Defnyddio a datgelu gwybodaeth cleifion at ddibeniongofal uniongyrchol
Rhannu gwybodaeth at ddibenion gofal uniongyrchol
Mae rhannu gwybodaeth mewn ffordd briodol yn rhan hanfodol o ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Efallai y bydd cleifion mewn perygl os nad oes modd i’r rhai sy’n darparu eu gofal droi at wybodaeth berthnasol a manwl, a’r wybodaeth ddiweddaraf, amdanynt.9 Mae gwaith tîm amlddisgyblaethol ac amlasiantaeth yn rhoi pwyslais cynyddol ar ofal integredig a gweithio mewn partneriaeth hefyd, ac mae rhannu gwybodaeth yn rhan ganolog o hyn, ond rhaid rhannu gwybodaeth o fewn y fframwaith a ddarparir gan y gyfraith a moeseg.
Yn 2013, diweddarwyd egwyddorion Caldicott er mwyn cynnwys egwyddor newydd: ‘gall dyletswydd rhannu gwybodaeth fod yr un mor bwysig â ddyletswydd diogelu cyfrinachedd claf.’
Caniatâd dealledig a rhannu gwybodaeth at ddibenion gofaluniongyrchol
Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn deall ac yn disgwyl bod yn rhaid i wybodaeth berthnasol gael ei rhannu o fewn y tîm gofal uniongyrchol er mwyn darparu eu gofal.19 Dylech rannu gwybodaeth berthnasol gyda’r rhai sy’n darparu neu sy’n cynorthwyo gyda’r gofal uniongyrchol ar gyfer claf, ond bai bod y claf wedi gwrthwynebu (gweler paragraphs 30 and 31).11
Os bydd claf yn gwrthwynebu i’r cam o rannu gwybodaeth bersonol benodol at ddibenion eu gofal uniongyrchol, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth oni bai y byddai modd cyfiawnhau gwneud hynny er budd y cyhoedd,12 neu os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i wneud y penderfyniad. Mae modd i chi weld arweiniad pellach ynghylch datgeliadau gwybodaeth am oedolion heb alluedd i roi eu caniatâd ym paragraphs 41 - 49.
Dylech esbonio i’r claf ganlyniadau posibl penderfyniad i beidio caniatáu i wybodaeth bersonol gael ei rhannu gydag eraill sy’n darparu eu gofal. Dylech ystyried hefyd gyda’r claf a oes modd dod i unrhyw gyfaddawd. Ar ôl cael trafodaeth, os bydd claf sy’n meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad yn gwrthwynebu o hyd i’r cam o ddatgelu gwybodaeth bersonol y mae’n hanfodol ei datgelu yn eich barn chi er mwyn darparu gofal diogel, dylech esbonio nad oes modd i chi eu cyfeirio neu drefnu eu triniaeth fel arall heb ddatgelu’r wybodaeth honno hefyd.
Yn yr arweiniad hwn, mae ‘gofal uniongyrchol’ yn cyfeirio at weithgareddau sy’n gwneud cyfraniad uniongyrchol i ddiagnosis, gofal a thriniaeth unigolyn. Mae’r tîm gofal uniongyrchol yn cynnwys y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol hynny sy’n darparu gofal uniongyrchol i’r claf, ac eraill, megis staff gweinyddol, sy’n cynorthwyo’r gofal hwnnw mewn ffordd uniongyrchol.
Yn Lloegr, crëwyd dyletswydd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diogelwch ac Ansawdd) 2015 i rannu gwybodaeth at ddibenion gofal uniongyrchol ac eithrio mewn amgylchiadau penodol. Gweler atodiad cyfreithiol yr arweiniad hwn am ragor o wybodaeth.
