Goruchwylio addysg a hyfforddiant meddygon, cymdeithion anesthesia a chymdeithion meddygol.
Rydym yn sicrhau bod meddygon, cymdeithion meddygol (PAs) a chymdeithion anesthesia (AAs) yn cael yr addysg a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal da a diogel i gleifion drwy gydol eu gyrfaoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy asesu pob cwrs a rhaglen, a drwy gynnal adolygiadau a monitro rheolaidd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod canlyniadau addysg a hyfforddiant yn paratoi meddygon, PAs a AAs i ddarparu gofal da a diogel i gleifion ledled y DU.
Rydym yn cymeradwyo eu hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â’r asesiadau y mae'n rhaid iddynt eu pasio.
Rydym hefyd yn siarad â myfyrwyr, hyfforddeion ac addysgwyr i glywed am eu profiadau nhw.
Darllenwch fwy am ein rôl mewn addysg a hyfforddiant meddygol (Saesneg yn unig).