhad ysgrifenedig ato cyn gynted â phosibl.
Cynnig neu bresgripsiynu o bell ar gyfer cleifion sydd wedi’u lleoli dramor
Yn ogystal â’r canllawiau uchod, cyn cynnig neu bresgripsiynu meddyginiaethau neu driniaeth o bell i gleifion sydd dramor, dylech hefyd ystyried:
- sut byddwch chi neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol lleol yn monitro eu cyflwr
- gwahaniaethau yn enw trwyddedig y cynnyrch, yr arwyddion a’r dos a argymhellir
- a oes gennych drefniadau yswiriant neu indemniad digonol ar waith ar gyfer eich ymarfer ym mhob gwlad berthnasol
- p’un a oes angen i chi fod wedi cofrestru gyda nifer o gyrff rheoleiddio, gan gynnwys yn y wlad rydych chi wedi’i lleoli ynddi, yn y wlad lle mae’r claf wedi’i leoli, ac yn y wlad lle mae’r meddyginiaethau a bresgripsiynir i gael eu gweinyddu.
Dylech hefyd ddilyn gofynion cyfreithiol y DU a gwledydd tramor yn ogystal â chanllawiau perthnasol ar fewnforio ac allforio i sicrhau danfon yn ddiogel, gan gynnwys gan yr MHRA.
Os ydych chi’n ystyried gweithio i ddarparwyr gwasanaeth sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU, mae’n bwysig bod yn ymwybodol na fydd mecanweithiau lleol wedi’u sefydlu efallai i ddarparu systemau rheoleiddio effeithiol, a gallai hyn effeithio ar ddiogelwch cleifion.