Y sail arferol dros rannu gwybodaeth at ddibenion gofal uniongyrchol yw caniatâd y claf, boed hwnnw’n ganiatâd penodol neu ddealledig (gweler paragraph 13 am ddiffiniadau). Mae modd i chi ddibynnu ar ganiatâd dealledig er mwyn troi at wybodaeth berthnasol am y claf neu er mwyn ei rhannu gyda’r rhai sy’n darparu (neu sy’n cynorthwyo darpariaeth) gofal uniongyrchol i’r claf os bodlonir yr holl amodau canlynol.
- Rydych yn troi at y wybodaeth er mwyn darparu neu gynorthwyo gofal uniongyrchol y claf unigol, neu rydych yn fodlon bod yr unigolyn yr ydych yn rhannu’r wybodaeth gyda nhw yn troi ati neu’n ei chael at y diben hwn.
- Mae gwybodaeth ar gael yn hawdd i gleifion sy’n esbonio sut y defnyddir eu gwybodaeth a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu. Mae modd darparu’r wybodaeth hon mewn taflenni a phosteri, ar wefannau, a thrwy siarad â nhw wyneb yn wyneb. Dylid ei theilwra i ofynion cyfathrebu cleifion a nodwyd i’r graddau ag y bo hynny’n ymarferol.
- Nid oes gennych chi unrhyw reswm dros gredu bod y claf wedi gwrthwynebu.
- Rydych yn teimlo’n fodlon bod unrhyw un yr ydych yn datgelu gwybodaeth bersonol iddynt yn deall eich bod yn ei rhoi iddynt mewn ffordd gyfrinachol, a bod yn rhaid iddynt barchu hynny.
Mae gofyn i glaf am eu cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth yn dangos parch, ac mae’n rhan o drefniadau cyfathrebu da rhwng weithwyr meddygol proffesiynol a chleifion. Dan gyfraith gyffredin dyletswydd cyfrinachedd, gall caniatâd fod yn benodol neu’n ddealledig.6
- Rhoddir cydsyniad penodol (a elwir yn ganiatâd datganedig hefyd) pan fydd claf yn cytuno mewn ffordd weithredol, ar lafar neu’n ysgrifenedig, i’r cam o ddefnyddio neu ddatgelu gwybodaeth.
- Mae cydsyniad dealledig yn cyfeirio at amgylchiadau lle y byddai’n rhesymol casglu bod y claf yn cytuno i’r cam o ddefnyddio’r wybodaeth, er nad yw hyn wedi cael ei fynegi mewn ffordd uniongyrchol.
Os ydych yn amau y byddai claf yn synnu cael gwybod sut yr ydych chi’n troi at neu’n datgelu eu gwybodaeth bersonol, dylech ofyn am ganiatâd penodol oni bai ei bod hi’n anymarferol gwneud hynny (gweler paragraph 14). Er enghraifft, efallai na fydd claf yn disgwyl bod modd i chi droi at wybodaeth gan asiantaeth neu ddarparwr gofal iechyd arall mewn cofnod a rennir.
Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth ar sail caniatâd dealledig ar gyfer gofal uniongyrchol pan fodlonir yr amodau ym paragraphs 28 and 29, ac ar gyfer gwaith archwilio clinigol lleol pan fodlonir yr amodau ym paragraph 96. Mewn achosion eraill, dylech ofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn amhriodol neu’n anymarferol i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:
Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:
- bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19)
- rydych yn fodlon bod caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys eisoes wedi cael ei sicrhau gan unigolyn addas7
- nad yw’r claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad. Mewn achos o’r fath, dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd (gweler paragraphs 41 - 49)
- mae gennych reswm dros gredu y byddai ceisio caniatâd yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
- byddai ceisio caniatâd yn debygol o danseilio diben y datgeliad, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
- rhaid gweithredu’n gyflym, er enghraifft wrth ddarganfod neu reoli achosion o rai clefydau trosglwyddadwy lle nad oes amser digonol ar gael i gysylltu â’r claf
- nad yw ceisio caniatâd yn gam ymarferol o ystyried nifer neu oedran y cofnodion, neu’r tebygolrwydd y gellir olrhain cleifion
- rydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth yn barod er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).
