Presgripsiynu rheolaidd a phresgripsiynu dro ar ôl tro
Yn yr un modd ag unrhyw bresgripsiwn, dylech gytuno gyda’r claf pa feddyginiaethau sy’n briodol a sut bydd ei gyflwr yn cael ei reoli, gan gynnwys dyddiad ar gyfer adolygu. Dylech egluro pam mae adolygiadau rheolaidd yn bwysig ac egluro i’r claf beth y dylai ei wneud os bydd:
- yn dioddef sgil effeithiau neu adweithiau niweidiol
- yn rhoi’r gorau i gymryd y meddyginiaethau cyn y dyddiad adolygu y cytunwyd arno, neu cyn i nifer penodol o bresgripsiynau rheolaidd gael eu rhoi.
Rhaid i chi lunio cofnodion clir o’r trafodaethau hyn a’ch rhesymau dros bresgripsiynu rheolaidd neu dros gynnig presgripsiynu rheolaidd.33
Rhaid i chi fod yn fodlon bod y gweithdrefnau ar gyfer presgripsiynu dro ar ôl tro ac ar gyfer cynhyrchu presgripsiynau rheolaidd yn ddiogel a:
- bod y claf cywir yn cael y presgripsiwn cywir
- bod y dos cywir yn cael ei bresgripsiynu, yn enwedig i gleifion y mae eu dos yn amrywio yn ystod y driniaeth
- bod cyflwr y claf yn cael ei fonitro, gan ystyried y defnydd o feddyginiaethau a’u heffeithiau
- dim ond staff sy'n gymwys i wneud hynny sy'n paratoi presgripsiynau rheolaidd i'w hawdurdodi
- bod cleifion sydd angen archwiliad neu asesiad pellach yn cael eu hadolygu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol
- bod unrhyw newidiadau i feddyginiaethau’r claf yn cael eu hadolygu’n feirniadol a’u hymgorffori’n gyflym yn ei gofnod.