Mathau o gofrestriadau

Mae pedwar math o gofrestriad sy'n caniatáu i feddygon weithio mewn gwahanol swyddi yn y DU. Mae’n rhaid i bob meddyg sy’n ymarfer meddygaeth yn y DU feddu ar un o’r mathau hyn o gofrestriad ynghyd â thrwydded i ymarfer. Mae gan gymdeithion meddygol (PA) a chymdeithion anesthesia (AA) un math o gofrestriad.

Cofrestriad dros dro

Mae cofrestriad dros dro gyda thrwydded i ymarfer yn caniatáu i feddygon weithio mewn swyddi Sylfaen Blwyddyn 1 cymeradwy yn y DU. Ni ellir ei defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Ein canllaw i gofrestriad dros dro (Saesneg yn unig)

Cofrestriad llawn

Mae angen cofrestriad llawn gyda thrwydded i ymarfer ar feddygon i weithio mewn ymarfer meddygol heb oruchwyliaeth neu fel rhan o raglen Sylfaen Blwyddyn 2 gymeradwy.

Beth yw cofrestriad llawn? (Saesneg yn unig)

Cofrestriad arbenigol

Dylai fod gan y rhan fwyaf o feddygon sy’n ymgymryd â swyddi meddygol neu lawfeddygol yn unrhyw un o wasanaethau iechyd y DU (ac eithrio ymgynghorwyr locwm) gofrestriad arbenigol llawn a thrwydded i ymarfer.

Y Gofrestr Arbenigol (Saesneg yn unig)

Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i lawfeddygon gên ac wyneb gofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae rhagor o wybodaeth am eu gofynion cofrestru deuol (Saesneg yn unig) ar gael ar eu gwefan.

Cofrestriad Meddygon Teulu

Ers 1 Ebrill 2006, mae’n rhaid i bob meddyg sy’n gweithio fel meddyg teulu yng ngwasanaeth iechyd y DU fod ar y Gofrestr Meddygon Teulu – ac eithrio meddygon dan hyfforddiant, fel cofrestryddion meddygaeth deulu. Mae’r gofyniad hwn yn ymestyn i feddygon locwm. Mae angen iddynt hefyd fod ar restr cyflawnwyr meddygon teulu. Mae ein Tudalen meddygaeth deulu yn y DU (Saesneg yn unig) yn rhoi rhagor o wybodaeth am y prosesau y mae angen i feddygon teulu eu dilyn cyn y gallant weithio yn y DU.

Y Gofrestr Meddygon Teulu (Saesneg yn unig)

Cofrestriad cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia

Rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sy’n gweithio yn y DU gofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol cyn 13 Rhagfyr 2026. Dim ond un math o gofrestriad sydd i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Nid oes iddynt gofrestriad dros dro na thrwydded i ymarfer.