Gwrthwynebiadau claf i’r cam o rannu gwybodaeth ar gyfer eu gofal euhunain
Os bydd claf yn gwrthwynebu i’r cam o rannu gwybodaeth bersonol benodol at ddibenion eu gofal uniongyrchol, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth oni bai y byddai modd cyfiawnhau gwneud hynny er budd y cyhoedd,12 neu os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i wneud y penderfyniad. Mae modd i chi weld arweiniad pellach ynghylch datgeliadau gwybodaeth am oedolion heb alluedd i roi eu caniatâd ym paragraphs 41 - 49.
Rhaid i chi weithio ar sail y dybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, yn unig.
Rhaid i chi asesu galluedd claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud, gan gydnabod y gallai amrywiadau yng nghyflwr claf effeithio ar eu gallu i ddeall, cofio neu bwyso a mesur gwybodaeth, neu gyfathrebu eu dymuniadau.
Rydym yn rhoi cyngor manwl ynghylch asesu galluedd meddyliol claf yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Yn ogystal, rhoddir arweiniad ymarferol yng nghodau ymarfer Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.14
Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i roi eu caniatâd. Wrth wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd, rhaid i chi:
- sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf
- parchu urddas a phreifatrwydd y claf
- cynorthwyo ac annog y claf i gymryd rhan, gymaint ag y maent yn ei ddymuno a chymaint ag y gallant, mewn penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.
Yn ogystal, rhaid i chi ystyried:
- a yw diffyg galluedd y claf yn sefyllfa barhaol neu’n sefyllfa dros dro, ac os yw’n sefyllfa dros dro, a fyddai’n rhesymol aros nes iddynt adennill galluedd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch datgelu
- unrhyw dystiolaeth o ddewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol
- safbwyntiau unrhyw un y mae’r claf yn gofyn i chi ymgynghori â nhw, neu y mae ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eu rhan, neu y maent wedi cael eu penodi i’w cynrychioli
- safbwyntiau pobl sy’n agos i’r claf ynghylch dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf, ac a ydynt o’r farn bod y datgeliad arfaethedig o fudd cyffredinol i’r claf
- yr hyn yr ydych chi a gweddill y tîm gofal iechyd yn ei wybod am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf.
Efallai y bydd angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda pherthnasau, ffrindiau neu ofalwyr claf er mwyn eich galluogi i asesu’r budd cyffredinol i’r claf. Ond nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl cyffredinol i droi at gofnodion y claf neu i gael gwybodaeth amherthnasol am ofal iechyd y claf yn y gorffennol, er enghraifft.
Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol gydag unrhyw un sydd wedi cael eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ran claf heb alluedd i roi eu caniatâd, neu unrhyw un a benodir i gynorthwyo a chynrychioli claf o’r fath. Gallai hwn/hon fod yn atwrnai lles, yn ddirprwy neu’n warcheidwad a benodir gan lys neu’n eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Dylech rannu gwybodaeth gydag eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol mewn rhai amgylchiadau hefyd.15
Os bydd claf yn gofyn i chi beidio datgelu gwybodaeth bersonol am eu cyflwr neu eu triniaeth, ac os ydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, dylech geisio’u perswadio i ganiatáu i unigolyn priodol gael gwybodaeth berthnasol am eu gofal. Mewn rhai achosion, bydd gofyn neu bydd angen datgelu gwybodaeth, er enghraifft dan ddarpariaethau cyfreithiau iechyd meddwl a galluedd meddyliol (gweler paragraff 47).
