Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau

Cadw'n gyfredol a phresgripsiynu’n ddiogel

7

Fel yr amlinellir yn Arfer meddygol da, rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd, a dim ond o dan y lefel o oruchwyliaeth sy’n briodol i’ch rôl, eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch hyfforddiant, a’r dasg rydych chi’n ei chyflawni, y cewch chi ymarfer. Rhaid i chi gadw eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn gyfredol. Rhaid i chi gynnal a datblygu’r wybodaeth a'r sgiliau sy’n berthnasol i’ch rôl a’ch ymarfer mewn:

  1. ffarmacoleg a therapiwteg
  2. presgripsiynu a rheoli meddyginiaethau
  3. unrhyw dechnoleg neu brosesau rydych chi’n eu defnyddio i bresgripsiynu, er enghraifft drwy ymgynghori o bell.
8

Dylech ddefnyddio systemau electronig a systemau eraill sy’n gallu gwella diogelwch eich gweithgarwch presgripsiynu, er enghraifft drwy dynnu sylw at ryngweithiadau ac alergeddau a thrwy sicrhau cysondeb a chydnawsedd meddyginiaethau sy’n cael eu presgripsiynu, eu cyflenwi a’u rhoi.

9
Mae’r Diweddariad ar Ddiogelwch Cyffuriau a’r System Rhybuddio Ganolog gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi defnydd mwy diogel o feddyginiaethau sy’n berthnasol i’ch ymarfer ac yn rhoi gwybod i chi am wybodaeth ddiogelwch am feddyginiaethau rydych yn eu rhoi ar bresgripsiwn.
10
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn dwyn ynghyd dystiolaeth gan amrywiaeth o sefydliadau ar ddefnyddio meddyginiaethau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae hefyd yn cyhoeddi ystod o gynhyrchion i'ch helpu i wella diogelwch, yn ogystal ag effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd cost eich presgripsiynu. Mae’r Compendiwm Meddyginiaethau electronig yn cynnwys Crynodebau o Nodweddion Cynnyrch a Thaflenni Gwybodaeth Cleifion (PIL).
11
Os ydych yn ansicr am ryngweithiadau neu agweddau eraill ar ragnodi a rheoli meddyginiaethau, dylech ofyn am gyngor gan eich goruchwyliwr a/neu gydweithwyr profiadol eraill, yn cynnwys fferyllwyr, cynghorwyr presgripsiynu a ffarmacolegwyr clinigol.
12
Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â’r canllawiau yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) a Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain ar gyfer Plant (BNFC), sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol i’ch helpu i bresgripsiynu, monitro, cyflenwi a rhoi meddyginiaethau.
13
Dylech ddilyn y cyngor yn y BNF ar ysgrifennu presgripsiynau a sicrhau bod eich presgripsiynau a’ch archebion yn glir, yn unol â’r gofynion statudol perthnasol. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw yn glir.4  Hefyd, dylech ystyried cynnwys arwyddion clinigol5  ar eich presgripsiynau.
4

Gellir defnyddio gwasanaethau presgripsiynu electronig hefyd. Yn Lloegr, gellir anfon presgripsiynau’n electronig i fferyllfa; yng Nghymru a’r Alban, cedwir gwybodaeth mewn cod bar ar bresgripsiwn papur. I gael rhagor o fanylion, ewch i Get Started with EPS, Y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Prescriptions electronically, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru; Electronic Transfer of Prescriptions (ETP), Llywodraeth yr Alban. Efallai y bydd gwasanaethau presgripsiynu electronig yn cael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon yn y dyfodol.

14

Dylech ystyried y canllawiau clinigol a gyhoeddwyd gan:

  1. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) (England)
  2.  Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon)
  3. Healthcare Improvement Scotland (yn cynnwys y Scottish Medicines Consortium a’r Scottish Intercollegiate Guidelines Network) (yr Alban)
  4. Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (Cymru)
  5.  colegau brenhinol meddygol a ffynonellau awdurdodol eraill canllawiau clinigol i arbenigeddau penodol
15
Dylech fod yn ofalus ynghylch defnyddio dyfeisiau meddygol at ddibenion nad oeddent wedi’u bwriadu ar eu cyfer.
16
Dylech wneud yn siŵr bod unrhyw un rydych chi’n dirprwyo iddo’r cyfrifoldeb i weinyddu neu roi meddyginiaethau yn gymwys i wneud yr hyn rydych chi’n gofyn amdano.  6Gellir cael cyngor ar hyfforddiant ar gyfer staff cymorth gweinyddu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a Chymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI).
6

Gweler y canllawiau ar Dirprwyo a chyfeirio (2013). Gweler hefyd  Supply and administration of Botox®, Vistabel®, Dysport® and other Injectable medicines in cosmetic procedures, Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd. 

17
Lle bo’n berthnasol, os nad ydych chi’n dymuno presgripsiynu, bod yn rhan o’r broses o wneud cynigion ar gyfer presgripsiynu, neu ddarparu meddyginiaethau neu driniaethau oherwydd gwrthwynebiad cydwybodol, dylech ddilyn ein canllawiau esboniadol ar ‘Gredoau personol ac ymarfer meddygol’.
18
Ni ddylech fod â rhan yn hysbysebu meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig neu ddidrwydded yn anghyfreithlon i’r cyhoedd drwy bresgripsiynu drwy wefannau sy’n torri rheoliadau hysbysebu.7 
7

Gweler Pennod 14 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 Rhif 1916 – SI 2012/1916 a ‘The Blue Guide: Advertising and Promotion of Medicines in the UK’ (MHRA, 3ydd argraffiad, 2il ddiwygiad, Gorffennaf 2019). Mae’r MHRA yn Asiantaeth yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb rheoleiddio dros feddyginiaethau (at ddefnydd pobl), gwaed a dyfeisiau meddygol yn y DU