Gosod a chynnal y safonau proffesiynol

I weithio yn y DU, rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol (PAs) a chymdeithion anesthesia (AAs) ddilyn safonau penodol. Rydym yn gosod y safonau hyn mewn ymgynghoriad â chleifion, meddygon, PAs, AAs, cyflogwyr ac addysgwyr. 

Mae ein safonau proffesiynol (Saesneg yn unig)  yn nodi’r gwerthoedd, yr wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad a ddisgwylir gan bob meddyg, PAs a AAs sy’n gweithio yn y DU. Rydym yn cefnogi myfyrwyr, meddygon, PAs, AAs a chyflogwyr i ddeall ac i fodloni'r safonau proffesiynol hyn.

Mae’r safonau’n cael eu disgrifio yn y ddogfen Arfer meddygol da, sy’n ymdrin ag agweddau sylfaenol rôl meddyg. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chleifion, a’u trin â pharch. Neu sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a bod gofal da’n cael ei ddarparu i bobl sy’n cyrraedd diwedd eu hoes.

Rydym yn rhoi arweiniad a chyngor ar bynciau fel cyfrinachedd, proffesiynoldeb a gwneud penderfyniadau. Rydym hefyd yn datblygu sefyllfaoedd ac offer sy’n helpu meddygon i gymhwyso’r egwyddorion yn eu hymarfer. 

Drwy broses o’r enw ailddilysu, rydym yn gofyn am sicrwydd bod meddygon, PAs a AAs yn parhau i fodloni’r safonau proffesiynol hyn drwy gydol eu gyrfaoedd. 

Darllenwch fwy am Arfer meddygol da a’r safonau proffesiynol a osodwyd gennym (Saesneg yn unig) .