Os nad yw’r claf yn dymuno i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd, ond rydych chi o’r farn y byddai hynny o fudd cyffredinol i’r claf ac rydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol i unigolyn neu awdurdod priodol. Mewn achosion o’r fath, dylech ddweud wrth y claf cyn datgelu’r wybodaeth ac os yw hynny’n briodol, dylech geisio safbwyntiau eiriolwr neu ofalwr a’u hystyried yn ofalus. Rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau a’r rhesymau dros benderfynu datgelu’r wybodaeth yng nghofnodion y claf.14
Er enghraifft, os gallai staff sy’n darparu triniaeth fod mewn perygl o ddioddef niwed difrifol nad oes modd ei reoli trwy ddefnyddio rhagofalon cyffredinol. Gweler ein harweiniad esboniadol Datgelu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy difrifol. Mae modd i chi weld holl ganllawiau'r GMC am safonau proffesiynol a moeseg ar ein gwefan.
Dylech esbonio i’r claf ganlyniadau posibl penderfyniad i beidio caniatáu i wybodaeth bersonol gael ei rhannu gydag eraill sy’n darparu eu gofal. Dylech ystyried hefyd gyda’r claf a oes modd dod i unrhyw gyfaddawd. Ar ôl cael trafodaeth, os bydd claf sy’n meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad yn gwrthwynebu o hyd i’r cam o ddatgelu gwybodaeth bersonol y mae’n hanfodol ei datgelu yn eich barn chi er mwyn darparu gofal diogel, dylech esbonio nad oes modd i chi eu cyfeirio neu drefnu eu triniaeth fel arall heb ddatgelu’r wybodaeth honno hefyd.
Os na fydd modd hysbysu claf
Efallai y bydd amgylchiadau’n codi pan na fydd modd hysbysu’r claf ynghylch y cam o ddatgelu gwybodaeth bersonol, er enghraifft mewn argyfwng meddygol. Mewn achosion o’r fath, dylech drosglwyddo gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i’r rhai sy’n darparu gofal y claf.
Os bydd y claf yn adennill eu galluedd i ddeall, dylech eu hysbysu sut y datgelwyd eu gwybodaeth bersonol os gwnaethpwyd hynny mewn ffordd na fyddai’n rhesymol iddynt ddisgwyl ei bod wedi cael ei gwneud.
Rhannu gwybodaeth gyda’r rhai sy’n agos i’r claf
Rhaid i chi fod yn ystyriol o’r rhai sy’n agos i’r claf a bod yn sensitif ac yn ymatebol wrth roi gwybodaeth a chymorth iddynt, gan barchu hawl y claf i gael cyfrinachedd ar yr un pryd.
Darganfod yr hyn y mae’r claf yn ei ddymuno
Gall y bobl sy’n agos i glaf gyflawni rôl arwyddocaol wrth gynorthwyo neu ofalu am y claf, ac efallai y byddant yn dymuno cael neu efallai y bydd angen iddynt gael gwybodaeth am ddiagnosis, triniaeth neu ofal y claf. Gall trafodaethau cynnar am ddymuniadau’r claf helpu i osgoi datgeliadau y gallent wrthwynebu iddynt. Yn ogystal, gall trafodaethau o’r fath helpu i osgoi camddealltwriaeth gyda neu dramgwyddo neu beri gofid i unrhyw un y byddai’r claf yn dymuno bod gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda nhw.
Dylech gadarnhau gyda’r claf pa wybodaeth y maent yn dymuno i chi ei rhannu, gyda phwy, ac ym mha amgylchiadau. Bydd hyn yn arbennig o bwysig os yw galluedd y claf yn amrywio neu’n dirywio neu os ydynt yn debygol o golli galluedd, hyd yn oed dros dro. Dylech gofnodi dymuniadau’r claf yn eu cofnodion.
Cydymffurfio â dymuniadau’r claf
Os bydd claf sy’n meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad yn gwrthod rhoi eu caniatâd i’r cam o rannu gwybodaeth gydag unigolyn penodol neu grŵp o bobl, efallai y bydd hi’n briodol annog y claf i ailystyried y penderfyniad hwnnw os gallai’r cam o rannu’r wybodaeth fod o fudd i ofal a chymorth y claf. Rhaid i chi, fodd bynnag, gydymffurfio â dymuniadau’r claf, oni bai y byddai modd cyfiawnhau ei datgelu er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).
Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol.23
Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.
Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, os byddai datgeliad yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol, yn enwedig troseddau yn erbyn yr unigolyn. Pan fydd dioddefwyr trais yn gwrthod cymorth yr heddlu, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd os bydd eraill yn parhau i fod mewn perygl, er enghraifft, gan rywun sy’n barod i ddefnyddio arfau, neu gan drais domestig pan allai plant neu eraill fod mewn perygl.
Mae enghreifftiau eraill o sefyllfaoedd lle y gallai methu datgelu gwybodaeth olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth yn cynnwys pan na fydd claf yn ffit i yrru,24 neu pan fyddant wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef clefyd trosglwyddadwy difrifol,25 neu pan fyddant yn peri risg difrifol i eraill o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn ffit i weithio.26
Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried:
- y niwed neu’r gofid posibl i’r claf yn deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu cyswllt gyda thriniaeth a’u hiechyd cyffredinol yn y dyfodol
- y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os yw’n cael ei dybio yn eang bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn barod i ddatgelu gwybodaeth am gleifion heb sicrhau eu caniatâd
- y niwed posibl i eraill (boed hynny’n unigolyn penodol neu’n bobl, neu i’r cyhoedd yn ehangach) os na ddatgelir y wybodaeth
- y budd posibl i unigolyn neu i gymdeithas sy’n deillio o’r cam o ryddhau’r wybodaeth
- natur y wybodaeth i’w datgelu, ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf
- a oes modd osgoi niwed neu sicrhau budd heb dorri cyfrinachedd y claf, neu os na, beth yw’r ymyriad lleiaf y gellir ei wneud.
Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd.
Mae penderfyniadau ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Pan fo hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor gan warcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd arbenigol tebyg nad ydynt yn gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y claf.
Rhaid i chi gofnodi yng nghofnod y claf eich rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd neu heb sicrhau caniatâd. Yn ogystal, rhaid i chi gofnodi unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio caniatâd y claf, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.
Os bydd claf heb alluedd i wneud y penderfyniad, mae’n rhesymol tybio y byddai’r claf yn dymuno i’r rhai agosaf iddynt gael gwybod am eu cyflwr cyffredinol a’u prognosis, oni bai eu bod yn dynodi fel arall (neu eu bod wedi dynodi fel arall yn flaenorol). Mae modd i chi weld cyngor manwl am ystyried datgeliadau ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd ym paragraphs 41 - 49.
Rhaid i chi weithio ar sail y dybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, yn unig.
Rhaid i chi asesu galluedd claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud, gan gydnabod y gallai amrywiadau yng nghyflwr claf effeithio ar eu gallu i ddeall, cofio neu bwyso a mesur gwybodaeth, neu gyfathrebu eu dymuniadau.
Rydym yn rhoi cyngor manwl ynghylch asesu galluedd meddyliol claf yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Yn ogystal, rhoddir arweiniad ymarferol yng nghodau ymarfer Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.14
Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i roi eu caniatâd. Wrth wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd, rhaid i chi:
- sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf
- parchu urddas a phreifatrwydd y claf
- cynorthwyo ac annog y claf i gymryd rhan, gymaint ag y maent yn ei ddymuno a chymaint ag y gallant, mewn penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.
Yn ogystal, rhaid i chi ystyried:
- a yw diffyg galluedd y claf yn sefyllfa barhaol neu’n sefyllfa dros dro, ac os yw’n sefyllfa dros dro, a fyddai’n rhesymol aros nes iddynt adennill galluedd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch datgelu
- unrhyw dystiolaeth o ddewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol
- safbwyntiau unrhyw un y mae’r claf yn gofyn i chi ymgynghori â nhw, neu y mae ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eu rhan, neu y maent wedi cael eu penodi i’w cynrychioli
- safbwyntiau pobl sy’n agos i’r claf ynghylch dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf, ac a ydynt o’r farn bod y datgeliad arfaethedig o fudd cyffredinol i’r claf
- yr hyn yr ydych chi a gweddill y tîm gofal iechyd yn ei wybod am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf.
