Cefnogi gofal mamolaeth da a diogel
Dylai pawb gael gofal mamolaeth diogel a thosturiol. Ond rydym ni'n gwybod nad yw hynny wedi digwydd bob amser: mae rhai menywod a theuluoedd wedi cael profiadau anodd iawn sydd wedi newid eu bywydau.
Rydym ni eisiau helpu i wella pethau. Fel sefydliad sy’n dysgu ac yn gwella, rydym ni’n cefnogi newid gwirioneddol er mwyn i ofal mamolaeth fod yn fwy diogel ac yn well i bawb.
Sut gallwn ni helpu
Os yw gweithiwr proffesiynol sy'n cael ei reoleiddio gennym ni yn methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig, ac yn darparu gofal anniogel, gallwn ni gynnal ymchwiliad. Rydym ni hefyd yn sicrhau bod menywod a deuluoedd yn teimlo'n ddiogel wrth rannu eu pryderon â ni.
Rydym ni'n deall bod angen dewrder i siarad am brofiadau personol anodd, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r fenywod a'r teuluoedd sydd wedi rhannu eu profiadau nhw o broblemau ym maes gofal mamolaeth.
Os byddwch chi’n codi pryder, byddwn ni’n:
- cymryd eich profiad o ddifri, gan gynnwys sut mae’r profiad wedi effeithio arnoch chi a’ch teulu
- eich helpu chi i ddeall beth yw’r broses
- rhoi gwybod i chi pan fydd pob cam o’r broses yn dechrau ac yn gorffen
- eich helpu chi i gael gafael ar gymorth, fel cwnsela a gwasanaethau cyngor.
Rhagor o wybodaeth am sut y gallwn ni eich cefnogi chi gyda’ch pryder.
Os ydych chi'n profi gofid seicolegol ac angen cymorth iechyd meddwl neu gymorth therapiwtig, cysylltwch â'ch meddyg teulu.
Adolygiadau ac Ymholiadau
Rydym ni hefyd yn cymryd rhan mewn adolygiadau ac ymholiadau cenedlaethol sydd yn edrych ar ofal mamolaeth. Mae’r adolygiadau hyn yn nodi meysydd i’w gwella ac yn awgrymu ffyrdd o wneud gofal yn fwy diogel ac yn decach i bawb. Mae ein gwaith ni yn cynnwys cefnogi Adolygiad Mamolaeth Ockenden o’r gofal a ddarperir i deuluoedd yn Nottingham, yn ogystal â’r archwiliad cenedlaethol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y GIG. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym ni'n ceisio sicrhau bod pobl a gafodd brofiadau negyddol o ofal mamolaeth yn gwybod pwy ydym ni, yn ymwybodol o'r gwaith rydym ni'n ei wneud ac yn deall sut y gallwn ni eu cefnogi nhw - mewn ardaloedd lleol ac ar draws y wlad.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â ni: maternity@gmc-uk.org.
Rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym ni’n ymateb i adolygiadau ac ymholiadau eraill er mwyn cefnogi gofal gwell i gleifion.