Efallai y bydd angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda pherthnasau, ffrindiau neu ofalwyr claf er mwyn eich galluogi i asesu’r budd cyffredinol i’r claf. Ond nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl cyffredinol i droi at gofnodion y claf neu i gael gwybodaeth amherthnasol am ofal iechyd y claf yn y gorffennol, er enghraifft.
Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol gydag unrhyw un sydd wedi cael eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ran claf heb alluedd i roi eu caniatâd, neu unrhyw un a benodir i gynorthwyo a chynrychioli claf o’r fath. Gallai hwn/hon fod yn atwrnai lles, yn ddirprwy neu’n warcheidwad a benodir gan lys neu’n eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Dylech rannu gwybodaeth gydag eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol mewn rhai amgylchiadau hefyd.15
Os bydd claf yn gofyn i chi beidio datgelu gwybodaeth bersonol am eu cyflwr neu eu triniaeth, ac os ydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, dylech geisio’u perswadio i ganiatáu i unigolyn priodol gael gwybodaeth berthnasol am eu gofal. Mewn rhai achosion, bydd gofyn neu bydd angen datgelu gwybodaeth, er enghraifft dan ddarpariaethau cyfreithiau iechyd meddwl a galluedd meddyliol (gweler paragraff 47).
Os nad yw’r claf yn dymuno i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd, ond rydych chi o’r farn y byddai hynny o fudd cyffredinol i’r claf ac rydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol i unigolyn neu awdurdod priodol. Mewn achosion o’r fath, dylech ddweud wrth y claf cyn datgelu’r wybodaeth ac os yw hynny’n briodol, dylech geisio safbwyntiau eiriolwr neu ofalwr a’u hystyried yn ofalus. Rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau a’r rhesymau dros benderfynu datgelu’r wybodaeth yng nghofnodion y claf.14
Gwrando ar y rhai sy’n agos i’r claf
Yn y rhan fwyaf o achosion, cynhelir trafodaethau gyda’r rhai sy’n agos i’r claf, a bydd y claf yn ymwybodol o hyn ac yn fodlon i hyn ddigwydd. Ond os bydd rhywun sy’n agos i’r claf yn dymuno trafod eu pryderon am iechyd y claf heb gynnwys y claf, ni ddylech wrthod gwrando ar eu safbwyntiau neu eu pryderon am resymau sy’n ymwneud â chyfrinachedd. Efallai y bydd y wybodaeth y byddant yn ei rhoi i chi o gymorth gyda’ch gofal o’r claf.
0 Dylech, fodd bynnag, ystyried a fyddai’ch claf yn ystyried sefyllfa lle y byddech chi’n gwrando ar safbwyntiau neu bryderon unigolion eraill fel enghraifft o dor-ymddiriedaeth, yn enwedig os ydynt wedi gofyn i chi beidio gwrando ar bobl penodol. Dylech nodi mewn ffordd eglur hefyd, er nad yw gwrando ar eu pryderon yn torri amodau cyfrinachedd, y bydd angen i chi ddweud wrth y claf am wybodaeth yr ydych chi wedi’i chael gan eraill efallai – er enghraifft, os yw wedi dylanwadu ar eich asesiad a’ch triniaeth o’r claf.13 Dylech ofalu hefyd nad ydych yn datgelu gwybodaeth bersonol mewn ffordd anfwriadol – er enghraifft, trwy gadarnhau neu wadu tybiaethau’r unigolyn ynghylch iechyd y claf.
Yn ogystal, mae gan gleifion yr hawl i droi at eu cofnodion iechyd dan gyfraith diogelu data. Gweler ôl-nodyn 54.
Datgeliadau am gleifion heb alluedd i roi eu caniatâd
Rhaid i chi weithio ar sail y dybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, yn unig.
Rhaid i chi asesu galluedd claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud, gan gydnabod y gallai amrywiadau yng nghyflwr claf effeithio ar eu gallu i ddeall, cofio neu bwyso a mesur gwybodaeth, neu gyfathrebu eu dymuniadau.
Rydym yn rhoi cyngor manwl ynghylch asesu galluedd meddyliol claf yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Yn ogystal, rhoddir arweiniad ymarferol yng nghodau ymarfer Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.14
Nid yw prif ddarpariaethau Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 wedi dod i rym eto. Felly, mae dyletswydd y gyfraith gyffredin i weithredu er budd pennaf claf heb alluedd i roi eu eu caniatâd yn parhau nes bydd y Ddeddf hon yn cychwyn. Yn yr Alban, o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 (Deddf 2000), bydd gennych chi awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth os mai chi yw’r ymarferydd meddygol sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, yn amodol ar gyhoeddi tystysgrif analluedd. Yn y cyd-destun hwn, ystyrir bod ‘ymarferydd meddygol’ yn golygu ‘meddyg’ o’r defnydd a wneir yn Neddf Feddygol 1983. Dylid nodi nad yw’r awdurdod cyfreithiol hwn yn yr Alban wedi’i gyfyngu’n unig i feddygon, gan fod adran 47(1A) o Ddeddf 2000 yn datgan gan ymarferwyr meddygol, ymarferwyr deintyddol, optegwyr offthalmig, nyrsys cofrestredig, ac unrhyw unigolyn sy’n dod o fewn y disgrifiad hwnnw o bersonau a ragnodir gan Weinidogion yr Alban, hefyd yr awdurdod hwn. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys cymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia, felly ar y sail hynny nid oes gan gymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia yr awdurdod cyfreithiol hwn.
Ystyried y datgeliad
Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i roi eu caniatâd. Wrth wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd, rhaid i chi:
- sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf
- parchu urddas a phreifatrwydd y claf
- cynorthwyo ac annog y claf i gymryd rhan, gymaint ag y maent yn ei ddymuno a chymaint ag y gallant, mewn penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.
Yn ogystal, rhaid i chi ystyried:
- a yw diffyg galluedd y claf yn sefyllfa barhaol neu’n sefyllfa dros dro, ac os yw’n sefyllfa dros dro, a fyddai’n rhesymol aros nes iddynt adennill galluedd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch datgelu
- unrhyw dystiolaeth o ddewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol
- safbwyntiau unrhyw un y mae’r claf yn gofyn i chi ymgynghori â nhw, neu y mae ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eu rhan, neu y maent wedi cael eu penodi i’w cynrychioli
- safbwyntiau pobl sy’n agos i’r claf ynghylch dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf, ac a ydynt o’r farn bod y datgeliad arfaethedig o fudd cyffredinol i’r claf
- yr hyn yr ydych chi a gweddill y tîm gofal iechyd yn ei wybod am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf.
Efallai y bydd angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda pherthnasau, ffrindiau neu ofalwyr claf er mwyn eich galluogi i asesu’r budd cyffredinol i’r claf. Ond nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl cyffredinol i droi at gofnodion y claf neu i gael gwybodaeth amherthnasol am ofal iechyd y claf yn y gorffennol, er enghraifft.
Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol gydag unrhyw un sydd wedi cael eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ran claf heb alluedd i roi eu caniatâd, neu unrhyw un a benodir i gynorthwyo a chynrychioli claf o’r fath. Gallai hwn/hon fod yn atwrnai lles, yn ddirprwy neu’n warcheidwad a benodir gan lys neu’n eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Dylech rannu gwybodaeth gydag eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol mewn rhai amgylchiadau hefyd.15
Dylai eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol gael y wybodaeth a restrir yn adran 130B Deddf Iechyd Meddwl 1983 hefyd. Rhoddir arweiniad ynghylch rolau eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol yng Nghod Ymarfer 2015 Deddf Iechyd Meddwl 1983.
Os bydd claf heb alluedd yn gofyn i chi beidio datgelu